Canllawiau

Rhifyn mis Mawrth 2024 o Fwletin y Cyflogwr

Diweddarwyd 5 April 2024

Rhagarweiniad

Ar 6 Mawrth 2024, gwnaeth Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, ei Gyllideb y Gwanwyn.

Un o’r prif fesurau treth sy’n berthnasol i gyflogwyr oedd:

Newidiadau i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Cyhoeddodd y llywodraeth y newidiadau i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, a chynnydd i’r trothwy i £60,000 o 6 Ebrill 2024 ymlaen, gyda meinhau hyd at £80,000. Y tâl fydd 1% o’r Budd-dal Plant am bob £200 o incwm sy’n uwch na £60,000 a bydd yn cyfateb i’r taliad am incwm sy’n uwch na £80,000.

Mae’n bosibl y bydd gan eich cyflogeion ddiddordeb mewn hawlio Budd-dal Plant neu ailddechrau taliadau Budd-dal Plant os ydynt wedi optio allan yn y gorffennol. Mae’r tâl yn cael ei feinhau, felly os ydyn nhw, neu eu partner, yn ennill rhwng £60,000 ac £80,000, gall fod o fudd ariannol iddo hawlio. Gellir gwneud hawliadau am Fudd-dal Plant yn ap CThEF neu ar-lein ac mae’n nhw’n cael eu hôl-ddyddio’n awtomatig am 3 mis, neu ddyddiad geni’r plentyn os yn ddiweddarach.

Mae arweiniad newydd ar newidiadau i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel wedi’i gyhoeddi.

Mae gwybodaeth am yr holl fesurau a gyhoeddwyd i’w chael yn Natganiad y Gwanwyn 2024 (yn agor tudalen Saesneg).

I weld trosolwg o’r holl ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau a gyhoeddwyd, ewch i Gyllideb y Gwanwyn 2024: Trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).

Hefyd, yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwyr mae diweddariad ar fesur Cyllideb arall; Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ynghyd â gwybodaeth bwysig arall i gyflogwyr ar y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Cyllideb y Gwanwyn — 2024 Cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Ebrill 2024 ymlaen

Rydym yn atgoffa cyflogwyr ar 6 Mawrth 2024, cyhoeddodd y Canghellor y newidiadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol canlynol:

  • toriad i brif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion Dosbarth 1 o 10% i 8% o 6 Ebrill 2024 ymlaen

  • bydd cyfraddau ar gyfer yr hunangyflogedig ledled y DU hefyd yn cael eu torri 2 geiniog arall ar ben y toriad o 1 ceiniog i 8% a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref — mae hyn yn golygu y bydd prif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer yr hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen nawr yn cael ei gostwng o 9% i 6%

  • bydd y gofyniad i dalu Dosbarth 2 yn cael ei ddileu o fis Ebrill 2024 ymlaen, gyda’r rhai sy’n talu’n wirfoddol yn dal i allu gwneud hynny, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol yn Natganiad yr Hydref 2023

  • bydd y llywodraeth yn ymgynghori ar fanylion y diwygiad Dosbarth 2 yn ddiweddarach eleni, fel y cyhoeddwyd hefyd yn flaenorol yn Natganiad yr Hydref 2023

Gallwch ddarllen rhagor am newidiadau Yswiriant Gwladol yn Taflen Wybodaeth Treth Bersonol Cyllideb y Gwanwyn (yn agor tudalen Saesneg).

Gwnaethom anfon e-bost at bob cyflogwr ar ein cronfa ddata ar 6 Mawrth 2024 a gofyn iddynt gymryd camau i baratoi ar gyfer y newidiadau i’r gyflogres sy’n dod i rym o 6 Ebrill 2024 ymlaen, gan weithio gyda’u darparwyr meddalwedd a’u partneriaid darparu TG fel y bo’n briodol.

Rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrechion y mae cyflogwyr a’u darparwyr meddalwedd yn eu gwneud i fod yn barod ar gyfer 6 Ebrill 2024. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod yr amserlen yn dynn ac efallai na fydd rhai cyflogwyr yn gallu gweithredu’r newidiadau i systemau’r gyflogres mewn pryd.

Os na all cyflogwyr wneud newidiadau i ddod i rym o 6 Ebrill 2024 ymlaen, byddant yn codi cyfradd Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 anghywir i’w cyflogeion ac mae angen iddynt gywiro hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda rhedeg y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Bydd Offer TWE Sylfaenol CThEF yn cael ei ddiweddaru cyn 6 Ebrill 2024.

Talu TWE

Talu TWE a dyraniadau taliadau

Rydym yn aml yn cael ceisiadau i ailddyrannu taliadau ar gyfer cyflogwyr TWE.

Er mwyn sicrhau bod eich taliadau’n cael eu neilltuo’n gywir wrth wneud taliadau TWE i CThEF, mae angen i chi gynnwys cyfeirnod 13 o gymeriadau gan y Swyddfa Cyfrifon.

Os ydych am wneud yn siŵr bod CThEF yn dyrannu’ch taliad i dâl am gyfnod treth penodol, mae angen i chi ychwanegu 4 rhif at ddiwedd cyfeirnod eich Swyddfa Gyfrifon. Mae’r 4 rhif olaf hyn yn cynghori CThEF ar gyfer pa fis neu chwarter y mae’ch taliad ar ei gyfer, a’r flwyddyn dreth.

Y 2 rif cyntaf yw’r flwyddyn dreth. Ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025, y rhif bob amser yw 25.  Mae’r 2 rif cyntaf yn ymwneud â’r mis neu chwarter treth, er enghraifft, 01 ar gyfer Ebrill, 02 ar gyfer mis Mai, 03 ar gyfer mis Mehefin neu ar gyfer Chwarter 1. 

Ar gyfer y cyfnod 6 Ebrill i 5 Mai 2024, y 4 digid olaf fydd 2501.

Mae angen i chi gynnwys pob un o’r 17 o gymeriadau heb unrhyw fylchau i sicrhau bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir.

Mae rhagor o wybodaeth am dalu TWE a dyraniadau taliadau ar gael.

Debyd Uniongyrchol Newidiol

Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom gyflwyno opsiwn Debyd Uniongyrchol newydd ar gyfer TWE. Mae’r gwasanaeth yn eich galluogi i sefydlu cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol newidiol, sy’n awdurdodi CThEF i gasglu taliadau sy’n ddyledus o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth. Mae hyn yn sicrhau bod CThEF yn cael taliadau mewn pryd a’u dyrannu i’r tâl cywir.

Gellir cael at y gwasanaeth a’i reoli trwy’ch cyfrif gwasanaeth TWE.

Os ydych yn gwneud taliadau drwy’r Debyd Uniongyrchol newidiol, neu’n talu drwy’r gwasanaeth ar-lein, ni fydd angen i chi ddod o hyd i’r cyfeirnodau cywir i’w cynnwys gyda’ch taliad, gan y bydd y gwasanaeth yn cyfrifo’r rhifau ar eich rhan.

Taliad Cytundeb Setliad TWE

Wrth wneud taliad ar gyfer cyfrifiad eich Cytundeb Setliad TWE (PSA) gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’ch cyfeirnod SAFE. Mae hyn ar y llythyr eglurhaol a anfonwyd pan gafodd eich PSA ei wneud yn ffurfiol gyntaf. Os nad oes gennych eich llythyr eglurhaol, bydd angen i chi gysylltu â swyddfa CThEF a wnaeth eich cytundeb yn ffurfiol. Peidiwch â defnyddio cyfeirnod eich Swyddfa Gyfrifon TWE neu gyfeirnod TWE gan y bydd hyn yn cael ei ddyrannu’n anghywir.

Unwaith y bydd eich cyfrifiad yn cael ei brosesu, bydd CThEF yn rhoi slip cyflog yn awtomatig yn cadarnhau’r swm sy’n ddyledus sydd hefyd yn cynnwys eich cyfeirnod. Nid oes angen aros am eich slip cyflog gan y gallai unrhyw symiau a delir yn hwyr gronni llog. Dim ond unwaith y bydd eich cyfrifiad yn cael ei brosesu y bydd taliad ar gyfrif yn cael ei ddyrannu ac mae’n debygol y byddwch yn dal i gael slip cyflog.

Mae rhagor o wybodaeth am dalu Cytundeb Setliad TWE ar gael.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cynnydd blynyddol yn y gyfradd

Y Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) yw’r gyfradd cyflog isaf sydd raid talu’r rhan fwyaf o weithwyr yr awr yn ôl y gyfraith. Does dim ots faint o weithwyr yr ydych yn eu cyflogi, mae’n rhaid i chi dalu’r isafswm cyflog cywir.

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar hyn o bryd mae gweithwyr yn cael hyn os ydyn nhw dros 23 oed. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei ymestyn i bobl ifanc 21 a 22 oed gan gyflawni argymhelliad a wnaed gan y Comisiwn Cyflogau Isel yn 2019.

Mae cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cynyddu ar 1 Ebrill 2024, mae rhagor o wybodaeth am gyfraddau newydd, cyfredol a gorffennol y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gael.

