Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd a fewnforiwyd yn bodloni rheoliadau amgylcheddol a diogelwch. Bydd angen tystiolaeth o gymeradwyaeth arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd.
Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych chi’n talu am gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.
Pan rydych wedi’ch esemptio rhag cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Os cafodd eich cerbyd ei gofrestru am y tro cyntaf neu ei weithgynhyrchu fwy na 10 mlynedd yn ôl, efallai na fydd angen cymeradwyaeth arnoch. Gwiriwch i weld a yw’r cerbyd wedi’i esemptio (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd arnoch i drethu eich cerbyd os cafodd ei gofrestru am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 gyda chymeradwyaeth math yr UE ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
cerbyd nwyddau ysgafn (pwysau uchaf 3,500kg neu lai)
-
cerbyd i nifer fach o deithwyr - car neu fws mini gydag 8 sedd teithwyr neu lai (heb gynnwys y gyrrwr) a gyda ffigur allyriadau CO2 mewn g/km
Os nad oes gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd eisoes, anfonwch lythyr gyda’ch cais i’r DVLA yn esbonio pam nad oes un gennych.
DVLA
Abertawe
SA99 1BE
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
I gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd nad yw wedi’i gofrestru yn yr UE, gwnewch gais am y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
Cymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol (yn agor tudalen Saesneg) (IVA)
-
Cymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol i Feic Modur (yn agor tudalen Saesneg) (MSVA) os yw’n gerbyd 2,3 neu gerbyd 4-olwyn sy’n llai o faint
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
Mynnwch Dystysgrif Cydymffurfio Ewropeaidd gan y gwneuthurwr i ddangos bod gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn yr UE.
Os yw’n gerbyd â’r llyw ar y chwith, bydd arnoch hefyd angen tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) .
Os oes gennych lori neu gerbyd nwyddau dros 3,500kg, ni allwch gael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA. Gwnewch gais am IVA (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Cael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais am:
Codir ffi o £100. Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Cael help tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Cysylltwch â’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA) os nad ydych yn siŵr a yw’ch cerbyd yn gymwys ar gyfer tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA.
Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA)
vehicleimporting@vca.gov.uk