Trosolwg

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, fel arfer ni fydd unrhyw gofnod o’r:

  • union derfyn rhwng dau eiddo
  • pwy sy’n berchen ar y berth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cewch ryw syniad ble mae’r terfynau ar gyfer eich eiddo trwy edrych ar ei gynllun teitl. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau teitl yn dangos yr union derfynau – fel arfer nid oes angen ichi gael yr union derfynau wedi eu cofnodi unrhyw le.

Mae’r rheolau yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch wneud cais i gywiro’r cynllun teitl os ydych yn meddwl bod camgymeriad arno.

Cofnodi’r terfyn yn fwy manwl gywir

Gallwch wneud hyn trwy: