Gwirio’r hyn i’w wneud os yw CThEF wedi’ch cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch am y camau nesaf i’w cymryd os yw CThEF wedi cysylltu â chi i roi gwybod ein bod ni wedi eich cofrestru chi.
Beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid roi gwybod i CThEF am eu hincwm a’u treuliau.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd ag incwm cymhwysol dros £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 os ydynt yn gymwys i wneud hynny.
Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
-
creu a chadw cofnodion digidol o’ch treuliau a’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
-
anfon diweddariadau chwarterol bob 3 mis yn seiliedig ar y cofnodion digidol rydych yn eu creu yn eich meddalwedd — dyma gyfansymiau eich treuliau a’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo (mae’r rhain yn cyfrif fel crynodebau, nid Ffurflenni Treth)
-
cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ac ychwanegu unrhyw ffynonellau incwm eraill sydd gennych, oni bai ein bod eisoes wedi eu hychwanegu ar eich rhan
Bydd angen i chi dalu’ch bil treth yn llawn erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.
Mae newidiadau i’r cosbau sy’n berthnasol i’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Ar ôl i CThEF eich cofrestru’.
O fis Medi 2026 ymlaen
Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 a’ch bod chi heb gofrestru, byddwn ni’n mynd ati i’ch cofrestru chi. Mae hyn oherwydd bod ein cofnodion yn dangos bod eich incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 dros £50,000.
Bydd hyn yn digwydd fesul cam dros y misoedd nesaf. Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi gael eich cofrestru.
Os yw CThEF wedi eich cofrestru
Gan nad yw’ch asiant wedi eich cofrestru, a’ch bod chi heb gofrestru eich hun, rydyn ni wedi mynd ati i’ch cofrestru chi ac wedi cysylltu â chi i gadarnhau hyn. Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr i gadarnhau hyn. Bydd y llythyr i’w weld yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu’n cael ei anfon atoch drwy’r post, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Dylech nawr fynd ati i ddilyn y camau yn yr adran ‘Ar ôl i CThEF eich cofrestru’.
Os nad yw CThEF wedi eich cofrestru, neu os nad ydych yn siŵr p’un a ydych wedi cofrestru ai peidio, dilynwch ein harweiniad yn yr adran ‘Os nad yw CThEF wedi cysylltu â chi’.
Ar ôl i CThEF eich cofrestru
Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os ydych yn asiant, gallwch ddilyn y camau hyn ar ran eich cleient. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Os ydych yn asiant’.
1. Cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF
Cyn i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi gael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF a dewis yr opsiwn ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, dylech fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF — bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi rydych yn eu defnyddio ar gyfer Hunanasesiad.
Os nad ydych wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF o’r blaen, bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf.
2. Gwirio a chadarnhau bod y cofnodion sydd gan CThEF yn gywir
Ar ôl i chi gael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF, bydd gofyn i chi wirio’r cofnodion sydd gennym ynghylch eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo — mae’r cofnodion hyn yn seiliedig ar eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025. Efallai y byddwch am wirio a thrafod y manylion hyn gyda’ch asiant, os oes gennych un.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
cadarnhau manylion eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo, gan gynnwys unrhyw eiddo yn y DU a thramor — mae’ch holl eiddo yn y DU yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo yn y DU’, a’ch holl eiddo tramor yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo tramor’
-
ychwanegu unrhyw incwm o hunangyflogaeth ac eiddo yn y DU a thramor sy’n newydd ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiwethaf — dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch creu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer y ffynonellau incwm newydd hyn
-
rhoi gwybod i ni os oes unrhyw ffynonellau incwm wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiwethaf
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch ffynonellau incwm, gallwch fod yn gymwys i gael esemptiad. Gallwch gael gwybod a allwch gael esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn rhoi gwybod i ni fod eich holl ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu ffynonellau incwm o eiddo wedi dod i ben
Os gwnaeth eich holl ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu eiddo ddod i ben erbyn 5 Ebrill 2026, ni fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027.
Os bydd eich holl ffynonellau incwm yn dod i ben ar ôl 6 Ebrill 2026:
-
bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gyflwyno diweddariad chwarterol terfynol sy’n cwmpasu hyd at y dyddiad y daeth eich ffynhonnell incwm i ben
-
bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth 2026 i 2027
-
ni fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar ôl y dyddiad hwn
Os bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau eraill
Os bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau eraill i’ch gwybodaeth, megis newid cyfeiriad, disgrifiad neu enw’ch busnes, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os ydych yn asiant, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
3. Cael meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Er mwyn gallu defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid i chi gael meddalwedd sy’n cydweddu. Gallwch ddewis meddalwedd, neu ofyn i asiant wneud hyn ar eich rhan.
Mae gwahanol fathau o feddalwedd — gallwch ddewis meddalwedd hollgynhwysol i greu cofnodion digidol, anfon eich diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflenni Treth, neu gallwch ddewis mwy nag un cynnyrch.
Nid yw CThEF yn darparu unrhyw feddalwedd, felly dylech ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i ddewis y feddalwedd gywir sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd ein hofferyn ar-lein yn eich helpu i wneud y canlynol:
- gwirio’r meddalwedd rydych eisoes yn ei defnyddio
- dod o hyd i feddalwedd newydd — mae opsiynau sy’n rhad ac am ddim a rhai y mae angen talu amdanynt
- gwirio bod y feddalwedd yn cwmpasu eich holl ffynonellau incwm
Dylech hefyd wirio bod eich meddalwedd yn cydweddu â’ch cyfnod cyfrifyddu (blwyddyn dreth safonol, cyfnodau diweddaru calendr neu’r naill na’r llall).
