Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Gwneud datganiad mewnforio
Fel arfer, mae angen ichi wneud datganiad mewnforio os ydych yn dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Prydain Fawr, o unrhyw le
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Ni fydd angen ichi wneud datganiad mewnforio os ydych yn dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Gogledd Iwerddon o’r UE
-
Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, o Ynys Manaw
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludo
Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Gallant naill ai wneud y datganiad cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.
Bydd angen talu unrhyw TAW neu doll tramor wrth y ffin.
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
Nid oes angen ichi wneud datganiad mewnforio cyn ichi ddod â’r cerbyd i’r wlad neu wrth y ffin.
Mae angen ichi wneud datganiad mewnforio dim ond os oes unrhyw TAW neu doll dramor i’w thalu. Bydd CThEF yn rhoi gwybod ichi os oes angen ichi dalu unrhyw beth ar ôl ichi ddod â’r cerbyd i mewn i’r DU.
Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi.
Gwneud cais am ryddhad treth
Gall eich cwmni cludo neu asiant tollau wneud cais am ryddhad ar TAW a tholl dramor pan fyddant yn gwneud eich datganiad mewnforio.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio os yw’r canlynol yn wir:
-
roeddech yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
-
rydych yn symud i’r DU yn barhaol
Os roeddech yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
I hawlio Rhyddhad ar Nwyddau a Dychwelwyd, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
-
rhaid ichi fod wedi prynu’r cerbyd newydd neu’n ail-law yn y DU
-
rhaid ichi fod wedi talu TAW ar y cerbyd os gwnaethoch ei brynu’n newydd
-
rhaid i’r person sy’n mewnforio’r cerbyd fod yr un person a’i cymerodd allan o’r DU
-
rhaid i’r cerbyd beidio â bod wedi’i uwchraddio i gynyddu ei werth
I wneud cais am Ryddhad Nwyddau a Dychwelwyd, anfonwch y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
ffurflen C179B wedi’i llenwi
-
tystiolaeth eich bod wedi bod yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol, er enghraifft, copi o lyfr log (V5CW) y DU blaenorol, bil gwerthu neu anfoneb prynu
-
copi o’r ddogfen gofrestru gyfredol o’r wlad allforio
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu Gyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
Os ydych yn symud i’r DU
Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad trosglwyddo preswylio (TOR) os yw’r DU i fod yn eich prif fan preswylio.
Bydd angen ichi gael cymeradwyaeth gan CThEF drwy lenwi ffurflen ToR1.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch gyda chyfeirnod unigryw. Bydd angen ichi gynnwys y cyfeirnod hwn wrth wneud y datganiad mewnforio.
Bydd angen ichi hefyd anfon y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
eich cyfeiriad yn y DU
-
y dyddiad cyrhaeddodd y cerbyd y DU
-
bil gwerthu neu anfoneb prynu ar gyfer y cerbyd
-
copïau o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau VIN neu rif siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu MRN ar gyfer eich cerbyd