Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Mewnforio cerbyd sydd wedi’i ddifrodi neu ei achub
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, efallai y bydd DVLA yn:
-
rhoi rhif adnabod cerbyd (VIN) newydd i’ch cerbyd
-
rhoi marciwr ar lyfr log eich cerbyd (V5CW) - i ddangos bod eich cerbyd wedi’i newid neu ei adeiladu gan ddefnyddio gwahanol rannau
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi
Os yw’ch cerbyd wedi’i ystyried fel un sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru yn y DU. Ni fyddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw ffi TAW a tholl dramor neu ffi cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.
Mae difrod difrifol yn golygu na ellir atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘gwerth dim yn statudol’, ‘wedi sgrapio’ neu ‘y tu hwnt i atgyweirio’ ar y dystysgrif gofrestru.
Gwiriwch gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni os yw’r cerbyd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’.
Os nad yw wedi cael ei ‘ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn – bydd angen hyn arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd yn y DU.