Cofrestru

Gwiriwch a allwch chi neu’ch cleient gofrestru’n gynnar, sut i ddewis y feddalwedd gywir ac awdurdodi asiant treth a meddalwedd.

Cyn cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi ddewis meddalwedd sy’n gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os oes gennych asiant, bydd angen i’ch asiant hefyd sefydlu’r awdurdodiadau cywir fel y gallant weithredu ar eich rhan.

Gall asiantau gofrestru eu cleientiaid unwaith y byddant yn cael eu caniatâd a’u hawdurdodiad gan ddefnyddio eu cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hwn yn wahanol i’r cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau.

Os oes gennych asiant

Gall unig fasnachwyr a landlordiaid ddefnyddio asiant (fel llyfrifwr neu gyfrifydd) i helpu gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Ar ôl ei awdurdodi, gall asiant helpu gyda phob tasg neu rai tasgau, gan gynnwys:

  • cofrestru busnes eu cleient

  • defnyddio meddalwedd i greu a chadw cofnodion digidol ar gyfer eu cleientiaid

  • anfon diweddariadau chwarterol

  • cyflwyno ffurflen dreth i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth

Ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid

Os ydych eisoes wedi awdurdodi’ch asiant ar gyfer Hunanasesiad, nid oes angen i chi eu hawdurdodi eto ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Dylech wneud y canlynol:

  • trafod opsiynau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a meddalwedd gyda’ch asiant

  • cytuno pwy fydd yn rheoli pob rhan o’r broses a thasgau penodol

  • gwneud yn siŵr bod gan eich asiant y manylion cywir am eich busnesau neu eiddo, gan gynnwys am ffynonellau incwm

Dewis mwy nag un asiant

Fel rhan o Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch ddewis cael un asiant neu fwy i’ch helpu. Gall hyn fod naill ai yn brif asiant neu’n asiant ategol. Gall pob math o asiant fwrw golwg dros wahanol rannau o gofnodion cleient a gwneud tasgau gwahanol.

Er enghraifft, gallai’ch llyfrifwr gwblhau ac anfon diweddariadau chwarterol at CThEF. Yn yr enghraifft hon, dyma’r asiant ategol. Mae’n bosibl bod gennych gyfrifydd i gwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol yn derfynol ac i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol. Yn yr enghraifft hon, dyma’r prif asiant.

Ar gyfer asiantau

I weithredu ar ran eich cleientiaid, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • creu cyfrif gwasanaethau asiant, os nad oes gennych un eisoes

  • cael awdurdodiad gan eich cleient

  • copïo unrhyw awdurdodiadau Hunanasesiad presennol i’ch cyfrif gwasanaethau asiant

Dysgwch ragor am y canlynol:

Ar ôl cael eich awdurdodi, gallwch gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ran eich cleient. Dylai’ch cleient wirio bod yr wybodaeth ar eu Ffurflen Dreth yn gywir cyn ei gyflwyno.

Dewis meddalwedd sy’n cydweddu

Er mwyn cofrestru, bydd angen meddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm arnoch chi, neu’ch asiant. Gallwch gael meddalwedd sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • creu cofnodion digidol

  • cysylltu â’ch cofnodion presennol (meddalwedd pontio)

Gwiriwch â’ch darparwr meddalwedd y bod ei gynnyrch yn bodloni’ch anghenion penodol. Bydd angen i’r cynnyrch neu gynhyrchion meddalwedd rydych yn eu dewis wneud y canlynol:

  • cynorthwyo’ch ffynonellau incwm a gwmpesir gan Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (hunangyflogaeth, eiddo yn y DU, eiddo dramor)

  • eich galluogi i anfon eich diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEF

  • gweithio gyda’ch cyfnod cyfrifyddu

Os ydych am gofrestru ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, gwiriwch gyda’ch darparwr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ystod y cyfnod hwn.

Dod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Awdurdodi’ch meddalwedd

Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi awdurdodi’ch meddalwedd sy’n cydweddu fel ei bod wedi’i chysylltu â CThEF ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel unig fasnachwr neu landlord

  1. Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.

  2. Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

  3. Pasio’r gwiriad o bwy ydych drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o’ch dogfennau adnabod (os oes angen).

  4. Rhowch ganiatâd i’ch meddalwedd gysylltu â CThEF.

Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis, ond ni fydd angen i chi basio’r gwiriad adnabod eto. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.

Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel asiant

  1. Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn y feddalwedd sy’n cydweddu.

  2. Nodwch ID defnyddiwr a chyfrinair eich ffỳrm ar gyfer ei chyfrif gwasanaethau asiant.

  3. Pasio’r gwiriad adnabod drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o ddogfennau adnabod.

  4. Rhowch ganiatâd i feddalwedd eich cwmni gysylltu â CThEF.

Mae angen gwybodaeth bersonol gennych chi neu gyflogai yn y cwmni er mwyn atal twyll. Gallwch ddysgu sut rydym yn storio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn Hysbysiad Preifatrwydd Porth y Llywodraeth a Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.

Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.

Yr hyn i’w wneud nesaf

Dysgwch sut i reoli’ch cyfrif treth ar-lein newydd ar ôl i chi gofrestru.