Canllawiau

Porthol Cofrestrfa Tir EM: 'Reply to requisition'

Sut gall cwsmeriaid e-wasanaethau busnes ateb ymholiadau gan ddefnyddio'r porthol.

Applies to England and Wales

Os cyflwynwyd eich cais gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EM neu trwy’r post, gallwch ateb ymholiad gan ddefnyddio’ch cyfrif porthol.

Sylwer nad yw’r swyddogaeth hon ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau Network Services neu Business Gateway.

Ychwanegu dogfennau a/neu nodiadau at gais sy’n bodoli

Os ydych yn sylweddoli, ar ôl cyflwyno cais, eich bod wedi anghofio cyflwyno dogfen neu wybodaeth berthnasol, gallwch ei hychwanegu trwy ddefnyddio’r swyddogaeth ‘Reply to Requisition’, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r cais. Gallwch ddefnyddio ‘Reply to Requisition’ hyd yn oed os nad ydych wedi cael ymholiad gennym.

Reply to requisition

Gwnewch yn siwr bod unrhyw ddogfennau y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu sganio.

Mewngofnodi i’r porthol.

  1. Dewiswch ‘Reply to Requisition’.

  2. Identify application: nodwch gyfeirnod neu rif teitl Cofrestrfa Tir EM ar gyfer y cais gwreiddiol a dewis ‘Search’. Dewiswch y cais priodol.
  3. Attachments: document: dewiswch ‘Choose file’ i ddod o hyd i’r ddogfen rydych yn ei hatodi.
    Rhaid ichi ddewis y datganiad ardystio cywir ar gyfer pob dogfen a atodir neu efallai caiff eich cais ei oedi.
    Dewiswch ‘Attach’.
    Notes: ychwanegwch unrhyw nodiadau esboniadol i gefnogi (neu yn lle) unrhyw atodiadau, neu i roi ateb testun i ymholiad.

Ailadroddwch yn ôl yr angen ac ar ôl i’r holl ddogfennau gofynnol gael eu hatodi, gwasgwch ‘submit’.

Allgofnodi

Ar ôl ichi gwblhau eich tasgau, dewiswch ‘Logout’ ar frig y sgrin i adael y system yn ddiogel.

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddwyd ar 7 November 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 May 2021 + show all updates
  1. Added how to ask for more time to reply to a request for information (requisition).

  2. First published.