Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Gwybodaeth

Ffïoedd ar gyfer ein gwasanaethau, ee chwiliadau a cheisiadau am gopïau swyddogol.

Applies to England and Wales

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell ffïoedd i ddarganfod cost pob math o gais.

Mae ffïoedd yn amrywio yn ôl sut rydych yn anfon eich ceisiadau atom. I gael ffïoedd gostyngol, cofrestrwch ar gyfer E-wasanaethau busnes (porthol a Business Gateway).

Ffïoedd copïau a chopïau swyddogol

Ffurflen Math o gais Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway
EX2 Copi swyddogol o ddogfen gwybodaeth eithriedig £7 y copi £3 y copi
HC1 Copi o argraffiad hanesyddol o deitl cofrestredig (dim ond lle mae fersiwn electronig ar gael) £7 y gofrestr neu gynllun teitl £3 y gofrestr neu gynllun teitl
OC1 Copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl (heblaw cofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl). Os na wyddys rhif y teitl, bydd y ffi am ddarparu’r copi yn cynnwys y gost o ddarparu’r rhif teitl; ni fydd ffi ychwanegol i’w thalu £7 y copi £3 yr un y copi
OC1 Ffurflen CI tystysgrif archwilio cynllun teitl £7 y dystysgrif £7 y dystysgrif
OC1 Copi swyddogol o gofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl £7 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) £3 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl)
OC2 Copi swyddogol o ddogfen £7 y ddogfen £3 y ddogfen

Ffïoedd chwiliadau swyddogol

Ffurflen Math o gais Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway
HR3 Chwiliad swyddogol gan forgeisai am hawliau cartref £7 y chwiliad £3 y chwiliad
OS1 Chwiliad swyddogol o’r cyfan â blaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig neu gais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu £7 y chwiliad £3 y chwiliad
OS2 Chwiliad swyddogol o ran â blaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig £7 y chwiliad (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas) £3 y chwiliad (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas)
OS2 Chwiliad swyddogol o ran â blaenoriaeth yn erbyn cais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu £7 y chwiliad (dim ond os darperir cynllun addas) £3 y chwiliad
OS3 Chwiliad swyddogol o’r cyfan heb flaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig £7 y chwiliad £3 y chwiliad
OS3 Chwiliad swyddogol o ran heb flaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig £7 (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas) Ddim ar gael

Ffïoedd eraill

Ffurflen Math o gais Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway
  Cael gwybodaeth o’r rhestr ddydd Ddim ar gael Am ddim
PIC Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o gofrestr neu gynllun teitl (heblaw cofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl) neu gynllun rhybuddiad £7 y gofrestr neu gynllun teitl £3 yr un
PIC Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o gofrestr a chynllun teitl teitl rhannau cyffredin cyfunddaliad £7 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) Cyfunddaliad £3 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl)
PIC Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o ddogfen £7 y ddogfen £3 y ddogfen
PN1 Chwiliad o’r mynegai enwau perchnogion (lle caniateir hyn) £11 yr enw
£11 yr enw trwy’r ffacs (deiliaid cyfrif yn unig)
Ddim ar gael
SIF Chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau £7 yr ardal weinyddol £3 yr ardal weinyddol
SIM Chwiliad swyddogol o’r map mynegai Lle datgelir dim neu ddim mwy na phum teitl cofrestredig; £4
Lle datgelir mwy na phum teitl cofrestredig: £4 ar gyfer y pum teitl cyntaf; a £2 ar gyfer pob deg teitl neu hyd at ddeg teitl ar ôl hynny
Lle datgelir dim neu ddim mwy na phum teitl cofrestredig; £4
Lle datgelir mwy na phum teitl cofrestredig: £4 ar gyfer y pum teitl cyntaf; a £2 ar gyfer pob deg teitl neu hyd at ddeg teitl wedi hynny

Sut i dalu ffïoedd

Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:

Nid yw Treth Ar Werth (TAW) yn daladwy ar ffïoedd Cofrestrfa Tir EF.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ddarpariaethau statudol Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2022, a ddaeth i rym ar 31 Ionawr 2022 ac sy’n parhau i fod yn gymwys.

Os nad ydych yn sicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.

Cyhoeddwyd ar 7 March 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 November 2022 + show all updates
  1. Amended as we now accept applications in form PIC by post.

  2. Fee increase for an historical edition of a registered title.

  3. Guide amended to reflect new portal service to request historical copies

  4. Added translation