Guidance

Credyd Cynhwysol: gwybodaeth bellach i deuluoedd

Updated 1 July 2020

1. Y diffiniad o deulu?

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n diffinio teulu fel hawlydd sengl neu hawlwyr mewn cwpl sy’n gyfrifol am un neu fwy o blant neu bobl ifanc sy’n gymwys (rhywun 16 - 19 oed sydd mewn addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant).

Os ydych yn ofalwr teulu a ffrindiau, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Kinship carer’, sef rhywun sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn sydd ddim yn blentyn i chi oherwydd:

  • nid oes gan y plentyn rieni neu fod ganddynt rieni sy’n methu gofalu am y plenty
  • mae’n debygol y byddai’r plentyn fel arall yn cael eu gofalu amdanynt gan awdurdod lleol oherwydd pryderon am les y plentyn

Gall unrhyw un wneud cais am Gredyd Cynhwysol – nid pawb all gael Credyd Cynhwysol, mae’n dibynu ar yr amgylchiadau.

2. Sut mae Credyd Cynhwysol yn eich cefnogi chi a’ch teulu

Mae Credyd Cynhwysol yn cefnogi eich teulu trwy daliadau misol rheolaidd, na fydd o reidrwydd yn dod i ben pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Bydd Credyd Cynhwysol yn eich helpu i gyfuno gweithio gyda bod yn rhiant ac yn ei gwneud yn haws i chi gymryd swyddi rhan amser, hyblyg neu dros dro i’ch helpu i gael sgiliau gwerthfawr ac osgoi bylchau mewn CV.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion, dim faint o oriau rydych yn eu gweithio – sy’n golygu mwy o hyblygrwydd i chi. Gallwch wneud cais am ystod ehangach o swyddi a dychwelyd i waith yn gynt oherwydd mae Credyd Cynhwysol yn ychwanegu at eich enillion os ydych ar incwm isel.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech barhau i gael cymorth a chyngor ar gynyddu eich enillion tra rydych mewn gwaith.

3. Cymorth i blant

Telir Credyd Cynhwysol fel un taliad misol. Mae hyn yn cynnwys symiau i helpu cefnogi’ch plant.

Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer mwy na 2 o blant os:

Efallai y cewch y swm ychwanegol os byddwch yn dechrau gofalu am blentyn arall, yn dibynnu ar ba bryd y cawsant eu geni a faint o blant sydd gennych.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys y swm ychwanegol hwn ar gyfer eich plant hyd nes:

  • diwedd mis Awst yn dilyn pen-blwydd pob plentyn yn 16 oed, neu
  • diwedd mis Awst ar ôl eu pen-blwydd yn 19 oed ar gyfer pob plentyn sy’n dal i fyw gartref ac yn cymryd cwrs nad yw’n cwrs uwch yn yr ysgol neu’r coleg, neu’n cymryd rhan mewn hyfforddiant cymeradwy

4. Cymorth i blant anabl

Mae’r ychwanegiad plentyn anabl o Gredyd Cynhwysol yn helpu gyda’r costau ychwanegol o fagu plentyn anabl.

Bydd yr ychwanegiad Plentyn Anabl yn cael ei dalu naill ai ar gyfradd is neu uwch:

Mae’r gyfradd is ar gyfer plentyn sy’n cael:

  • unrhyw gyfradd o unrhyw elfen o Lwfans Byw i’r Anabl ac eithrio’r gyfradd uchaf o’r elfen ofal
  • unrhyw gyfradd o unrhyw elfen o Daliad Annibyniaeth Personol ac eithrio’r gyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd

Mae’r gyfradd uwch ar gyfer plentyn sydd yn:

  • cael y gyfradd uchf o’r elfen ofal o Lwfans Byw i’r Anabl
  • cael y gyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd o Daliad Annibyniaeth Personol
  • ddall neu â nam difrifol ar y golwg

5. Cymorth gyda gofal plant

Mae Credyd Cynhwysol yn ei gwneud yn haws i ddechrau gweithio os ydych yn rhiant, gyda mwy o help tuag at gostau gofal plant cofrestredig. Byddwch yn gallu hawlio yn ôl hyd at 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol a dalwyd allan. Mewn unrhyw fis mae’r taliad hwn yn cael ei gapio felly gallech gael uchafswm o daliad gofal plant o £646 ar gyfer un plentyn neu £1108 ar gyfer 2 neu fwy o blant.

Os ydych yn gwneud cais gyda phartner fel arfer bydd angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i dderbyn cymorth gyda chostau gofal plant cofrestredig. Mae’r help hwn ar gael pa waeth faint o oriau rydych chi’n eu gweithio.

