Adroddiad corfforaethol

Siarter CThEF

Diweddarwyd 17 July 2023

1. Ynglŷn â Siarter CThEF

Mae Siarter CThEF yn ofynnol yn ôl y gyfraith o dan Ddeddf Cyllid 2009. Mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid i’r Siarter gynnwys safonau ymddygiad a gwerthoedd y bydd Cyllid a Thollau EF yn dyheu amdanynt wrth ddelio â phobl wrth arfer eu swyddogaethau.

Mae CThEF wedi ymrwymo i wella ei brofiad cwsmeriaid ac mae Siarter CThEF yn diffinio’r gwasanaeth a’r safonau ymddygiad y dylai cwsmeriaid eu disgwyl wrth ryngweithio â ni. Cefnogir y Siarter gan egwyddorion cymorth ychwanegol i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt.

2. Siarter CThEF

Gweithio gyda chi i gael treth yn iawn

Mae CThEF yma i gasglu’r dreth sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU.

Byddwn yn eich helpu i fodloni’ch cyfrifoldebau treth ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw fudd-daliadau, credydau treth, ad-daliadau neu gymorth arall y gallwch ei hawlio. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y lleiafrif bach sy’n plygu neu’n torri’r gyfraith.

Ein safonau

Cael pethau’n iawn

Byddwn yn rhoi gwybodaeth gywir, gyson a chlir i chi. Bydd hyn yn eich helpu i fodloni’ch rhwymedigaethau, a deall eich hawliau a’r hyn y gallwch ei hawlio. Pan ofynnwn am wybodaeth, rydym yn dibynnu arnoch i roi atebion llawn, cywir ac amserol inni. Os ydych yn anghytuno â ni, byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr opsiynau sydd ar gael i chi ac yn gweithio gyda chi i ddod i ganlyniad priodol yn gyflym ac yn syml.

Gwneud pethau’n hawdd

Byddwn yn darparu gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio o amgylch yr hyn y mae angen i chi ei wneud, ac sy’n hygyrch, yn hawdd ac yn gyflym i’w defnyddio, gan leihau’r gost i chi.

Bod yn ymatebol

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn sicrhau bod gan y bobl yr ydych yn delio â nhw’r lefel gywir o arbenigedd. Byddwn yn ateb eich cwestiynau ac yn datrys pethau y tro cyntaf, neu cyn gynted ag y gallwn. Byddwn hefyd yn egluro beth sy’n digwydd nesaf a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb gennym ni. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ei gywiro cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch, byddwn yn egluro sut y gallwch wneud cwyn.

Eich trin yn deg

Byddwn yn gweithio o fewn y gyfraith i sicrhau bod pawb yn talu’r swm cywir o dreth ac yn cael eu budd-daliadau a’u hawliau eraill. Byddwn yn tybio eich bod yn dweud y gwir wrthym, oni bai bod gennym reswm da dros feddwl fel arall. 

Bod yn ymwybodol o’ch sefyllfa bersonol

Byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn ateb unrhyw gwestiynau’n glir ac yn gryno. Byddwn yn ymwybodol o’ch sefyllfa bersonol ehangach, a byddwn yn rhoi cymorth ychwanegol os oes ei angen arnoch.

Cydnabod y gall rhywun eich cynrychioli

Byddwn yn parchu eich dymuniad i gael rhywun arall yn delio â ni ar eich rhan, megis cyfrifydd, ffrind neu berthynas. Dim ond os ydych wedi ei awdurdodi i’ch cynrychioli chi y byddwn yn delio ag ef. I’ch amddiffyn, mae CThEF yn gweithio gyda chyrff proffesiynol i bennu’r safon a ddisgwylir gan asiantau proffesiynol sy’n eich cefnogi i fodloni’ch rhwymedigaethau treth. Gallwn wrthod gweithio gydag asiantau proffesiynol sy’n methu â chadw at y safon hon.

Cadw’ch data’n ddiogel 

Byddwn yn diogelu gwybodaeth sydd gennym amdanoch ac yn ei thrin yn breifat ac yn gyfrinachol. Byddwn bob amser yn defnyddio’r wybodaeth honno’n deg ac yn gyfreithlon. 