Er mwyn eich helpu i gael pethau’n iawn, mae gweminar ar Paratoi ar gyfer cynnydd yng nghyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg).

Achosion cyffredin o dandaliadau

Mae talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn gallu bod yn fwy cymhleth na thalu’r gyfradd gywir i’ch gweithwyr. Mae rhai achosion cyffredin o dandaliadau’n cynnwys:

  • didyniadau a thaliadau ar gyfer eitemau neu dreuliau sy’n gysylltiedig â’r swydd

  • amser gweithio di-dâl, er enghraifft, trosglwyddo tîm rhwng shifftiau neu amser a dreulir yn mynd trwy wiriadau diogelwch ar fynediad ac ymadael

  • defnydd anghywir o’r cyfraddau prentisiaeth er enghraifft, gan dalu’r gyfradd prentis isafswm cyflog pan nad yw’r gweithiwr yn brentis dilys, neu dalu’r gyfradd prentis isafswm cyflog cyn i weithiwr ddechrau eu prentisiaeth, neu ar ôl iddo ddod i ben

Dim ond ychydig o’r risgiau yw’r rhain. Mae rhestr wirio ddefnyddiol ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Dechrau’r flwyddyn dreth newydd — benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig

Mae’r trothwyon a chyfraddau cynllun benthyciad y cynllun math myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig o 6 Ebrill 2024 ymlaen fel a ganlyn:

  • cynllun 1: £24,990

  • cynllun 2: £27,295

  • cynllun 4: £31,395

  • benthyciad ôl-raddedig: £21,000

Mae’r didyniadau ar gyfer:

  • cynlluniau 1, 2 a 4 yn aros ar 9% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwyon perthnasol

  • mae benthyciadau ôl-raddedig yn aros ar 6% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwy perthnasol.

Bydd arweiniad ar drothwyon benthyciadau myfyrwyr ac ôl-raddedig newydd (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu diweddaru ar 6 Ebrill 2024.

Hysbysiad o newidiadau i TWE, Gwybodaeth Amser, Real a Ffurflenni Treth Hunanasesiad — ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft

Crynodeb

Ar 14 Mawrth 2024, cyhoeddodd CThEF ymgynghoriad technegol (yn agor tudalen Saesneg) yn ceisio barn ar reoliadau drafft a fydd yn cyflwyno gofynion newydd i gyflogwyr, cyfarwyddwyr cwmnïau a’r hunangyflogedig ddarparu gwell data drwy’r system dreth. Bydd data gwell yn golygu canlyniadau gwell i ddinasyddion, busnesau a’r llywodraeth. Mae CThEF yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad technegol hwn gan drethdalwyr, busnesau, cyflogwyr a phob rhanddeiliad sydd â diddordeb.

Cefndir

Ym mis Ebrill 2023 cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb i’r ymgynghoriad, Gwella’r data y mae CThEF yn ei gasglu gan ei chwsmeriaid (yn agor tudalen Saesneg). Cadarnhaodd yr ymateb hwn fwriad y llywodraeth i ddeddfu i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau newid yr wybodaeth y maent yn ei darparu i CThEF trwy hunanasesiad Treth Incwm a ffurflenni amser real a gwblhawyd gan gyflogwyr. O ganlyniad, bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym o fis Ebrill 2025 ymlaen:

  • bydd disgwyl i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth fanylach o ran adrodd TWE ynghylch oriau cyflogeion a delir gan ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real

  • bydd disgwyl i gyfranddalwyr mewn busnesau a reolir gan berchnogion ddarparu gwybodaeth ar eu ffurflen Dreth Hunanasesiad o ran swm yr incwm difidend sy’n dod i law o’u cwmnïau nhw a hynny ar wahân i incwm difidend arall, yn ogystal â’r gyfran ganrannol a ddelir ganddynt yn eu cwmnïau eu hun

  • bydd disgwyl i’r sawl sy’n hunangyflogedig ddarparu gwybodaeth ar ddyddiadau dechrau a diwedd yr hunangyflogaeth ar eu ffurflen Dreth Hunanasesiad

Gwnaeth y Deddf Cyllid 2024 ar y wefan deddfwriaeth, cyflwyno pwerau i alluogi casglu data gwell drwy’r system drethi. Bydd rheoliadau dilynol yn nodi’r gofynion newydd ac yn dod â’r darpariaethau i rym o fis Ebrill 2025 ymlaen. Dyma’r rheoliadau hynny y mae CThEF wedi’u cyhoeddi mewn drafft ar gyfer ymgynghoriad technegol. Gall rhanddeiliaid sydd â diddordeb e-bostio eu barn ar y rheoliadau drafft i responsivenessdataconsultation@hmrc.gov.uk.

