Canllawiau

Osgoi ymholiadau gan Gofrestrfa Tir EM: cyfyngiadau yn y gofrestr

Awgrymiadau a fideo ar sut i osgoi ymholiadau am gyfyngiadau yn y gofrestr.

Applies to England and Wales

Awgrymiadau

Ni allwn gwblhau cofrestriad os nad yw’r dystiolaeth a gyflwynir gennych yn bodloni gofynion y cyfyngiad. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth bellach os bydd ei hangen arnom.

Er enghraifft, oes angen cydsyniad yn benodol ar gyfyngiad? Os oes, ni allwn weithredu ar dystysgrif trawsgludwr.

Os ydych yn cyflwyno cyfyngiadau yn y gofrestr, gwnewch yn siwr eich bod:

  • yn defnyddio ffurf safonol o gyfyngiad bob tro lle bo hynny’n bosibl. Gweler Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • yn gwirio’r hyn sy’n ofynnol ac yn gwneud trefniadau mewn da bryd i gael y dystiolaeth honno, oherwydd gall sicrhau cydsyniad ar gyfer ‘Cyfyngiad Cwmni Rheoli’ achosi oedi sylweddol
  • yn meddwl yn ofalus, wrth ddrafftio gweithredoedd, a oes angen cyfyngiad mewn gwirionedd, ac os oes, sut y dylid ei eirio:
    • a yw cydsyniad neu dystysgrif yn ofynnol?
    • ar gyfer pa fathau o warediadau?
    • pwy ddylai ddarparu’r cydsyniad neu’r dystysgrif honno?
    • os oes ffurf safonol o gyfyngiad, a ydych yn gwneud cais am yr un cywir?
  • yn dilyn y cyngor ar y ffurflenni

Enghraifft:
Gall cyfyngiad y cydberchnogion achosi problemau. Rydym yn cael nifer o geisiadau lle nad oes tystiolaeth ynghylch sut bydd cyd-denantiaid yn dal y tir. Gallwch osgoi hyn trwy ddilyn y cyngor ar y ffurflenni a chwblhau, er enghraifft, panel 10 o Ffurflen TR1 – Trosglwyddiad o’r cyfan. Gallwch ddefnyddio Ffurflen JO hefyd.

  • dylech gynnwys tystiolaeth nad oes unrhyw fuddion ymddiried eraill

Enghraifft:
Os bydd angen ichi dynnu cyfyngiad ‘cydberchnogion’ i ffwrdd yn ddiweddarach, bydd angen cais ffurfiol i ddileu’r cyfyngiad, ynghyd â thystiolaeth nad oes angen y cyfyngiad mwyach.

Gwyliwch y fideo

How to avoid HM Land Registry requisitions: Restrictions

Video playlist: How to avoid HM Land Registry requisitions

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 7 October 2016