Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Mewnforion dros dro
Fel arfer, gallwch ddefnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor heb ei gofrestru na’i drethu yn y DU os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn ymweld ac nad ydych yn bwriadu byw yma
-
mae’r cerbyd wedi’i gofrestru a’i drethu yn ei wlad wreiddiol
-
dim ond am hyd at 6 mis i gyd y byddwch yn defnyddio’r cerbyd - gall hyn fod yn un ymweliad, neu sawl ymweliad byrrach dros 12 mis
Bydd angen ichi gofrestru’ch cerbyd os ydych am ei symud rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a Gogledd Iwerddon.
Os byddwch yn dod yn breswylydd neu’n aros am fwy na 6 mis, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych yn ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych yn ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch yn ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych yn gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Ni fydd yn rhaid ichi dalu TAW na tholl dramor os byddwch yn dod â’ch cerbyd eich hun o’r UE.
Ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio os oes gennych gwestiynau am ddod â cherbyd o’r UE am lai na 6 mis.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych yn ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych yn ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
rydych yn ei ail-allforio o’r DU o fewn 6 mis - neu’n hirach os ydych yn gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os:
-
ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn cael eich stopio gan yr heddlu
Rhaid ichi ddangos i’r heddlu y gallwch ddefnyddio’r cerbyd yn y DU heb ei drethu a’i gofrestru yma, er enghraifft tystiolaeth:
-
o’r amser rydych wedi bod yn y DU (fel tocyn fferi)
-
bod eich cerbyd yn gymwys i gael rhyddhad rhag TAW a tholl dramor fel mewnforyn dros dro, fel llythyr gan CThEF
Pan fydd angen platiau rhif Q arnoch
Rhaid ichi gael platiau rhif Q dros dro gan y DVLA os ydych yn ymweld â’r DU am hyd at 6 mis a’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae eich platiau rhif yn dangos rhifau neu lythrennau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU, er enghraifft sgript Arabeg
-
nid yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru yn ei wlad wreiddiol
Cysylltwch â DVLA os oes rhaid ichi gael platiau rhif Q dros dro.
Cyn ichi gael platiau rhif Q
Rhaid ichi hawlio rhyddhad rhag TAW a tholl dramor cyn y gallwch gael platiau rhif Q dros dro.
I hawlio rhyddhad, llenwch ffurflen C110 ar ôl i’r car gyrraedd y DU a’i hanfon i dîm NTAS i’w stampio.
NTAS team
Second Floor West
Ralli Quays
3 Stanley Street
Salford
M60 9LA