4. Creu cofnodion digidol a diweddariadau chwarterol
Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i wneud y canlynol:
-
creu cofnodion digidol o ddechrau’r flwyddyn dreth — cyn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi awdurdodi’ch meddalwedd a gwirio’ch cyfnod cyfrifyddu ynddi
-
anfon eich diweddariad chwarterol hwyr cyn gynted â phosibl
Mae rhagor o wybodaeth am greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol ar gael yn yr arweiniad Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Yn eich cyfrif ar-lein CThEF, byddwch yn gallu gweld:
- unrhyw ddiweddariadau chwarterol hwyr
- dyddiadau cau ar gyfer y diweddariadau chwarterol sydd ar ddod
Ni fyddwch yn cael pwynt cosb am fethu dyddiad cau ar gyfer diweddariad chwarterol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd angen i chi gadw cofnodion digidol ac anfon eich diweddariad chwarterol terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Bydd pwyntiau cosb yn berthnasol os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth 2026 i 2027.
Darllenwch ragor am newidiadau i gosbau sy’n berthnasol i’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys sut mae pwyntiau cosb yn gweithio.
5. Defnyddio’n canllaw ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Unwaith bod eich cofnodion a’ch diweddariadau i gyd yn gyfredol, dylech barhau i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys:
- arweiniad pellach ynghylch cofnodion digidol a diweddariadau chwarterol
- sut i ychwanegu ffynhonnell incwm, neu ddod â ffynhonnell incwm i ben
- sut i addasu’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
- sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
- yr hyn i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid
- help a chymorth ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
Os ydych yn asiant, bydd angen i chi gael eich awdurdodi (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi allu gwneud y canlynol:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o dreuliau ac incwm eich cleient o hunangyflogaeth ac eiddo
- anfon diweddariadau chwarterol at CThEF ar ran eich cleient
- cyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Os nad yw CThEF wedi cysylltu â chi
Gallwch wirio a ydych wedi cael eich cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yn eich gwasanaethau ar-lein CThEF:
-
os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi cofrestru
-
os nad ydym wedi cysylltu â chi hyd yn hyn
Unwaith i chi fewngofnodi i’ch cyfrif, bydd neges yn ymddangos ar eich sgrin i gadarnhau eich bod eisoes wedi cofrestru.
Os gwnaethom eich cofrestru chi, bydd gofyn i chi gadarnhau’r ffynonellau incwm sydd gennych. Unwaith i chi gadarnhau hynny, gallwch ddilyn gweddill y camau yn yr adran ‘Ar ôl i CThEF eich cofrestru’.
Os nad ydych yn gweld neges, nid ydych wedi cofrestru. Gallwch wneud y canlynol:
- mynd ati i gofrestru’ch hun
- gofyn i’ch asiant eich cofrestru
- cael gwybod a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol, ac os felly, pryd
Os ydych yn asiant, byddwch yn gweld neges debyg yn cadarnhau bod eich cleient wedi cael ei gofrestru. Bydd hefyd angen i chi wirio ffynonellau incwm eich cleient. Os nad ydych yn gweld neges, gallwch fynd ati i gofrestru’ch cleient.
Bydd cofrestru eich hun yn eich helpu i baratoi ar gyfer defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth i chi gofrestru, gallwch sicrhau bod eich manylion i gyd yn gywir o’r dechrau drwy wneud y canlynol:
- sicrhau bod eich ffynonellau incwm wedi’u diweddaru
- nodi’ch amgylchiadau diweddaraf yn y gwasanaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn barod pan fyddwn yn eich cofrestru. Mae’n bosibl na fydd yr wybodaeth hon yn cynnwys unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf.
Bydd hefyd angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth yn y gwasanaeth, neu drwy gysylltu â ni, yn dibynnu ar y newidiadau y mae angen i chi eu gwneud cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn credu nad oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os gwnaethom eich cofrestru chi, ond nad ydych yn credu bod angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gallwch hefyd gael gwybod a allwch gael esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Er enghraifft, gallwch wneud cais am esemptiad os credwch eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhesymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol na chyflwyno’ch Ffurflenni Treth.
Os ydych yn asiant
Os oes gennych gleientiaid sy’n gorfod defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebill 2026 ymlaen, mae’n bwysig eich bod yn gofyn iddynt a ydym wedi cysylltu â hwy. Os nad yw’ch cleientiaid wedi cael llythyr drwy eu cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, neu drwy’r post, mae yna ddigon o amser i chi eu cofrestru.
Os gwnaethom eu cofrestru, bydd angen i chi ddilyn yr un camau yn adran ‘Ar ôl i CThEF eich cofrestru’ gan fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant yng ngham 1.
Gallwch wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad oes gennych un.
Yn eich cyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi wirio’r canlynol:
-
eich bod chi wedi ychwanegu’r awdurdodiadau perthnasol gan eich cleient
-
bod Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) eich cleient i’w weld yn eich cyfrif gwasanaethau asiant
-
bod y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wedi’i ychwanegu
Ar ôl i chi gael mynediad at eich cyfrif, bydd angen i chi chwilio am bob cleient gan ddefnyddio’i UTR. Bydd gofyn i chi wirio’r cofnodion sydd gennym ynghylch ffynonellau incwm eich cleient o hunangyflogaeth ac eiddo — mae’r cofnodion hyn yn seiliedig ar ei Ffurflen Dreth 2024 i 2025. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob cleient.
Os ydych yn asiant, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os yw’ch cleient wedi cael ei gofrestru, ac nad ydych yn cytuno bod angen iddo ddefnyddio’r gwasanaeth.