Rhyddhad rhag Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr Parth Buddsoddi

Mae’r rhaglen Parth Buddsoddi wedi’i chynllunio i dyfu’r economi, gan rymuso lleoedd lleol a chefnogi codi’r gwastad, trwy adeiladu clystyrau gwybodaeth ddwys sy’n adeiladu ar gryfderau presennol ardaloedd.

Mae’r pecyn o ryddhad treth sydd ar gael mewn safleoedd treth arbennig dynodedig o fewn Parthau Buddsoddi wedi’i gynllunio’n ofalus i gyflwyno buddsoddiad newydd trwy leihau cost gwneud busnes. Gall llywodraethau lleol a sefydliadau ymchwil dewis o ddewislen hyblyg o ymyriadau, gan gynnwys y cynnig treth, wrth ddylunio eu cynnig Parth Buddsoddi.

Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn cael eu cynnwys yn y fenter Parth Buddsoddi ehangach a chyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd ar enillion cyflogeion cymwys hyd at £25,000 y flwyddyn. Bydd hyn yn berthnasol i gyflogwyr sydd ag eiddo busnes mewn safle treth arbennig Parth Buddsoddi, lle mae’r amodau i hawlio’r rhyddhad yn cael eu bodloni.

Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Hydref 2023, mae’r rhaglen Parth-buddsoddi wedi’i hymestyn o 5 i 10 mlynedd. Bydd pob Ardal Fuddsoddi yn Lloegr yn cael amlen o £160 miliwn dros ddeng mlynedd. Gellir defnyddio hyn yn hyblyg rhwng gwariant ar ymyriadau fel sgiliau, ymchwil a datblygu a seilwaith lleol, yn dibynnu ar angen lleol, a’r cynnig dewisol sengl hwn o gymhellion treth, graddadwy yn seiliedig ar nifer y safleoedd cymwys. Bydd y rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gael i’r holl gyflogeion newydd a gyflogir rhwng y dyddiad y bydd dynodiad safle treth arbennig yn dod i rym a dyddiad dod i ben y safle treth arbennig.

Mae’n rhaid i’r cyflogwr fod yn gyflogai newydd y mae ei gyflogaeth yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2022 a chyn y dyddiad machlud perthnasol. Ni all y cyflogai fod wedi gweithio i’r cyflogwr hwnnw, na chyflogwr sy’n gysylltiedig â’r cyflogwr yn ystod y 24 mis blaenorol. Ar ddechrau’r cyfnod cymhwysol, mae’n rhaid i’r cyflogwr ddisgwyl yn rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio o leiaf 60% o’i amser gwaith ar safle treth arbennig y Parth Buddsoddi. Bydd y rhyddhad yn berthnasol am 36 mis fesul cyflogai cymwys.

Bydd y gyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion newydd sy’n gweithio ar safle treth arbennig y Parth Buddsoddi yn berthnasol i’w henillion uwchben trothwy eilaidd cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at a chan gynnwys trothwy uwchradd uchaf y Parth Buddsoddi, sy’n cyfateb i drothwy uwchradd uchaf y Porthladd Rhydd.

Bydd arweiniad ar gael i gyflogwyr hunanasesu cymhwystra i hawlio’r rhyddhad hwn ym mis Ebrill 2024.

Mae rhagor o wybodaeth ar safleoedd treth arbennig Parthau Buddsoddi gyda rhyddhad treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwell (yn agor tudalen Saesneg) a phrosbectws polisi Parthau Buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024

Mae’n rhaid i’r holl ffurflenni P11D a P11D(b) gael eu cyflwyno ar-lein. Nid ydym yn derbyn ffurflenni P11D a P11D(b) papur mwyach. Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

Mae gwasanaeth TWE ar-lein CThEF yn rhad ac am ddim a bydd yn caniatáu cyflwyniadau o hyd at 500 o gyflogeion. Mae’n rhaid cyflwyno pob ffurflen P11D a’r ffurflen P11D(b) cysylltiedig ar-lein ar yr un pryd. Nid oes gan y gwasanaeth ar-lein gyfleuster profi.  I’ch helpu i gyflwyno ar-lein, byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer y gweminar ‘cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein’, bydd dyddiadau ar gael yn nes at yr amser.

Y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau P11D a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A P11D(b) yw 6 Gorffennaf 2024.

