Dod o hyd i wybodaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF
Sut i gyflwyno cais ffurfiol i Gofrestrfa Tir EF am wybodaeth am dir ac eiddo.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gallwch wneud cais am wybodaeth am dir ac eiddo a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF trwy gyflwyno cais ffurfiol.
Sylwer bod ffïoedd yn daladwy.
Beth yw’r gost?
Gallwch weld y ffïoedd cyfredol ar gyfer y wybodaeth mae ei hangen arnoch yn Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Gwybodaeth – GOV.UK
Pwy sy’n berchen ar yr eiddo?
Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo ar GOV.UK i gael manylion ynghylch pwy sy’n berchen ar eiddo cofrestredig.
Gallwch chwilio trwy god post (yr opsiwn diofyn) neu sgrolio i lawr y dudalen i chwilio trwy stryd a thref, map neu rif teitl.
Os yw’r eiddo’n gofrestredig, gallwch weld a lawrlwytho crynodeb eiddo, sy’n rhoi’r cyfeiriad, disgrifiad, math o ddeiliadaeth (rhydd-ddaliol neu brydlesol), ac a oes cyfamodau cyfyngu neu hawddfreintiau ar y gofrestr teitl, yn rhad ac am ddim.
Gallwch brynu’r dogfennau canlynol hefyd:
- cofrestr teitl – yn dangos perchnogaeth a rhif teitl
- cynllun teitl – yn dangos terfynau cyffredinol
Cewch ragor o wybodaeth am y dogfennau hyn yn ein canllawiau.
Ar gyfer cyfeiriadau anarferol neu barseli tir, defnyddiwch yr opsiwn ‘chwilio trwy fap’ o dan ‘Ffyrdd eraill o chwilio’.
Cofiwch: mae’r gwasanaeth ar-lein yn darparu gwybodaeth am eiddo cofrestredig yn unig. Os nad yw tir neu eiddo’n gofrestredig, ni fyddwn yn gwybod pwy yw’r perchnogion, ac ni fydd eich chwiliad yn rhoi canlyniad.
Mae gan gwsmeriaid y porthol a Business Gateway yr opsiwn ‘Register View’ hefyd, lle gallant gael copi o’r gofrestr teitl a’r cynllun.
Eiddo a berchnogir gan gwmnïau yn y DU a thramor
Gallwch gael gwybod hefyd pa eiddo a berchnogir gan gwmnïau yn y DU a thramor trwy lawrlwytho’r setiau data gyda’r un enw. Maent yn rhad ac am ddim.
Darllenwch ragor yn: Cwmnïau yn y DU sy’n berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr – GOV.UK a Chwmnïau tramor sy’n berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr – GOV.UK
Copïau swyddogol o’r gofrestr teitl neu’r cynllun teitl
Efallai bydd angen copi swyddogol arnoch at ddibenion cyfreithiol (megis profi perchnogaeth yn y llys):
-
Gwnewch gais am gopi swyddogol trwy ddefnyddio ffurflen OC1.
-
Gall defnyddwyr y porthol wneud cais ar-lein. (Os ydych yn ddefnyddiwr y porthol, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Os ydych yn meddwl byddai angen ichi ddefnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd, gallwch gael gwybod sut i fewngofnodi, ac ar gyfer beth y gallwch ei ddefnyddio, yn HM Land Registry portal: login and guides – GOV.UK.)
Ar gyfer gwiriadau cyffredinol, mae canlyniadau safonol o Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo yn ddigonol fel rheol.
Chwilio am ddogfennau eiddo penodol?
Gwnewch gais trwy ddefnyddio ffurflen OC2 ar gyfer copïau o weithredoedd neu ddogfennau, megis
- trosglwyddiad (gweithred gwerthu/prynu)
- arwystl (gweithred morgais)
- prydles
Defnyddiwch y ffurflen hon pan fydd “copi yn y ffeil” i’w weld yn y gofrestr eiddo i wneud cais am weithredoedd a ffurflenni eraill yn ymwneud â chais yn y gorffennol neu gais presennol.
Perchnogion eiddo blaenorol
Gwnewch gais am gopïau hanesyddol o’r gofrestr neu’r cynllun teitl trwy ddefnyddio ffurflen HC1.
Cysylltwch â’n Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid os nad ydych yn sicr am ba gofrestr neu gynllun teitl y dylid gwneud cais, neu pa wybodaeth sydd gennym yn ein cofnodion.
Cysylltwch â ni yn gyntaf am wybodaeth hen iawn – gallwn gynghori ynghylch a allwch gael gafael ar y wybodaeth a sut i wneud cais.
DS: bydd rhai o’n dogfennau yn ein harchif bapur, felly gall gymryd peth amser i gael y wybodaeth.
Ceisiadau sy’n aros i’w prosesu
Ar gyfer ceisiadau sydd wedi dod i law ond ddim wedi eu cofrestru eto, gallwch lenwi ffurflen OS3 i weld beth sy’n aros i’w brosesu o hyd, yna ffurflen OC2 os ydych am gael copïau o’r dogfennau sydd wedi cael eu cyflwyno, er enghraifft, y weithred drosglwyddo neu’r weithred morgais.
Cwestiynau am derfynau
Yn anaml bydd gwybodaeth benodol gennym am berchnogaeth terfynau.
I weld unrhyw fanylion am derfynau rydym wedi eu cofrestru:
- gwnewch gais am gopïau o’r gofrestr teitl, cynllun teitl a gweithredoedd wedi eu ffeilio – os ydynt ar gael
Am gyngor a chymorth, ymgynghorwch â chyfreithiwr.
Ar gyfer anghydfodau ynghylch terfynau, dylech ystyried gwasanaeth cyfryngu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig/Cymdeithas Ymgyfreitha Eiddo.
Am ragor o wybodaeth:
- ewch i Terfynau eich Eiddo: Trosolwg – GOV.UK
- gwyliwch ein fideo YouTube: Sut i ddod o hyd i wybodaeth am derfynau eich eiddo
Preifatrwydd a chwiliadau arbennig
Yn gyffredinol, ni allwch chwilio am bob eiddo a berchnogir gan unigolyn.
I gael gwybod am bwy gallwch chi chwilio, gweler cyfarwyddyd ymarfer 74.
Ar gyfer eiddo a berchnogir gan gyrff corfforaethol neu gwmnïau cofrestredig:
-
chwiliwch y Mynegai Enwau Perchnogion trwy ddefnyddio ffurflen PN1
-
gallwch chwilio yn ôl enw cwmni ond ni allwch chwilio am unigolyn preifat oherwydd bod chwiliadau y Mynegai Enwau Perchnogion yn erbyn unigolion preifat byw yn ymwneud â data personol, sydd wedi ei eithrio rhag cael ei ddatgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth