Canllawiau

Sut i ddarllen cynllun teitl

Cyhoeddwyd 4 November 2021

Applies to England and Wales

Pan fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofrestru eiddo, rydym yn rhoi cyfeirnod unigryw iddo o’r enw rhif teitl ac, yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn paratoi cofrestr a chynllun teitl.

Mae’r gofrestr yn dangos gwybodaeth bwysig am yr eiddo, megis enwau’r perchnogion cyfreithiol ac a oes unrhyw forgeisi, hawliau tramwy neu faterion cyfreithiol eraill yn effeithio arno.

Mae’r cynllun teitl yn cefnogi disgrifiad yr eiddo yn y gofrestr; rydym yn defnyddio detholiad o fap yr Arolwg Ordnans i roi arwydd gweledol o’r tir cofrestredig gydag amlinelliad coch. ‘Y stent’ yw’r enw a roddwn ar hyn.

Cael cynllun teitl

I gael cynllun teitl, gallwch:

  • lawrlwytho copi gan ddefnyddio ein gwasanaeth Chwilio am wybodaeth am eiddo – £3 yw cost copïau
  • archebu copi swyddogol trwy lenwi ffurflen OC1 – £7 yw cost copïau swyddogol

Pa un bynnag byddwch yn ei ddewis, gallwch ddibynnu ar y copi i ddangos sefyllfa’r cynllun teitl ar y dyddiad a’r amser a ddangosir. Os oes newidiadau yn aros i’w gwneud i’r gofrestr, gan y gallai’r rhain effeithio ar y cynllun, caiff eich copi ei ôl-ddyddio i’r amser yn union cyn y gwnaed cais am y newid cyntaf.

Yr hyn mae’r cynllun yn ei ddangos

The property registered under title number HL12345 is an end-terrace house with land to the front and back, plus outbuildings which could be sheds or garages.

Yn yr enghraifft hon gallwch weld:

  1. Rhif teitl unigryw’r eiddo cofrestredig.
  2. Cyfeirnod map y rhan o fap yr Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd i baratoi’r cynllun teitl.
  3. Saeth yn pwyntio tua’r Gogledd ar y map.
  4. Llinellau du sy’n cynrychioli nodweddion diriaethol megis adeiladau, waliau, ffensys neu berthi.
  5. Llinellau coch yn nodi’r tir cofrestredig (y stent).
  6. Y dyddiad a’r amser y cymerwyd y copi.

Cyfeiriadau ar y cynllun teitl

Mae’r cynllun teitl weithiau’n dangos lliwiau, llythrennau a symbolau eraill. ‘Cyfeiriadau’ yw’r enw a roddwn ar y rhain.

Weithiau, defnyddir cyfeiriadau ar y cynllun teitl i nodi ardaloedd yr effeithir arnynt gan gofnodion penodol yn y gofrestr, megis:

  • hawddfreintiau (fel hawliau tramwy, naill ai’r rhai ar gyfer perchnogion cyfagos dros yr eiddo neu’r rhai sydd o fudd i’r eiddo dros dir cyfagos)
  • cyfamodau cyfyngu (sef addewidion i beidio â gwneud rhywbeth ar ran o’r eiddo)
  • cytundebau terfyn (a all gyfeirio at safle terfyn rhwng perchnogion cyfagos neu bennu pwy sy’n berchen ar strwythur terfyn neu sy’n gorfod ei gynnal)

Edrychwch ar eich cofrestr i weld beth yw ystyr unrhyw gyfeiriad ar y cynllun teitl. Os nad oes gan eich cynllun gyfeirnod lliw, nid yw’n golygu nad yw hawddfreintiau, cyfamodau neu gytundebau eraill yn effeithio ar eich eiddo. Lle gallwn nodi’r tir yr effeithir arno yn glir heb yr angen am gyfeirnod gweledol, byddwn yn disgrifio’r tir hwnnw’n ysgrifenedig yn y gofrestr.

Darllen y cynllun teitl gyda’r gofrestr

Lle mae tir wedi ei dynnu ymaith o’r teitl (fel pan fydd rhan o’r ardd wedi ei gwerthu) mae hyn fel arfer yn cael ei ddangos gydag ymyl gwyrdd. Weithiau, bydd y rhif teitl newydd ar gyfer yr ardal a dynnwyd ymaith yn cael ei ddangos mewn gwyrdd hefyd.

Mae lliwiau neu gyfeiriadau eraill yn cael eu hychwanegu at gynllun teitl am nifer o resymau a chaiff y rhain eu hesbonio yn y gofrestr.

Mae’r testun canlynol yn ddyfyniad o’r adran ‘arwystlon’ o gofrestr cofrestr teitl sy’n cyd-fynd â’r cynllun a ddangosir uchod.

C. Y gofrestr arwystlon

Mae’r gofrestr hon yn cynnwys arwystlon a materion eraill sy’n effeithio ar y tir

  1. (20.12.2006) Mae’r tir wedi ei arlliwio’n las ar y cynllun teitl yn ddarostyngedig i gyfamodau cyfyngu a all fod wedi eu gosod arnynt cyn 16 Hydref 1960 ac sy’n dal i fodoli ac sy’n gallu cael eu gorfodi.

