Canllawiau

Ymholiadau Cofrestrfa Tir EM

Cyngor cyffredinol i drawsgludwyr ar sut i osgoi ymholiadau.

Applies to England and Wales

Ynglŷn ag ymholiadau

Weithiau, nid oes modd inni gwblhau cais i gofrestru am fod peth o’r wybodaeth sydd ei hangen arnom ar goll, yn anghyflawn neu wedi ei llunio’n anghywir.

Yn yr achosion hyn, rydym yn aml yn codi ymholiad – cais ffurfiol i’r ceisydd ddarparu’r wybodaeth. Os na fydd y ceisydd yn darparu’r wybodaeth hon, efallai byddwn yn dileu’r cais yn y pen draw.

Mae bron 20% o geisiadau i gofrestru yn arwain at anfon ymholiad, ond mae cyfraddau ymholiadau’n amrywio’n fawr rhwng cwmnïau unigol – hyd at 50% o geisiadau mewn rhai achosion.

Mae’r gweithwyr cais sy’n prosesu’r ceisiadau yn defnyddio eu barn ac yn penderfynu a oes angen ymholiad. Mae gennym bolisi a chanllawiau trylwyr, ond gall cofrestru tir fod yn gymhleth iawn a gall barn un unigolyn fod yn wahanol i farn rhywun arall.

Mae hyn yn golygu y gall mater penodol gael ei ddatrys weithiau gyda neu heb ymholiad.

Yn ogystal â’r ymholiadau mwy cymhleth, rydym yn gweld llawer o wallau sylfaenol y mae angen inni godi ymholiad ar eu cyfer bob amser ar geisiadau. Er enghraifft, gweithredoedd nad ydynt yn cael eu cyflawni’n briodol neu lle nad yw enwau ar y Gofrestr yn cyfateb i’r enwau ar drosglwyddiad tir.

Gellid osgoi bron hanner yr holl ymholiadau. Darllenwch am y gwahaniaethau rhwng ymholiadau y gellir eu hosgoi a rhai na ellir eu hosgoi.

Yn yr amser y mae’n ei gymryd i anfon a datrys ymholiadau, rydym yn amcangyfrif y gallem brosesu miloedd o geisiadau cofrestru mewn blwyddyn. Ceir cost i chi hefyd wrth ymateb i’n hymholiadau.

Os ydych yn weithiwr tir neu eiddo proffesiynol, gallwch weithio gyda ni i helpu i wella cyflymder y gwasanaeth a gewch.

Dilynwch ein cyngor ar y dudalen hon i leihau’r gwallau cyffredin a lleihau nifer yr ymholiadau a gewch. Gallwch ddod o hyd i gyngor ac awgrymiadau manwl hefyd yng nghyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ar gyfer ymholiadau a dileu.

Sut i osgoi ymholiadau Cofrestrfa Tir EM

Gallwch osgoi ymholiadau trwy wneud y canlynol:

Rhestrau gwirio i’ch helpu i osgoi ymholiadau

Mae’r rhan fwyaf o’r ceisiadau a gawn i ddiweddaru neu newid cofrestr tir sy’n gofrestredig eisoes.

Cofrestriadau cyntaf yw’r cofrestriadau mwyaf cymhleth yn aml ac mae ganddynt rai o’r cyfraddau uchaf o ran ymholiadau.

Siart lif amrywiadau mewn enwau

Darllenwch am y camau i’w cymryd os ceir amrywiadau yn enwau unigolion rhwng gweithredoedd, neu rhwng y gweithredoedd hynny a’r gofrestr. Defnyddiwch ein siart lif i weld sut i ddatrys amrywiadau mewn enwau wrth gyflwyno cais.

Siart lif amrywiadau mewn enwau

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email customersupport@mail.landregistry.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Estyn prydlesi

Mae estyn prydlesi’n arwain at nifer o ymholiadau hefyd.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ymholiadau

Os ydych yn weithiwr tir ac eiddo proffesiynol, gwyliwch ein fideos i’ch helpu i osgoi’r rhesymau mwyaf cyffredin dros ymholiadau. Efallai byddwch am ddefnyddio’r rhain fel deunyddiau hyfforddi yn eich cwmni hefyd:

Gweminarau

Ymunwch â’n gweminarau di-dâl i ddysgu sut i baratoi ac anfon ceisiadau o safon atom.

Cyhoeddwyd ar 7 October 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 April 2022 + show all updates
  1. Update to the 'Variation in names flowchart' PDF.

  2. We've added a link to our new webinar page.

  3. Added 'Trusts of land – the creation and protection of interests' webinar.

  4. Added 'Trusts of land – the creation and protection of interests' and 'Pre-submission Enquiry and Application Management services' webinars.

  5. Latest webinar dates added.

  6. Updated the link for our variations in name webinar.

  7. Added new webinar: Leases – prescribed clauses and avoiding common errors. Added latest webinar dates.

  8. Identity requirements for substantive applications added.

  9. Latest webinar dates added.

  10. Added Discharges webinar

  11. Variation in names webinar added.

  12. A link to our 'how to avoid requisitions' playlist on YouTube has been added.

  13. New webinar dates added

  14. New webinar dates added

  15. New webinar information added.

  16. New webinar information and session links added.

  17. 'Variation in names flowchart' added to help conveyancers lodge applications.

  18. Information and dates about webinars for business customers added.

  19. First published.