Cyd-barch

Rydym yn cymryd unrhyw fygythiadau neu aflonyddu o ddifrif a byddwn yn cymryd camau priodol yn erbyn unrhyw ymddygiad o’r math. Byddwn bob amser yn eich trin yn unol â’n gwerthoedd parch, proffesiynoldeb ac uniondeb. Mae ein cyflogeion yn bobl hefyd ac rydym yn disgwyl i chi eu trin yn yr un ffordd.

3. Os nad ydych yn fodlon ar benderfyniad neu’r gwasanaeth a gawsoch

Os nad ydych yn teimlo bod y gwasanaeth a gawsoch wedi bodloni safonau’r Siarter gallwch wneud cwyn. Bydd CThEF yn delio â hi’n gyflym ac yn deg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn am y Siarter yn eich cwyn ac esboniwch pa agweddau ar y Siarter y teimlwch nad yw CThEF wedi’u bodloni.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn am adolygiad statudol o’r penderfyniad
  • apelio i’r tribiwnlys treth annibynnol
  • gwneud y ddau

Mae adolygiad statudol yn cael ei gynnal gan swyddog adolygu annibynnol yn CThEF nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol ac sy’n gweithredu fel pâr o lygaid ffres. Mae adolygiad statudol yn gyflymach ac yn fwy cost-effeithiol nag apelio’n uniongyrchol i’r tribiwnlys. Os nad ydych yn fodlon o hyd yn dilyn yr adolygiad gallwch apelio i’r tribiwnlys. Mae tua thri chwarter yr anghytundebau yn cael eu setlo yn ystod adolygiad ac nid oes angen iddynt fynd i dribiwnlys.

Dysgwch beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth. Os daeth lythyr o benderfyniad gan CThEF i law, bydd gan hynny gyfarwyddiadau hefyd ynghylch beth i’w wneud.

4. Adborth

Mae CThEF yn ymrwymo i nodi ac adolygu sut mae safonau’r Siarter yn berthnasol ym mhob agwedd ar ei waith.

Mae CThEF yn monitro adborth a geir am safonau’r Siarter ac mae crynodeb o’r adborth sydd wedi dod i law yn cael ei gynnwys yn yr adolygiadau rheolaidd o berfformiad sy’n cael ei gynnal gan Bwyllgor Profiad Cwsmeriaid CThEF.

5. Sut rydym yn monitro ac yn adrodd ar berfformiad yn erbyn y Siarter

Mae perfformiad yn erbyn y Siarter yn cael ei fonitro gan safonau gwasanaeth penodol, arolygon cwsmeriaid a data eraill, sy’n gysylltiedig â mesurau perfformiad CThEF ehangach. Rydym wedi cyhoeddi’r set ddiweddaraf o ddangosyddion a data.

Mae Pwyllgor Profiad Cwsmeriaid CThEF yn goruchwylio perfformiad yn erbyn y Siarter - dysgwch fwy am y Pwyllgor Profiad Cwsmeriaid.

Mae’r pwyllgor yn darparu adroddiad bob blwyddyn, gan asesu perfformiad CThEF yn erbyn y Siarter, ac mae’n cynnwys cynnydd a blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau pellach.  

O fis Rhagfyr 2020 ymlaen bydd y pwyllgor hefyd yn cynnal adolygiadau o berfformiad yn ei gyfarfod chwarterol. Caiff yr adolygiadau chwarterol hyn eu llywio hefyd gan adborth gan y Dyfarnwr (sy’n aelod o’r pwyllgor) a chan grŵp o weithwyr treth proffesiynol, a fydd hefyd yn cyfarfod bob chwarter â CThEF i roi eu safbwyntiau ar berfformiad CThEF yn erbyn y Siarter.

6. Rhagor o wybodaeth am CThEF

Cael gwybod sut i gysylltu â CThEF. 

Dysgwch fwy ynghylch ein: 

Darllenwch ein cyhoeddiadau canlynol: