Siarter gwybodaeth bersonol

Sut mae CThEF yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol.


Mae CThEF yn gwybod pa mor bwysig yw diogelu preifatrwydd cwsmeriaid a chydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018. Fel y cyfryw, ni fyddwn yn rhoi’ch gwybodaeth i unrhyw un, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth a’u hasiantaethau, awdurdodau lleol, yr heddlu nac unrhyw gyrff cyhoeddus na phreifat eraill, oni bai bod awdurdod cyfreithlon gennym i wneud hynny.

Mae’r siarter wybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gan CThEF pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth amdanoch neu’n ei chadw wrth ddelio â ni, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau gwell i chi. Mae hefyd yn nodi sut y gallwch ein helpu i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir.

I weld yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi, ewch i Siarter CThEF.

Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i’n helpu i wneud y canlynol:

  • casglu treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a TAW
  • talu credydau treth a Budd-dal Plant
  • gweinyddu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • gorfodi deddfwriaeth o ran mewnforio ac allforio

Deunydd ‘cod agored’

Gall CThEF arsylwi, monitro, cofnodi a chadw data’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • adroddiadau newyddion
  • gwefannau’r rhyngrwyd
  • Cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r gofrestrfa tir
  • blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol pan nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Gallwn ddefnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch:

  • at ddibenion un neu fwy o’n swyddogaethau yn ôl y gyfraith
  • er mwyn gwirio bod eich gwybodaeth bresennol yn gywir
  • i’w chymharu yn erbyn gwybodaeth arall er mwyn helpu i fynd i’r afael â thwyll a throsedd
  • er mwyn gwirio hawl a allai fod gennych
  • i’n helpu i ddilysu pwy ydych

Gwybodaeth y gallwn ei rhoi i eraill

Os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny, gallwn roi gwybodaeth amdanoch i’r canlynol:

  • adrannau eraill y llywodraeth a chyrff tebyg
  • yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith
  • y llysoedd, wrth gyflwyno gorchymyn llys dilys
  • awdurdodau trethi a thollau tramor

Gallwn hefyd ddatgelu’ch gwybodaeth cofrestru TAW nad yw’n ariannol er mwyn hybu twf economaidd drwy sgorio credyd yn well.

Darllenwch ragor am ddiogelu data yn CThEF ac ynghylch sut y gallwch ofyn am wybodaeth sydd gennym amdanoch yn ein taflen wybodaeth diogelu data.