Canllawiau

Osgoi ymholiadau gan Gofrestrfa Tir EF: cyflawni gweithredoedd ac atwrneiaethau

Awgrymiadau a fideo ar sut i osgoi ymholiadau ynghylch cyflawni gweithredoedd ac atwrneiaethau.

Applies to England and Wales

Awgrymiadau

Gallwch osgoi problemau cyffredin wrth gyflawni gweithredoedd trwy wneud yn siwr:

  • y tystiwyd llofnod pob parti, a bod manylion y tyst wedi eu cynnwys
  • eich bod yn defnyddio’r ffurf gyflawni gywir ar gyfer yr unigolyn neu’r sefydliad o dan sylw

Gallwch osgoi’r ddau brif fath o wall yn ymwneud ag atwrneiaethau trwy amgáu:

  • copi o atwrneiaeth – mae hyn ar gyfer atwrneiod corfforaethol fel rheol. Peidiwch ag anghofio, yn lle amgáu copi o atwrneiaeth, gallwch amgáu tystysgrif ar Ffurf 1 yn Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003
  • cadarnhad o hunaniaeth ar gyfer atwrnai, yn ogystal â rhoddwr yr atwrneiaeth pan fydd angen hyn. Bydd hyn yn ofynnol bob tro ac eithrio lle cyflawnwyd rhyddhad.

    Gweler adran 6.1 o gyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth

Gwyliwch y fideo

How to avoid HM Land Registry requisitions: Execution of deeds and powers of attorney

Video playlist: How to avoid HM Land Registry requisitions

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 7 October 2016