Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Talu TAW ar fewnforion cerbydau i Ogledd Iwerddon o’r UE
Mae angen i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi gofrestru cerbyd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
-
os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW neu eich bod yn unigolyn preifat
Yr hyn bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad
Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) 13 o gymeriadau pan fyddwch chi’n talu. Gallwch gael hyd iddo:
-
ar yr e-bost anfonodd CThEF atoch os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth NOVA
-
ar yr hysbysiad talu anfonodd CThEF atoch
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau yn eich cyfeirnod.
Talu ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol. Pan fyddwch chi’n barod i dalu, dechreuwch eich taliad am fewnforio cerbydau i mewn i’r DU.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
-
drwy’ch cyfrif banc ar-lein
-
drwy ffonio’ch banc
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
cod didoli - 08 32 00
-
rhif y cyfrif - 12000903
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB20 BARC 2005 1730 3364 91
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP