Talu TAW ar fewnforion cerbydau i Ogledd Iwerddon o’r UE

Mae angen ichi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) cyn ichi gofrestru cerbyd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • os gwnaethoch fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE

  • os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW neu eich bod yn unigolyn preifat

Yr hyn bydd ei angen arnoch i wneud taliad

Defnyddiwch eich cyfeirnod Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) gyda 13 o gymeriadau pan fyddwch yn talu. Gallwch ddod o hyd iddo:

  • ar yr e-bost anfonodd CThEF atoch os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth NOVA

  • ar yr hysbysiad talu anfonodd CThEF atoch

Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau yn eich cyfeirnod.

Talu ar-lein

Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol. Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad am fewnforio cerbydau i mewn i’r DU.

Talu TAW nawr

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir ichi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Bydd angen ichi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law i dalu drwy’r dull hwn.

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy eich cyfrif banc ar-lein 

  • drwy ffonio’ch banc

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • cod didoli - 08 32 00

  • rhif y cyfrif - 12000903

  • enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor

Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB20 BARC 2005 1730 3364 91

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22

  • enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP