Terfynau eich eiddo

Neidio i gynnwys y canllaw

Cywiro camgymeriad terfyn ar gynllun teitl

Ysgrifennwch i Gofrestrfa Tir EF (CTEF) os ydych yn credu bod camgymeriad terfyn ar gynllun teitl eiddo.

Bydd yn rhaid i chi:

  • egluro pam rydych o’r farn bod camgymeriad yno
  • cynnwys unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi eich dadl, megis copïau ardystiedig o weithredoedd yr eiddo.

Anfonwch bopeth i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Os bydd CTEF yn gweld bod camgymeriad, bydd yn dweud wrthych sut i’w unioni.