Dylech ddweud wrthym yn syth pan fydd gennych gynnig swydd bendant oherwydd y byddwch yn gallu hawlio costau gofal plant cyn i’r swydd ddechrau. Gall hyn helpu gyda chael trefn mewn lle.

Mae’n bwysig rhoi gwybod i ni pan fydd eich amgylchiadau’n newid. Gellir hawlio costau gofal plant am o leiaf mis ar ôl i’ch cyflogaeth ddod i ben, a all eich helpu i gynnal gofal plant wrth i chi symud rhwng swyddi.

Defnyddiwch eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau.

Darganfod a allwch wneud cais ac am y wybodaeth ddiweddaraf.

6. Pwy all wneud cais?

I gael Credyd Cynhwysol mae’n rhaid i chi:

  • bod yn byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
  • bod yn 18 oed neu drosodd
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • peidio â bod mewn addysg llawn amser
  • peidio â bod gyda chynilion neu gyfalaf dros £16,000

Mae Credyd Cynhwysol nawr ar gael ym mhobman ym Mhrydain Fawr.

Gall unrhyw un wneud cais am Gredyd Cynhwysol – nid pawb all gael Credyd Cynhwysol, mae’n dibynu ar yr amgylchiadau.

Os ydych dros yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn, gallwch wneud cais os oes gennych bartner sydd o dan yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn. O 15 Mai 2019 ni fydd y mwyafrif o gyplau yn gallu hawlio Credyd Pensiwn nes bod y ddau bartner wedi cyrraedd oed cymhwyso Credyd Pensiwn.

Mewn rhai achosion efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn 16 neu 17 oed neu’n fyfyriwr llawn amser.

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd fel cwpwl os ydych yn byw gyda’ch partner. Os nad yw un ohonoch yn gymwys, bydd eu cynilion ac incwm hwy yn parhau i gael ei gymryd i ystyriaeth.

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud cais fel cwpwl mae’n rhaid i chi hefyd:

  • byw yn yr un cyfeiriad
  • bod yn briod a’ch gilydd, yn bartneriaid sifil i’ch gilydd neu’n byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod

7. Yn gyfnewid am eich Credyd Cynhwysol

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a bod gennych blant, bydd angen i chi enwebu prif ofalwr. Os ydych yn rhiant unigol, chi fydd y prif ofalwr yn awtomatig.

Mae’r hyn a ddisgwylir gan y prif ofalwr yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol yn cael ei seilio ar oedran y plentyn ieuengaf yn y cartref. Er enghraifft os yw eich plentyn o dan 1 oed nid oes angen i chi chwilio am waith i gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn ofalwr teulu a ffrindiau o ganlyniad i blentyn ymuno â’ch cartref o fewn y 12 mis diwethaf ac mae’r plentyn rhwng 1 a 16 oed, ni fydd yn ofynnol i chi chwilio am waith neu fynychu cyfweliadau wedi’u canolbwyntio ar waith am gyfnod o 12 mis o bryd mae’r plentyn yn ymuno â’r cartref.

Mae gofalwr teulu a ffrindiau hefyd yn cael ei adnabod fel person â chyswllt /gofal perthynas yng Nghymru a Lloegr neu fel bersonau cysylltiedig /gofalwr perthynas anffurfiol yn yr Alban.

Yng nghyfraith yr Alban, mae gofal perthynas yn cynnwys gofal cyfeillion a theulu (neu bersonau cysylltiedig), yn ogystal â threfniadau maethu ffurfiol gyda phlant sy’n derbyn gofal. Os ydych chi’n darparu gofal cysylltiedig ffurfiol yn yr Alban, rhaid i’r awdurdod lleol gymeradwyo hyn, a chewch eich cefnogi fel rhiant maeth.

Fel gofalwr teulu a ffrindiau, mae’n rhaid i chi fynychu cyfweliadau i drafod cynlluniau ar gyfer symud i mewn i waith yn y dyfodol os nad ydych yn gweithio’n barod. Os ydych eisoes yn gweithio neu’n dewis gweithio, efallai y gall Credyd Cynhwysol helpu i dalu am eich costau gofal plant.

Ar ddiwedd y cyfnod 12 mis bydd yr hyn a ddisgwylir gennych yn dibynnu ar oedran eich plentyn ieuengaf.

Mae rhai cyfyngiadau ar chwilio am waith ac argaeledd i weithio a all fod yn berthnasol lle mae gennych gyflwr iechyd neu gyfrifoldebau gofalu (naill ai am berson anabl neu blant ifanc) neu os oes yna ddiffyg gofal plant sydd am ddim neu’n fforddiadwy yn eich ardal chi.

Dylid trafod eich amgylchiadau personol gyda’ch Anogwr Gwaith a bydd y math o waith, lleoliad ac oriau y bydd angen i chi fod ar gael yn cael eu teilwra ar gyfer eich sefyllfa. Mae’r oriau disgwyliedig ar gyfer chwilio am waith yn cael eu capio yn dibynnu ar oedran eich plentyn ieuengaf a gellir eu lleihau ymhellach yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Fel y prif ofalwr, bydd eich cyfrifoldebau yn dibynnu ar oedran eich plentyn ieuengaf, fel y nodir yn y tabl canlynol:

Oedran eich plentyn ieuengaf: Eich cyfrifoldebau
Dan 1 oed Nid oes angen i chi chwilio am waith er mwyn cael Credyd Cynhwysol.
1 oed Os nad ydych eisoes yn gweithio, nid oes angen i chi chwilio am waith i gael Credyd Cynhwysol. Gofynnir i chi fynychu cyfweliadau gyda’ch anogwr gwaith i drafod cynlluniau i symud i mewn i waith yn y dyfodol a bydd angen i chi ddweud am unrhyw newid mewn amgylchiadau.
2 oed Bydd disgwyl i chi gymryd camau gweithredol i baratoi ar gyfer gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cael cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’ch anogwr gwaith, cytuno ar raglen o weithgareddau wedi eu teilwra i’ch amgylchiadau unigol a allai gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a gweithgareddau paratoi at waith (er enghraifft, ysgrifennu eich CV.
3 neu 4 oed Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos (neu dreulio 16 awr yr wythnos yn chwilio am waith), gallai gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith.
Rhwng 5 a 12 oed Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 25 awr yr wythnos (neu dreulio 16 awr yr wythnos yn chwilio am waith), gallai gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith.
13 oed a throsodd Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 35 awr yr wythnos (neu dreulio 35 awr yr wythnos yn chwilio am waith), gallai gynnwys rhywfaint o hyfforddiant a chyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith. Dylech roi gwybod i’ch anogwr gwaith cyn gynted ag y byddwch yn derbyn cynnig swydd, fel y gallwch hawlio cymorth ar gyfer eich costau gofal plant am o leiaf mis cyn i chi ddechrau gweithio.

Os ydych eisoes yn gweithio neu’n dewis gweithio, efallai y byddwch yn gymwys am help gyda chostau gofal plant.

Os oes gan eich plentyn anghenion gofal eithriadol gallai hyn effeithio ar yr hyn a ddisgwylir gennych.

Os ydych yn rhan o gwpl, ond nid y prif ofalwr, bydd disgwyl i chi wneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith ar unwaith.

Os bydd eich amgylchiadau yn golygu bod rhaid i chi ymgymryd â rhai cyfrifoldebau gofalu, byddech yn cael eich trin fel ‘gofalwr perthnasol’, a dylai eich anogwr gwaith gymryd y cyfrifoldebau hyn i ystyriaeth wrth bennu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swydd.

Gyda Chredyd Cynhwysol, byddwch yn cael help i nodi eich sgiliau a’r mathau o weithgareddau a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith, a fydd yn cael eu gosod allan yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os oes angen i chi chwilio am waith, dylech feddwl am chwilio am waith fel swydd lawn amser.

Bydd disgwyl i chi chwilio am neu baratoi ar gyfer gwaith am 35 awr bob wythnos, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac oedran eich plentyn.

Gall gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swydd y gallech fod angen eu gwneud cynnwys:

  • ffonio eich anogwr gwaith
  • creu a chynnal proffil ar-lein
  • gweithgareddau i wella eich chwiliad gwaith
  • cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth
  • cynnal chwiliad gwaith
  • gwneud cais am swyddi
  • chwilio am eirda
  • cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi
  • camau eraill y cytunwyd arnynt a fydd yn cynyddu eich tebygrwydd o gael gwaith

8. Ymrwymiad Hawlydd

Yr Ymrwymiad Hawlydd yw eich cofnod o’r cyfrifoldebau rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol a’r goblygiadau o beidio â’u cwrdd. Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch gofynion.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn Ymrwymiad Hawlydd. Bydd gennych eich Ymrwymiad Hawlydd eich hunan a gall un chi gael ei effeithio os yw eich partner yn dechrau gweithio neu fod eu hamgylchiadau yn newid.

9. Sancsiynau

Os nad ydych yn gwneud yr hyn rydych chi wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith yn eich Ymrwymiad Hawlydd, er enghraifft, methu mynychu apwyntiadau neu droi i lawr cynigion am swyddi efallai y byddwch yn cael sancsiwn.

