Sut i fewnforio cerbyd

Rhaid ichi gwblhau camau penodol wrth ddod â cherbyd yn barhaol i mewn i un o’r gwledydd canlynol:

  • Prydain Fawr, o unrhyw le
  • Gogledd Iwerddon, o’r tu allan i’r UE

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch gael eich erlyn os ydych yn defnyddio’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn ichi gwblhau’r camau hyn, oni bai eich bod yn ei yrru i brawf MOT neu brawf cymeradwyo cerbyd sydd wedi’i archebu ymlaen llaw.

Mae’r drefn rydych yn cwblhau’r camau hyn yn dibynnu ar y canlynol: 

  • os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo i’r DU ichi gan gwmni mewnforio

  • os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi

Nid oes rhaid i fewnforwyr masnachol cerbydau newydd sy’n defnyddio cynllun cofrestru diogel ddilyn y camau hyn.

Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludo 

  1. Gwneud datganiad mewnforio. Rhaid ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud hyn ichi. Gallant naill ai wneud hyn cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU. 

  2. Talu TAW a tholl dramor ar ffin y DU - bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu i wneud hyn ichi.

  3. Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU.

  4. Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.

  5. Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.

  6. Yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU. 

Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn ichi ei fewnforio.

Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi

  1. Rhoi gwybod i CThEF o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU. 

  2. Gwneud datganiad mewnforio os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a thollau. Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud y datganiad mewnforio ichi.

  3. Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) - gweler Rhoi gwybod i CThEF i gael gwybodsut i wneud hyn. 

  4. Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.

  5. Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.

  6. Yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU.

Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn ichi ei fewnforio.

Dod â’ch cerbyd i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yn y DU, gallwch symud eich cerbyd yn rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae wedi’i gofrestru yn y naill wlad neu’r llall

  • nad ydych yn ei symud i’w werthu, neu at unrhyw ddiben masnachol arall (er enghraifft, defnyddio’r car fel tacsi neu ei logi i rywun)

  • mae’r car at eich defnydd eich hun neu ddefnydd personol eich cartref

Cael gwybod beth i’w wneud os yw rhywun arall yn dod â’ch cerbyd i Ogledd Iwerddon.

Rhoi gwybod i DVLA am newid cyfeiriad.

Ymweld â’r DU gyda cherbyd 

Dilynwch y rheolau ar gyfer mewnforion dros dro yn lle hynny os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • nad ydych fel arfer yn byw yn y DU

  • rydych yn dod â cherbyd i’r DU am lai na 6 mis

Dod â cherbyd yn ôl i’r DU

Rhaid ichi gwblhau camau penodol os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU:

  • sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen

  • sy’n cael ei ail-fewnforio i’r DU