Talu TAW a tholl dramor

Mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu TAW mewnforio a tholl dramor pan fyddwch yn mewnforio cerbyd. 

Codir TAW ar gyfanswm cost y cerbyd, ynghyd ag unrhyw un o’r canlynol:

  • ategolion y gwnaethoch eu prynu gydag ef

  • dosbarthu a thaliadau ychwanegol

  • toll dramor

Codir tollau ar gerbydau a fewnforir i’r gwledydd canlynol:

  • Cymru, Lloegr a’r Alban o’r tu allan i’r DU 

  • Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU neu’r UE

Mae’r cyfraddau a godir arnoch yn dibynnu ar y math o gerbyd ac o ble rydych yn ei fewnforio. Gallwch wirio’r cyfraddau gyda’ch cwmni cludo neu’ch asiant tollau neu gallwch ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae sut rydych yn talu yn dibynnu ar y canlynol:

  • o ble rydych yn mewnforio’r cerbyd

  • p’un a ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo neu os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun

Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych yn talu TAW a tholl dramor ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.

Os gwnaethoch fewnforio’r cerbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban o’r tu allan i’r DU

Pam wnaethoch ei fewnforio Yr hyn rydych yn ei dalu 
Rydych yn symud i’r DU gyda’ch cerbyd Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad
Rydych yn dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad
Rydych yn ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro
Unrhyw reswm arall - os nad ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW TAW a tholl dramor
Unrhyw reswm arall - os ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW TAW a tholl dramor

Sut i dalu os ydych yn ddyledus ar TAW a tholl dramor 

Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU. 

Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a tholl dramor, mae angen ichi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod ichi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.

Os ydych wedi cofrestru TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.

Mae’n rhaid ichi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.

Os gwnaethoch fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE

Fel arfer, dim ond ar gerbydau newydd y codir TAW arno. Mae cerbyd yn newydd os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae’r cerbyd wedi cael ei yrru llai na 6,000km (tua 3,728 milltir)

  • mae’r cerbyd wedi bod yn cael ei ddefnyddio am ddim mwy na 6 mis

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae angen ichi gyfrif am unrhyw TAW rydych wedi’i dalu ar eich Ffurflen TAW nesaf.

Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW neu os ydych yn unigolyn preifat, mae angen ichi dalu CThEF yn uniongyrchol cyn y gallwch gofrestru eich cerbyd.

Adennill VAT

Os oes rhaid ichi ddatgan TAW i CThEF, gallwch hawlio unrhyw TAW a dalwyd gennych yn yr UE. Anfonwch y Dystysgrif TAW a gewch gan CThEF at y person a werthodd y cerbyd ichi.

Os gwnaethoch fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU a’r UE

Pam wnaethoch ei fewnforio Yr hyn rydych yn ei dalu 
Rydych yn symud i’r DU gyda’ch cerbyd Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad
Rydych yn dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad
Rydych yn ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro
Unrhyw reswm arall - os nad ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW TAW a tholl dramor
Unrhyw reswm arall - os ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW TAW a tholl dramor

Sut i dalu os ydych yn ddyledus ar TAW a tholl dramor 

Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU. 

Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a tholl dramor, mae angen ichi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod ichi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.

Mae’n rhaid ichi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.