Os ydych yn gwneud camgymeriad ac angen cyflwyno diwygiad

Nid yw CThEF bellach yn derbyn unrhyw ddiwygiadau papur. Os ydych yn gwneud camgymeriad ac angen cyflwyno diwygiad, defnyddiwch y cysylltiad ‘cywiro gwall’ ar yr arweiniad treuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Eich helpu i’w gael yn iawn y tro cyntaf

Os gwnewch gamgymeriad neu os anfonwch eich ffurflen yn hwyr, gall eich cyflogeion dalu’r dreth anghywir a gallwch wynebu cosb.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • rydych wedi cyflwyno unrhyw ffurflenni P11D

  • rydych wedi talu treuliau neu fuddiannau unrhyw gyflogai drwy’ch cyflogres

  • mae CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), drwy anfon hysbysiad atoch i wneud hynny

Mae’ch ffurflen P11D(b) yn rhoi gwybod i CThEF faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y Cyflogwr y mae angen i chi eu talu ar yr holl dreuliau a buddiannau a roesoch i’ch cyflogeion drwy’r gyflogres, yn ogystal ag unrhyw rai y rhoesoch wybod i CThEF amdanynt drwy ffurflen P11D.

Dim byd i’w ddatgan

Os yw CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) ac nad oes gennych ddim byd i’w ddatgan, gallwch roi gwybod i ni nad oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y Cyflogwr yn ddyledus gennych drwy lenwi ffurflen ‘No return of Class 1A National Insurance contributions’ (yn agor tudalen Saesneg). Dylech ond defnyddio’r datganiad hwn os yw CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno P11D(b) ac nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan.

Talu’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Mae yna gyfeirnod penodol y mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio i wneud eich taliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 dyma’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon arferol ynghyd â’r rhifau 2413 ar y diwedd. Peidiwch â gadael bwlch rhwng unrhyw un o’r rhifau.

Dyma enghraifft o’r fformat cywir, ond defnyddiwch eich cyfeirnod eich hun — 123PA001234562413.

Os ydych yn talu mewn banc neu’n anfon siec, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r slip talu cywir, caiff ei argraffu ymlaen llaw gyda’r cyfeirnod yn y fformat cywir. Os na fyddwch yn defnyddio’r slip talu cywir, neu os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, ni fyddwn yn gwybod eich bod wedi talu’ch tâl Dosbarth 1A ac efallai y byddwn yn anfon nodynnau atgoffa talu a hysbysiadau diofyn nes bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir. Mae rhagor o wybodaeth am sut i dalu ar gael.

I’r cyflogwyr hynny sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i fod â rhwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac felly bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) i roi gwybod i ni faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch. Bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflenni P11D i ddangos unrhyw fuddiannau a daloch na wnaethoch eu talu drwy’r gyflogres. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu’ch treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres.

Gall y cyflogwyr hynny nad ydynt eto wedi ymuno â chyflogres ar gyfer 2024 i 2025 gofrestru nawr i dalu’ch treuliau a’ch buddiannau drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Mae angen i chi gofrestru cyn dechrau’r flwyddyn dreth, os byddwch yn cofrestru ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, ni fyddwch yn gallu dechrau talu drwy’r gyflogres tan 6 Ebrill 2025.

Ni fydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D mwyach ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau gennych drwy’r gyflogres. Mae talu drwy’r gyflogres yn gyflymach ac yn haws.

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol

Nid ydym bellach yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres anffurfiol. Mae’n rhaid i chi gofrestru i dalu’ch treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres.

Os ydych wedi methu’r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer 2024 i 2025 ni fyddwch yn gallu talu drwy’r gyflogres tan flwyddyn dreth 2025 i 2026 a bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i gyflwyno’ch ffurflenni P11D ar-lein ar gyfer blwyddyn adrodd 2023 i 2024.

Cyfrifiannell treth car cwmni

Mae CThEF wedi datblygu cyfrifiannell buddiant car a buddiant tanwydd newydd i gymryd lle’r hen gyfrifiannell. Bydd yr hen gyfrifiannell yn cael ei datgomisiynu o 6 Ebrill 2024 ymlaen, pan na fydd y cysylltiadau’n gweithio mwyach.

Bydd y gyfrifiannell newydd yn gwbl hygyrch, yn cael llwybrau adborth ac yn cael ei fonitro i sicrhau gwelliant parhaus.

Ehangu buddiannau TWE i asiantau awdurdodedig

O fis Mai 2024 ymlaen, bydd asiantiaid yn gallu cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres.

