Skip to main content
Canllawiau

Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os yw cyfanswm eich incwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.

Incwm cymhwysol yw cyfanswm eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Dyma’r swm cyn treuliau (a elwir hefyd yn trosiant), yn seiliedig ar y Ffurflen Dreth a gyflwynoch yn y flwyddyn dreth flaenorol. 

Os yw’ch incwm cymhwysol yn is na hyn, dysgwch a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

Ni ofynnir i chi am eich ffynonellau eraill o incwm nac enillion yn y gwasanaeth cofrestru. Pan fyddwch yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch yn ychwanegu’r rhain at eich meddalwedd sy’n cydweddu cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Pryd i gofrestru

Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o flwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen, dylech gofrestru nawr.

Yn seiliedig ar y manylion yr ydych yn eu rhoi, bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gofrestru.

Os ydych yn defnyddio asiant, gall eich cofrestru ar eich rhan.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

I gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

  • cyflwyno Ffurflen Dreth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf

Os ydych chi’n cofrestru’n wirfoddol

Gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn bod angen i chi ei ddefnyddio, er mwyn eich helpu i baratoi. Gallwch gofrestru ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol neu’r flwyddyn dreth nesaf.

Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen, ond gallwch gofrestru a gwirfoddoli nawr. 

Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn anfon unrhyw ddiweddariadau chwarterol coll ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

Cyn i chi gofrestru

Gwiriwch a allwch fod wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os ydych wedi’ch esemptio, ni fydd angen i chi gofrestru.

Dylech ddarllen y canllaw cam wrth gam, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i sicrhau’r canlynol:

  • eich bod yn deall a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth

  • bod gennych feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — dylech bob amser wirio gyda’r darparwr meddalwedd i sicrhau y bydd ei feddalwedd yn bodloni’ch anghenion

  • eich bod chi’n gwybod am y canllaw ynghylch Defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — mae hyn yn esbonio sut i greu cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Cosbau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, ni fydd CThEF yn rhoi pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol hwyr ar gyfer y flwyddyn dreth gyntaf (2026 i 2027). Bydd cosbau yn dal i fod yn berthnasol i Ffurflenni Treth hwyr neu os byddwch yn talu’ch bil treth ar ôl y dyddiad cau.

Darllenwch ragor am newidiadau i gosbau sy’n berthnasol i’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys sut mae pwyntiau cosb yn gweithio.

Os ydych chi’n cofrestru’n wirfoddol

Dylech sicrhau eich bod chi’n deall y newidiadau i gosbau sy’n berthnasol os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gadarnhau pryd rydych wedi dod yn agored i’r cosbau hyn ar ôl i chi gofrestru.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Yn y gwasanaeth cofrestru, dylech roi gwybod i CThEF am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Mae hyn yn cynnwys incwm o hunangyflogaeth neu eiddo sydd wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf.

Os yw’ch holl ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu eiddo wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiwethaf, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn dechrau’r flwyddyn dreth nesaf. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn diweddaru’ch cofnodion ac yn anfon llythyr atoch i gadarnhau na fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

I ymuno, bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad dechrau eich busnes, neu’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael incwm o eiddo (os yw hyn o fewn y 2 flwyddyn dreth ddiwethaf)

  • i chi gadarnhau’r flwyddyn dreth y byddwch yn dechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os ydych yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • enw’ch busnes — dyma’r enw rydych yn ei ddefnyddio ar eich anfonebau

  • cyfeiriad eich busnes

  • natur eich busnes (eich masnach)

Os oes gennych sawl ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu sawl busnes eiddo, bydd angen i chi wirio pob un ohonynt yn y gwasanaeth ar-lein ac ychwanegu unrhyw rai sydd ar goll.

Sut i gofrestru

Bydd angen i chi defnyddio’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r un cyfrinair a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd gofyn i chi roi rhagor o dystiolaeth i brofi pwy ydych. Gallwch wneud hyn drwy’r dulliau canlynol: 

  • defnyddio ap ar eich ffôn symudol i baru llun o’ch wyneb â’r llun ar eich pasbort neu drwydded yrru

  • ateb cwestiynau sy’n ymwneud â gwybodaeth sydd gennym yn barod am bwy ydych — er enghraifft, pasbort, cyfeirnod credyd, trwydded yrru, Hunanasesiad, P60 ddiweddaraf, neu slip cyflog diweddar

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. The guidance has been updated to include information about qualifying income. It's also been updated to make clear that volunteers can sign up for this tax year, or the next one. Information about ceased income sources has also been added.

  2. The message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been removed.

  3. A message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been added.

  4. A message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been added.

  5. The guidance has been updated for the 2026 to 2027 tax year. If you’re required to use Making Tax Digital for Income Tax from 6 April 2026, you should sign up now. If you're not required to use it until 6 April 2027, you can choose to sign up voluntarily.

  6. The message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been removed.

  7. The message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been updated.

  8. The ‘Before you sign up’ section has been updated to include a link to information about penalties for those required to use Making Tax Digital for Income Tax.

  9. The message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been updated.

  10. A message about planned downtime for the Making Tax Digital for Income Tax service has been added.

  11. Guidance has been updated to make clear who needs to use Making Tax Digital for Income Tax from April 2026 and what they need to sign up. It has also been updated to confirm that anyone signing up must be registered for Self Assessment and have submitted a tax return in the last 2 years. Information about penalties has been updated. Information about exemptions has been added.

  12. Information about what Making Tax Digital for Income Tax is has been updated.

  13. The 'Who cannot sign up voluntarily' section has been updated to remove those who have income from a furnished holiday let.

  14. Information about when penalties will be applied has been clarified. Information about identification checks that may happen when you sign up and about what you need to do if you want to sign up early or sign up in the future has been added.

  15. The list of who cannot voluntarily sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  16. Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if you have multiple sources of income.

  17. On Monday 22 April information for users who want to voluntarily sign up now was updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily was updated.

  18. Welsh translation added.

  19. The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.

  20. The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. The criteria for voluntarily signing up now has also been updated.

  21. Information to check if you can voluntarily sign up now has been added. Information on what to do after you’ve signed up has been removed as this is covered in the Using Making Tax Digital for Income Tax guidance.

  22. Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  23. Updated information on what to do after you've signed up.

  24. Added translation

  25. Information has been added to let you know that if you use an agent they can send you an authorisation request link.

  26. Register for a webinar on 29 July for information on the Making Tax Digital for Income Tax pilot.

  27. Welsh translation has been added.

  28. First published.

Argraffu'r dudalen hon