  2. (20.12.2006) Mae trawsgludiad o’r tir wedi ei arlliwio’n binc ar y cynllun teitl dyddiedig 20 Mehefin 1983 a wnaed rhwng (1) Geraint Edwards (Gwerthwr) a (2) Arwel Thomas (prynwr) yn cynnwys y cyfamodau a ganlyn:-

“Mae’r prynwr, gyda’r bwriad ac i’r graddau y mae’n rhwymo’r tir a drawsgludir trwy hyn, yn cyfamodi gyda’r gwerthwr er budd ystad gyffiniol y gwerthwr na fydd y prynwr yn defnyddio’r tir a drawsgludwyd ar gyfer unrhyw fasnach neu fusnes nac yn dioddef nac yn caniatáu ar hynny unrhyw weithred y gellid ei hystyried yn niwsans cyhoeddus neu’n anghyfleustra preifat”

Dylech ddarllen y cynllun teitl gyda’r gofrestr bob amser. Sut i lawrlwytho a darllen cofrestr teitl.

Map yr Arolwg Ordnans

Peidiwch â phoeni os yw’r nodweddion diriaethol a ddangosir ar eich cynllun yn ymddangos wedi eu dyddio. Paratowyd y cynlluniau teitl cynharaf, sy’n dal i gael eu defnyddio, dros 100 mlynedd yn ôl, ac efallai bod rhesymau eraill pam nad yw eich un chi yn dangos adeilad neu strwythur er ei fod wedi bodoli ers blynyddoedd lawer.

Rydym yn defnyddio’r argraffiad mwyaf diweddar o fap yr Arolwg Ordnans sydd ar gael wrth baratoi cynllun teitl, ond nid ydym yn ei ddiweddaru bob tro y bydd yr Arolwg Ordnans yn adolygu ei fap ar gyfer yr ardal.

Weithiau, rydym yn paratoi cynllun teitl newydd. Gall hyn fod pan fydd rhan o’r eiddo cofrestredig yn cael ei werthu neu, yn achlysurol, pan fo map yr Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd i greu’r cynllun teitl wedi dyddio cymaint rydym o’r farn y gallai’r cynllun teitl achosi dryswch.

Terfynau

Mae gan bob eiddo derfynau cyfreithiol sy’n nodi terfyn yr hyn mae person yn ei berchen, ond nid yw bob amser yn hawdd eu hadnabod yn union.

Darllenwch ragor am derfynau cyfreithiol.

Amlinelliad coch ar gynllun teitl

Mae’r amlinelliad coch ar gynllun teitl yn dangos stent y tir cofrestredig. Bydd yn aml yn dilyn nodweddion terfyn a ddangosir ar fap yr Arolwg Ordnans, megis waliau, perthi a ffensys. Tra bod terfyn cyfreithiol yn aml yn dilyn y nodweddion hyn hefyd, efallai na fydd yn amlwg hyd yn oed yn yr achosion hyn ble yn union mae’r terfyn cyfreithiol – er enghraifft, a yw’n rhedeg trwy ganol perth neu i un ochr iddo.

Pan fyddwn yn paratoi cynllun teitl, byddwn yn ceisio dangos y terfynau cyfreithiol orau y gallwn. Fodd bynnag, mae graddfa a chywirdeb map yr Arolwg Ordnans ei hunan yn ein cyfyngu. Weithiau nid yw’r gweithredoedd teitl a gwybodaeth arall a ddarperir i ni yn dangos gwir leoliad terfyn yn gywir.

Os ydych yn denant eiddo lesddaliol fel fflat ar lawr cyntaf adeilad, efallai y gwelwch fod yr amlinelliad coch ar eich cynllun teitl yn dangos amlinelliad yr adeilad yn hytrach na’ch fflat. Mae hyn oherwydd ein bod yn cynhyrchu ein cynlluniau ar fapiau yr Arolwg Ordnans ar raddfa fach nad ydynt yn caniatáu ar gyfer manylion cymhleth. Mae’n bwysig iawn darllen y gofrestr a’r cynllun teitl ynghyd â’r brydles i ddeall y cytundeb a wnaed rhwng y partïon gwreiddiol.

Terfynau eiddo

Ni allwch drin yr amlinelliad coch ar gynllun teitl fel pe bai’n nodi union leoliad terfyn cyfreithiol neu’n dangos pwy sy’n berchen ar nodwedd terfyn. Er bod cynlluniau wedi eu llunio wrth raddfa, ni ddylech ddibynnu ar fesuriad wedi ei raddio o gynllun teitl ac sy’n gysylltiedig â’r nodweddion diriaethol ar y safle i leoli lleoliad terfyn cyfreithiol.

Mae’r gyfraith yn ymwneud â therfynau yn gymhleth, felly os oes angen ichi sefydlu terfynau cyfreithiol eich eiddo, neu os oes anghytundeb gyda chymydog yn eu cylch, efallai byddwch am siarad â chynghorydd cyfreithiol. Os bydd cymdogion yn cytuno ar union leoliad y terfyn cyfreithiol rhwng eu heiddo, gellir cofnodi’r cytundeb hwnnw yn y gofrestr ar gyfer eiddo pob cymydog.

Gallwch gael help i ddatrys anghytundebau.

Ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch cynllun, dylech gysylltu â’ch cynghorydd cyfreithiol.