Publication

Credyd Cynhwysol: help gyda rheoli eich arian

Updated 21 February 2020

1. Taliadau misol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis ac mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o gyflogau yn cael eu talu. Efallai y byddwch wedi arfer rheoli eich arian yn y ffordd hon, ond mae help ar gael os ydych angen rhywfaint o gymorth.

Efallai y bydd eich taliad misol o Gredyd Cynhwysol yn cynnwys swm tuag at eich rhent. Y chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu eich landlord eich hunan.

Bydd cyplau sy’n byw yn yr un cartref yn cael un taliad misol rhyngddynt, a fydd yn cael ei dalu i mewn i gyfrif addas o’ch dewis chi. Gallai hwn fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn unai eich enw chi neu eich partner.

2. Paratoi am Gredyd Cynhwysol

Gallwch baratoi am Gredyd Cynhwysol drwy ganfod ble y gallwch gael mynediad at y rhyngrwyd ac, os ydych angen, drwy wella eich sgiliau ar y rhyngrwyd.

Darganfyddwch fwy am baratoi am Gredyd Cynhwysol drwy gymryd y camau hyn:

2.1 Sicrhewch fod gennych gyfrif addas fel cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ar gyfer eich taliadau misol

Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, bydd angen i chi drefnu i reoli eich arian drwy:

  • ystyried y ffordd orau i sicrhau eich bod yn talu eich biliau rheolaidd; er enghraifft, sefydlu debydau uniongyrchol a/neu orchmynion sefydlog i dalu eich rhent, nwy, trydan, ac ati.
  • gweithio allan sut rydych yn mynd i gadw golwg ar eich gwariant. Gall sefydlu bancio electronig eich helpu i gadw llygad ar eich gwariant trwy’r rhyngrwyd
  • ar gyfer cyplau, ystyriwch sut orau i reoli eich arian gyda’ch gilydd, efallai drwy agor cyfrif ar y cyd

2.2 Gweithiwch allan eich cyllideb fisol drwy gynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod eich biliau’n cael eu talu’n brydlon

Mae llawer o ffyrdd y gallwch reoli eich arian.

Er enghraifft:

  • defnyddio cynllunydd cyllideb i’ch helpu i sicrhau bod eich arian yn parhau tan ddiwedd y mis, er enghraifft mae gan Wasanaeth Cynghori Ariannol declyn cymorth rheoli arian ar-lein sy’n darparu gwybodaeth a chyngor cyllidebu am ddim a diduedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol
  • ysgrifennu’r hyn rydych yn ei wario bob mis a gweithio allan faint fydd gennych dros ben unwaith y bydd eich biliau wedi cael eu talu
  • cael cyngor ar gyllidebu gan deulu neu ffrindiau
  • siarad â’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith leol

3. Cymorth drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau

Os ydych yn meddwl efallai y byddwch angen help i reoli eich arian, gallwch siarad â’ch anogwr gwaith. Gallant eich cyfeirio at y cymorth mwyaf priodol sydd ar gael.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chynghorau lleol a sefydliadau fel y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Chyngor ar Bopeth, i wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad at y cymorth sy’n addas i chi.

4. Cymorth drwy sefydliadau eraill

Mae digon o gyngor hefyd ar gael gan sefydliadau eraill. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at gyngor, offer a gwybodaeth a all eich helpu i reoli eich arian:

4.1 Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MAS) yn darparu arweiniad am ddim a di-duedd ar bob math o agweddau o arian, yn cynnwys, cyllidebu, cynilo, dyled a benthyca.

Mae’r teclyn Rheoli Arian wedi’i gynllunio’n arbennig i’ch helpu i reoli eich arian ar Gredyd Cynhwysol. Gallwch ei ddefnyddio os ydych yn gwneud cais newydd neu’n symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau presennol.

Mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac yn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch arian tra rydych yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a phan rydych yn cael taliadau rheolaidd.

Mae’r holl wybodaeth o fewn y Rheolwr Arian yn dod o arbenigwyr arian MAS a beth mae pobl sydd ar Gredyd Cynhwysol wedi’i weld yn ddefnyddiol i wybod. Gallwch ddefnyddio’r teclyn i:

  • gael gwybodaeth ac arweiniad yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol
  • cyllidebu am daliad misol sengl drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein
  • gweithio allan y ffyrdd gorau o dalu eich rhent
  • darganfod pa gyfrifon banc sydd orau i reoli eich taliad
  • cael awgrymiadau arbed arian i leihau cost eich biliau cartref
  • darganfod beth i’w wneud a ble i fynd i gael help os ydych yn cael trafferthion

Gallwch hefyd siarad ag arbenigwr arweiniad arian drwy ddefnyddio:

Sgwrs gwe

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Dydd Sadwrn, 8am i 3pm
Dydd Sul a Gwyliau Banc, wedi cau

Agor hafan Sgwrs gwe gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

WhatsApp

Ychwanegwch +44 7701 342744 i’ch WhatsApp i anfon neges.

Ffôn

Ffôn: 0800 138 7777
Typetalk: 18001 0800 915 4622
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc, wedi cau

4.2 Cyngor ar Bopeth

Cyngor ar ddyledion a chymorth ariannol dros y ffôn.

4.3 Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol

Cyngor ar ddyled dros y ffôn neu drwy e-bost.

Cyngor annibynnol – Cynlluniau gweithredu personol a phecynnau hunangymorth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, a chymorth i ymgynghorwyr arian.

Llinell Ddyled Genedlaethol – Cefnogaeth dros y ffôn i’ch helpu i reoli eich arian.

My Money Steps – Gwasanaeth ar-lein sy’n eich helpu i ddatblygu cynllun i gael mwy o reolaeth dros eich arian.

4.4 StepChange

Cyngor ar ddyled am ddim dros y ffôn ac ar-lein, gan gynnwys cymorth arbenigol ar hunangyflogaeth, ôl-ddyledion morgais ac ansolfedd.

4.5 The Money Charity

Cyngor cyllidebu, gwybodaeth ac ystod o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim.

4.6 Turn2us

Helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall.

4.7 Shelter Cymru

Cymorth i bobl sydd â phroblemau tai a all hefyd gael eu heffeithio gan ddyled. Cyngor ar-lein a chyngor arbenigol ar ddyledion ar gyfer y rhai sydd ei angen. Cyngor i bobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

4.8 Christians Against Poverty

Cwnsela a chyngor dyled dwys am ddim yn cwmpasu cyllidebu, rheoli dyled ac ansolfedd, yn cynnwys cyrsiau ar sut i gyllidebu a chynilo.