Gwirio os oes angen ichi gofrestru ôl-gerbyd cyn ei dynnu dramor
Rhaid ichi gofrestru pob ôl-gerbyd dros 750kg i yrru i'r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop neu drwyddynt.
Ôl-gerbydau y mae’n rhaid eu cofrestru
Rhaid ichi gofrestru pob ôl-gerbyd dros 750kg i yrru i’r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop neu drwyddynt, ac eithrio Iwerddon, Cyprus, Malta a Sbaen.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r ôl-gerbydau hyn sy’n gwneud teithiau rhyngwladol:
- arddangos eu plât cofrestru eu hunain (ar wahân i’r cerbyd sy’n eu tynnu)
- cael tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y gellir ei dangos i awdurdod tramor ar gais
Cofrestru eich ôl-gerbyd
Rhaid ichi gofrestru eich ôl-gerbyd i deithio yn y gwledydd hyn:
Albania, Andorra, Armenia, Awstria, Azerbaijan, Belarus, Gwlad Belg, Bosnia a Herzegovina, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, Ffindir, Ffrainc, Georgia, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, yr Eidal, Kazakhstan, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Macedonia, Moldofa, Monaco, Montenegro, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Rwsia, San Marino, Serbia, Slofacia, Slofenia, Sweden, y Swistir a’r Wcráin.
Mae’n costio:
- £26 i gofrestru ôl-gerbyd am y tro cyntaf
- £21 i gyhoeddi tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer ceidwad cofrestredig
- £10 am dystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU amnewid
Gwledydd lle nad oes angen ichi gofrestru eich ôl-gerbyd
Nid oes angen ichi gofrestru ôl-gerbydau sy’n cael eu defnyddio:
- yn y DU yn unig
- ar gyfer teithiau rhwng y DU ac Iwerddon yn unig
Hefyd nid oes angen ichi gofrestru ôl-gerbydau a ddefnyddir yn:
- Cyprus
- Malta
- Sbaen
Fodd bynnag, rhaid ichi gofrestru ôl-gerbydau i’w tynnu drwy unrhyw wlad lle mae’r rheolau’n berthnasol i gyrraedd Cyprus, Malta neu Sbaen.
Os oes gennych ôl-gerbyd llwyth annormal
Mae arnoch angen tystysgrif ceidwad ar gyfer ôl-gerbyd llwyth annormal i’w gymryd dramor. Cariwch y dystysgrif ceidwad yn eich cerbyd pan fyddwch yn mynd dramor.
Mae rhai gwledydd yn mesur llwythi annormal yn wahanol i’r DU. Gwiriwch gyda phob gwlad rydych yn teithio drwyddi i ddarganfod os yw’r llwyth rydych yn ei gludo yn cyfrif fel annormal yno.
Cofrestrwch i gael diweddariadau ar GOV.UK a thrwy hysbysiadau e-bost DVLA.
Updates to this page
-
Updated summary and 'trailers that have to be registered'.
-
You must register commercial trailers over 750kg and all trailers over 3,500kg before towing them through Albania, Andorra, Armenia, Austria, Azerbaijan, Belarus, Belgium, Bosnia and Herzegovina, Bulgaria, Croatia, Czech Republic, Denmark, Estonia, Finland, France, Georgia, Germany, Greece, Hungary, Italy, Kazakhstan, Latvia, Lithuania, Luxembourg, Macedonia, Moldova, Monaco, Montenegro, Netherlands, Norway, Poland, Portugal, Romania, Russia, San Marino, Serbia, Slovakia, Slovenia, Sweden, Switzerland and Ukraine.
-
Link to 'Register your trailer to take it abroad' start page added.
-
Listing the information required to register a trailer for international use.
-
First published.