Ar yr amod bod gan yr asiant y caniatâd cywir, gall ddefnyddio’r gwasanaeth talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres i gofrestru neu ddileu buddiannau a threuliau i’w talu yn y flwyddyn dreth nesaf. Mae’r buddiannau a’r treuliau a delir yn cynnwys:

  • milltiroedd a moduro

  • meddygol preifat

  • treuliau adleoli

Bydd asiantiaid yn gallu cofrestru i dalu drwy’r gyflogres o ddechrau blwyddyn dreth 2025 i 2026.

Mandadu talu buddiannau drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen

Fel y nodwyd yn niweddariad symleiddio treth yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys ar 26 Ionawr 2024, mae’r llywodraeth yn ehangu’r broses gyflogres gyfredol ar gyfer adrodd a thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau. Bydd hyn yn golygu y bydd talu buddiannau drwy’r gyflogres yn orfodol o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Mae manylion pellach am y datganiad symleiddio ar wefan parliament.uk, sy’n amlinellu cynlluniau’r llywodraeth sydd ar gael.

Mae talu’r Dreth Incwm sy’n ddyledus ar fuddiannau ar gael ar hyn o bryd i gyflogwyr yn wirfoddol, gyda’r rhai nad ydynt yn dymuno talu drwy’r gyflogres yn dal i allu cyflwyno ffurflen P11D ar ddiwedd y flwyddyn. Ni ellir talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar hyn o bryd felly mae angen cyflwyno ffurflen P11D(b) o hyd ar ddiwedd y flwyddyn. O ystyried y cyhoeddiad diweddar, mae CThEF yn annog unrhyw un sy’n gallu dechrau cyflogi’n wirfoddol i wneud hynny wrth baratoi. Bydd asiantiaid hefyd yn gallu talu buddiannau drwy’r gyflogres ar ran cyflogwyr o ddiwedd mis Ebrill 2024 ymlaen.

Mae CThEF yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i drafod ein cynigion i lywio penderfyniadau dylunio a chyflawni. Bydd deddfwriaeth ddrafft yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel rhan o’r broses deddfwriaeth dreth arferol. Bydd CThEF hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant i gynhyrchu arweiniad, a fydd ar gael cyn 2026.

Os ydych yn dymuno darparu adborth yn ymwneud â mandadu meddalwedd cyflogres i roi gwybod am fuddiannau, gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at policyemploymentbenefitsexpenses@hmrc.gov.uk.

Sut bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr

Os ydych yn darparu buddiannau i’ch cyflogeion, bydd yn rhaid adrodd a thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A mewn amser real trwy feddalwedd gyflogres o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Y flwyddyn dreth 2025 i 2026 fydd y flwyddyn olaf y byddwn yn derbyn P11Ds a P11D(b)s ar gyfer adrodd buddiannau yn flynyddol yn y rhan fwyaf o achosion.

Bydd CThEF yn helpu busnesau i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio drwy ddarparu arweiniad cyn 2026.

Cyfrifiannell treth TWE

Mae CThEF yn cyflwyno cyfrifiannell newydd a fydd yn disodli’r gyfrifiannell treth TWE bresennol (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond hyd at 5 Ebrill 2024 y bydd y gyfrifiannell bresennol ar gael, pan ddaw’r flwyddyn dreth gyfredol i ben.

Bydd y gyfrifiannell treth TWE newydd ar gael ar offer a chyfrifianellau CThEF (yn agor tudalen Saesneg) o 6 Ebrill 2024 ymlaen.

Bydd y gyfrifiannell newydd yn gwbl hygyrch, yn cael llwybrau adborth ac yn cael ei fonitro i sicrhau gwelliant parhaus.

Ceir cwmni — dynodi cerbydau cab dwbl at ddibenion lwfansau cyfalaf a phwrpasau buddiant

Diweddarodd CThEF arweiniad ar driniaeth treth cerbydau cab dwbl (DCPUs) ddydd Llun 12 Chwefror yn dilyn dyfarniad gan y Llys Apêl yn 2020. Roedd yr arweiniad wedi cadarnhau, o 1 Gorffennaf 2024 ymlaen, y byddai DCPUs sydd â llwyth tâl o un dunnell neu fwy yn cael eu trin fel ceir yn hytrach na cherbydau nwyddau ar gyfer lwfansau cyfalaf ac yn elwa at ddibenion buddiant.

Mae’r arweiniad hwn bellach wedi’u tynnu’n ôl yn dilyn diweddariad y Llywodraeth ar gerbydau cab dwbl i ddeddfu i sicrhau bod cerbydau DCPU yn parhau i gael eu trin fel cerbydau nwyddau.