Mae sancsiwn yn ostyngiad yn eich budd-dal sy’n cael ei osod os credwn nad ydych wedi cwblhau gweithgaredd gorfodol rydych wedi cytuno ei wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd ac nad ydych yn gallu rhoi rheswm da i egluro pam. Sancsiynau yw’r dewis olaf a bob amser fe ofynnir i chi am eich rhesymau dros eich gweithredoedd cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Os yw sancsiwn yn cael ei roi ar eich Credyd Cynhwysol byddwn yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei golli ac am ba hyd.

10. Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

Os ydych eisoes yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.

Dylech barhau i roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich cais credyd treth cyn gynted ag y bo modd. Efallai y bydd y newid yn golygu y bydd eich credydau treth yn dod i ben a bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

11. Taliadau Credyd Cynhwysol

Byddwch yn derbyn taliad Credyd Cynhwysol misol - dwywaith y mis ar gyfer rhai pobl yn yr Alban.

Os ydych yn hawlio gyda phartner, bydd hwn yn cwmpasu’r ddau ohonoch. Bydd hwn yn cael ei dalu i gyfrif addas o’ch dewis chi, a all fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn unai eich enw chi neu enw eich partner.

Bydd oedolion eraill sy’n byw yn yr un cartref sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn cael eu talu ar wahân.

Mae taliadau misol yn cyd-fynd a’r ffordd mae’r rhan fwyaf o gyflogau yn cael eu talu. Gall hyn eich helpu i baratoi ar gyfer a rheoli’r byd gwaith wrth i chi ddod i arfer â thrin eich arian yn fisol.

12. Sut mae’r taliad yn cael ei wneud i fyny

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei wneud i fyny o symiau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall gynnwys cymorth ar gyfer costau tai, plant a gofal plant yn ogystal â chymorth ar gyfer pobl anabl a gofalwyr.

Os yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag at eich rhent y chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu eich landlord eich hunan.

Os ydych yn byw yn yr Alban gofynnir i chi os ydych eisiau i’r swm ar gyfer tai gael ei dalu yn syth i’ch landlord.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion, nid faint o oriau rydych yn eu gweithio. Mae hyn yn golygu bod y system yn fwy hyblyg ac yn ei gwneud yn haws i chi gymryd gwaith, gan wybod y byddwch bob amser yn well eich byd os ydych yn gwneud hynny.

Wrth i’ch enillion gynyddu, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau yn raddol.

13. Nid yw eich partner yn caniatáu mynediad i chi at unrhyw ran o’r taliad

Os oes gennych unrhyw bryderon am gael mynediad at eich taliadau ac rydych angen trafod trefniadau talu amgen, gallwch gysylltu â’ch anogwr gwaith drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Mae trefniadau talu amgen yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos ac yn cael a’u hasesu yn ôl eu rhinweddau unigol. Mae hyn yn caniatáu i daliad cartref i gael ei rannu. Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd y trefniadau talu amgen hyn dros dro tra rydych yn cymryd camau i wella’r ffordd rydych yn rheoli eich arian.

14. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio gyda’r cynllun Gofal Plant Di-dreth?

Darganfyddwch am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth a chostau gofal plant Credyd Cynhwysol i’ch helpu i wneud penderfyniad.

15. Budd-dal Plant

Bydd Budd-dal Plant yn parhau i gael ei dalu ar wahân ac ni fydd yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

16. Taliadau cynhaliaeth plant

Ni fydd unrhyw daliadau cynhaliaeth plant a gewch yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

17. Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn cael swydd?

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pan fydd eich amgylchiadau’n newid, gan gynnwys pan fyddwch yn dechrau gweithio, ennill mwy neu’n gweithio mwy o oriau. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech barhau i gael cymorth a chyngor ar gynyddu eich enillion tra rydych mewn gwaith.

Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch taliadau Credyd Cynhwysol gael eu lleihau. Gelwir hyn yn eich lwfans gwaith. Os ydych yn ennill llai na hyn, bydd unrhyw beth rydych yn ei ennill yn incwm ychwanegol y gallwch ei gadw.

Os nad ydych yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod wedi dechrau gweithio, ni fyddant yn gwybod pam nad ydych bellach yn mynychu eich apwyntiadau, a byddant yn cymryd yn ganiataol nad ydych bellach yn dymuno cael Credyd Cynhwysol. Gall hyn olygu eich bod yn colli allan ar daliadau budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

18. Newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi ddweud am newid i’ch amgylchiadau er mwn i chi barhau i gael y swm cywir bob mis.

Efallai bydd eich cais yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn dweud am newid yn eich amgylchiadau ar unwaith.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • dechrau gofalu am blentyn
  • symud i gyfeiriad newydd
  • newid eich manylion banc
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith
  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)

Gallwch ddweud am newid mewn amgylchiadau drwy unai lofnodi i mewn i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.