Gwneud cytundeb terfyn gyda’ch cymydog

Fel arfer, gallwch osgoi creu cytundeb terfyn trwy gael trafodaeth anffurfiol â’ch cymydog.

Cymorth i ddatrys anghydfodau

Cysylltwch â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i gael cyngor ar ddatrys anghydfodau ynghylch terfynau.

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
contactrics@rics.org
Ffôn: 0247 686 8555
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm
Darllenwch ragor am gost galwadau

Yr hyn y gall cytundeb terfyn ei wneud

Gallwch chi a’ch cymydog greu ‘cytundeb terfyn’ i gofnodi:

  • y terfyn rhwng dau eiddo
  • pwy sy’n gyfrifol am gynnal perth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo

Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud cytundeb terfyn.

Yr hyn na all cytundeb terfyn ei wneud

Ni allwch ddefnyddio cytundeb terfyn i werthu neu roi rhan o’ch tir i’ch cymydog.

Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych am sicrhau bod y cytundeb terfyn yn ddilys o hyd ar ôl i chi neu’ch cymydog werthu eich eiddo.

Yr hyn i’w gynnwys mewn cytundeb terfyn

Rhaid i’ch cytundeb terfyn gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • enw a chyfeiriad eich cymydog
  • dyddiad dechrau’r cytundeb
  • y terfyn y cytunwyd arno

Gallwch gynnwys y terfyn trwy ddefnyddio:

  • disgrifiad ysgrifenedig
  • copi o fap gan yr Arolwg Ordnans – gallwch dynnu llinell neu ysgrifennu arno i ddangos y terfyn
  • map rydych wedi ei dynnu eich hun

Enghraifft o gytundeb terfyn

“Cytundeb Terfyn

Gwneir y cytundeb hwn ar 15 Gorffennaf 2017 rhwng John Smith o 10 Acacia Avenue, y mae’r teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX12345, a Mary Brown o 12 Acacia Avenue, y mae’r teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX67891.

Mae’r partïon yn cytuno bod y terfyn cyfreithiol rhwng y tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol, ac sy’n rhedeg rhwng y pwynt wedi ei nodi ‘A’ i’r pwynt wedi ei nodi ‘B’ ar y cynllun atodedig, yn unol â’r hyn a ddangosir gan y llinell goch a dynnwyd rhwng y pwyntiau hynny.

Llofnodwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]

Llofnodwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]”

Cofnodi eich cytundeb terfyn

Llenwch gais i newid y gofrestr (AP1).

Yn adran 4 o dan ‘Ceisiadau yn nhrefn blaenoriaeth’ ysgrifennwch: “Nodi cytundeb terfyn”. O dan ‘Ffïoedd a dalwyd (£)’ ysgrifennwch “£40”.

Nid oes yn rhaid ichi lenwi adrannau 9 i 14.

Bydd angen ichi anfon y canlynol:

  • y ffurflen AP1 wedi ei llenwi
  • copi o’r cytundeb terfyn
  • siec neu archeb bost am £40, yn daladwy i ‘CTEF’ neu ‘Cofrestrfa Tir EF’

Anfonwch y dogfennau a’r ffi i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn diweddaru’r gofrestr ar gyfer eich eiddo ac yn anfon copi o’r gofrestr wedi ei diweddaru yn ôl atoch. Bydd yn gwneud yr un peth ar gyfer eich cymydog.