Er bod y llywodraeth yn ymgynghori ar y ddeddfwriaeth ddrafft bydd DCPUs sydd â llwyth tâl o un dunnell neu fwy yn parhau i gael eu trin fel cerbydau nwyddau yn hytrach na cheir. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y Bil Cyllid nesaf sydd ar gael.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Lwfansau offer a pheiriannau

Mae CThEF wedi cyhoeddi offeryn penderfynu i helpu cwmnïau i wirio a allant hawlio’r lwfans cyfalaf gwariant llawn o 100% neu’r lwfans o 50% ar gyfer gwariant cyfraddau arbennig. Mae’r lwfansau hyn ar gyfer gwariant cymwys ar offer neu beiriannau.

Dim ond cwmnïau a all hawlio’r lwfansau hyn. Maent ar gyfer gwariant cymwys, a gododd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, ar offer a pheiriannau newydd ac sydd heb eu defnyddio.

Mae’r offeryn ar gael yn arweiniad cwsmeriaid CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn offeryn yn helpu cwmnïau i ddarganfod a allai gwariant ar asedion newydd fod yn gymwys ac yn cyfrifo faint y gallant ei hawlio

Mae CThEF hefyd wedi cyhoeddi arweiniad ar waredu offer neu beiriannau (yn agor tudalen Saesneg) pan fyddwch wedi hawlio un o’r lwfansau hyn.

Diwygio’r cyfnod sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth

O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth, os nad ydych yn gwneud hynny eisoes.

Mae CThEF wedi bod yn gweithio ar gynyddu ymwybyddiaeth o hyn, a elwir hefyd yn diwygio’r cyfnod sylfaen. Mae CThEF wedi ysgrifennu at gwsmeriaid heb gynrychiolaeth ym mis Chwefror 2024 i ddarparu gwybodaeth a chyfeirio at ystod o gefnogaeth a rhyddhau fideo YouTube i helpu i esbonio’r newidiadau.

Mae arweiniad pellach ar Treth Incwm: diwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Cynllun y Diwydiant Adeiladu

Diwygio Cynllun y Diwydiant Adeiladu

Yn Natganiad yr Hydref 2023, yn y Crynodeb o’r Ymatebion i Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), cyhoeddwyd sawl newid a fydd yn cael eu cyflwyno i’r CIS o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ychwanegu cydymffurfiad â rhwymedigaethau TAW i’r prawf cydymffurfio â’r Statws Taliadau Gros (GPS), gydag eithriadau cyfatebol i rwymedigaethau cydymffurfio TAW
  • bydd yr adolygiad cyntaf o hanes cydymffurfio deiliad GPS hefyd yn cael ei gyflwyno o 12 mis ar ôl gwneud cais i 6

  • ehangu’r sail y gall CThEF ganslo GPS ar unwaith mewn achosion o dwyll sy’n ymwneud â TAW, Hunanasesiad Treth Incwm, Hunanasesiad Treth Gorfforaeth a TWE

  • dileu’r rhan fwyaf o daliadau o landlordiaid i denantiaid o gwmpas y CIS

  • cyflwyno ffurflen ddigidol ar gyfer cofrestriadau isgontractwyr CIS a cheisiadau GPS

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd ceisiadau dros y ffôn ar gyfer cofrestriadau isgontractwyr CIS a cheisiadau GPS bellach ar gael ac eithrio’r rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol. Bydd ffurflenni argraffu ac anfon yn parhau yn ei le nes bod y ffurflen ddigidol newydd yn orfodol, a disgwylir yn ddiweddarach yn 2024.

Ar hyn o bryd, ni fydd y ffurflen ddigidol ar gael i isgontractwyr nad ydynt yn breswyl, sy’n unig fasnachwyr a phartneriaethau. Byddant yn parhau i ddefnyddio’r dewis i’w hargraffu a’i hanfon drwy’r post.

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau diwygio CIS, gweler y Diweddariad Asiant: Rhifyn 118 (yn agor tudalen Saesneg).

Ad-daliadau CIS ar gyfer isgontractwyr cwmnïau cyfyngedig

Rydym yn agosáu at ein cyfnod prysuraf o’r flwyddyn ar gyfer prosesu hawliadau am ad-daliad ar gyfer isgontractwyr cwmnïau cyfyngedig, sy’n dilyn diwedd y cyfnod adrodd TWE ym mis Ebrill 2024.

Gall y rhan fwyaf o isgontractwyr cwmni cyfyngedig ofyn am ad-daliad CIS ar-lein, gan ddefnyddio’r cais am ad-daliad o ddidyniad cynllun y diwydiant adeiladu os ydych yn ffurflen gwmni gyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r ffurflen hawlio ad-daliad ar-lein yn eich galluogi i ofyn am ad-daliad, heb orfod aros dros y ffôn nac ysgrifennu i mewn.

Er mwyn galluogi CThEF i ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid sydd â’r angen mwyaf am ein cymorth, ni fyddwch bellach yn gallu gofyn am ad-daliad CIS dros y ffôn. Os ydych am hawlio ad-daliad am ddidyniadau CIS a gafwyd yn y flwyddyn dreth gyfredol, neu yn ystod blwyddyn dreth cyn 2018 i 2019, bydd angen i chi anfon eich cais at CThEF drwy’r post. Bydd unrhyw gwsmeriaid sy’n galw i ofyn am ad-daliad CIS yn cael eu cyfeirio i ddefnyddio ein ffurflen hawlio ar-lein, neu i anfon eu cais drwy’r post os nad ydynt yn gallu hawlio ar-lein.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith — peidiwch â chael eich dal allan trwy gyngor treth gwael

Mae’n bosibl y byddwch chi a’ch cyflogeion yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer rhai costau sy’n gysylltiedig â gwaith. Gallwch wirio a ydych yn gymwys i hawlio unrhyw beth yn gyflym ac yn hawdd gydag offeryn ar-lein gostyngiad treth ar gyfer cyflogeion CThEF.

Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gwaith y gall cyflogeion fod yn gymwys i’w hawlio yn cynnwys:

  • atgyweirio a glanhau gwisgoedd unffurf a dillad gwaith

  • prynu offer sy’n gysylltiedig â’r gwaith

  • ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol

  • defnyddio cerbydau eu hunain i deithio ar ran y gwaith, gan eithrio’r daith o’r cartref i’r gwaith

  • costau teithio a dros nos, lle nad yw eisoes wedi’i ad-dalu

Er y gallech fod yn gymwys, cofiwch y gallai rhai ‘cwmnïau ad-daliad treth’ gynnig gwneud hawliadau cost ar ran cyflogeion er mwyn iddynt allu hawlio comisiwn. Os yw’n ymddangos nad yw’r unigolyn yn gymwys i hawlio, bydd yn rhaid i CThEF hawlio’r treuliau’n ôl, gall hyn adael unigolion allan o boced.

Dyma pam mae ymgyrch newydd CThEF, ‘Peidiwch â Chael Eich Dal Wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg) yn helpu unigolion i adnabod arwyddion cyngor treth gwael. Mae hefyd yn annog trethdalwyr i wirio a ydynt yn gymwys i gael treuliau cyn hawlio.

Er mwyn helpu i ddiogelu’ch cyflogeion, rydym wedi llunio pecyn o adnoddau cyfathrebu ar gyfer hawlio rhyddhad treth sy’n gysylltiedig â gwaith (yn agor tudalen Saesneg) Mae hyn yn cynnwys negeseuon mewnrwyd a phosteri staff yr ydym yn eich annog i’w rhannu â’ch cyflogeion i’w helpu i beidio â chael eu dal gan gyngor treth gwael.

Codi safonau yn y farchnad cyngor treth — cryfhau’r fframwaith rheoleiddio a gwella cofrestru

Fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024, mae’r llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad ar godi safonau yn y farchnad cyngor treth. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ffyrdd o gryfhau’r fframwaith rheoleiddio a gwella’r cofrestriad.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys ac yn gofyn cwestiynau am y canlynol:

  • dulliau posibl o godi safonau

  • a ddylai’r llywodraeth gyflwyno gofyniad i ymarferwyr treth â thâl fod yn aelod o gorff proffesiynol cydnabyddedig

  • sut y gall cyrff proffesiynol a’r llywodraeth gydweithio i godi safonau ymarferwyr trethi

  • pwy ddylai gael eu cynnwys mewn unrhyw ofynion yn y dyfodol

  • mandad cofrestru gyda CThEF ar gyfer ymarferwyr treth sy’n dymuno rhyngweithio â CThEF ar ran eu cleientiaid

Peidiwch â cholli’r cyfle i roi’ch barn ar yr ymgynghoriad ar godi safonau yn y farchnad cyngor ar drethi: cryfhau’r fframwaith rheoleiddio a gwella cofrestru (yn agor tudalen Saesneg).

Mae ymateb yn hawdd, gallwch e-bostio eich barn at raisingstandardsconsultation@hmrc.gov.uk.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 29 Mai 2024.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at mary.croghan@hmrc.gov.uk.