Canllawiau

Osgoi ymholiadau gan Gofrestrfa Tir EM: arwystlon cwmni

Awgrymiadau a fideo ar sut i osgoi ymholiadau wrth wneud cais i gofrestru arwystlon cwmni.

Applies to England and Wales

Awgrymiadau

Wrth anfon arwystl gan gwmni i Gofrestrfa Tir EM i’w gofrestru mae angen y canlynol arnom:

  • copi ardystiedig o’r arwystl
  • copi o’r dystysgrif gofrestru a anfonwyd gan Dŷ’r Cwmnïau a
  • thystysgrif yn cadarnhau:
    • bod y copi ardystiedig o’r arwystl a gyflwynwyd i’w gofrestru yn gopi ardystiedig o’r arwystl a ffeiliwyd gyda Thŷ’r Cwmnïau (os anfonwyd copi wedi ei olygu i Dŷ’r Cwmnïau, dylid ardystio bod yr arwystl yn gopi ardystiedig o’r arwystl gwreiddiol y cafodd copi wedi ei olygu ohono ei ffeilio o dan adran 859G o Ddeddf Cwmnïau 2006), a
    • bod y dystysgrif gofrestru’n ymwneud â’r arwystl sy’n cael ei gofrestru

Gwyliwch y fideo

How to avoid HM Land Registry requisitions: Company charges

Video playlist: How to avoid HM Land Registry requisitions

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 7 October 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. We have clarified the guidance about the content the charge certificate should contain to avoid a requisition.

  2. We changed the summary to better reflect the information given on this page.

  3. First published.