Gwneud cais i gofnodi’r union derfyn

Gallwch wneud cais i gofnodi’r union derfyn rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Gelwir hyn yn gwneud cais am ‘derfyn wedi ei bennu’.

Gallwch wneud hyn dim ond os yw’ch eiddo’n gofrestredig.

Bydd terfyn wedi ei bennu yn ddilys o hyd os ydych chi neu’ch cymydog yn gwerthu eich eiddo.

Gall eich cais gael ei gyfeirio at dribiwnlys os nad yw’ch cymydog yn cytuno ag ef. Ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn gwneud cais.

Edrychwch ar gynllun teitl a chofrestr eich eiddo i weld a oes terfyn wedi ei bennu ganddo eisoes.

Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu

Bydd angen ichi anfon y canlynol:

Tystiolaeth sy’n cefnogi eich cais

Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n cyfiawnhau terfyn yr arolygwr. Gallai hyn gynnwys:

  • copïau ardystiedig o weithredoedd eich eiddo o’r cyfnod cyn y cafodd yr eiddo ei gofrestru
  • adroddiad arbenigwr
  • datganiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi ym mhresenoldeb cyfreithiwr, ynad neu gomisiynydd llwon

Anfon eich cais

£90 yw cost y cais. Bydd yn rhaid ichi dalu’r arolygwr a ffi’r cyfreithiwr hefyd. Os yw’ch cymydog yn cytuno â’ch cais, bydd yn rhaid iddo lofnodi’r ffurflen a’r cynllun hefyd.

Anfonwch bopeth i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd Cofrestrfa Tir EF (CTEF) yn anfon copi o’ch cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd hefyd yn anfon copi o’r cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru at eich cymydog.

Os yw’ch cymydog yn gwrthwynebu’ch cais

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu a yw’r gwrthwynebiad yn ddilys. Os ydyw, bydd yn rhoi cyfle i chi a’ch cymydog ddod i gytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb, bydd yn trosglwyddo eich cais i dribiwnlys. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu am gyngor cyfreithiol a chyngor gan arolygwr os yw hynny’n digwydd.

Os yw’r tribiwnlys yn cymeradwyo eich cais

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon copi o’ch cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd yn cofnodi’r terfyn wedi ei bennu yn y gofrestr.

Os yw’r tribiwnlys yn gwrthod eich cais

Bydd y tribiwnlys naill ai’n penderfynu ble dylai’r union derfyn fod, neu’n penderfynu peidio â gosod yr union derfyn.

Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau eich cymydog.