Cofrestru eich ôl-gerbyd i’w gymryd dramor

Mae’n rhaid ichi gofrestru ôl-gerbydau masnachol dros 750kg a holl ôl-gerbydau dros 3,500kg cyn ichi allu gyrru trwy rai gwledydd yn Ewrop.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • wirio os oes angen ichi gofrestru ôl-gerbyd i’w gymryd dramor
  • creu cyfrif i gofrestru eich ôl-gerbyd neu ôl-gerbydau
  • rheoli manylion eich ôl-gerbyd sydd wedi’i gofrestru - er enghraifft os ydych yn gwerthu neu’n sgrapio ôl-gerbyd, neu’n newid eich enw neu gyfeiriad

Os oes gennych ôl-gerbyd llwyth annormal, mae’n rhaid ichi hefyd gael tystysgrif ceidwad. Cadwch hon yn eich cerbyd i’w dangos wrth groesi ffiniau.

Ffioedd

Y gost yw:

  • £26 i gofrestru ôl-gerbyd am y tro cyntaf
  • £21 i gyhoeddi tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer ceidwad cofrestredig newydd
  • £10 i gael tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU amnewid os yw’r un wreiddiol ar goll, wedi’i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Cofrestru ar-lein

Mae arnoch angen:

  • enw gwneuthurwr yr ôl-gerbyd
  • rhif adnabod cerbyd (VIN) yr ôl-gerbyd (fel arfer yn 17 nod) neu rif siasi – ceir hwn fel arfer ar blât metel wedi’i osod i’r ôl-gerbyd neu wedi’i stampio i mewn i’r siasi
  • pwysau gros a phwysau heb lwyth yr ôl-gerbyd
  • cyfeiriad e-bost
  • cerdyn debyd neu gredyd

Mae hefyd arnoch angen ID defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych un, gallwch greu un pan rydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr