Canllawiau

Bwletin y Cyflogwr: Mawrth 2024

Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.

Dogfennau

Manylion

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. 

Mae rhifyn mis Mawrth o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: 

  • taliad Cytundeb Setliad TWE
  • rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024
  • mandadu talu buddiannau drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen
  • cyfrifiannell dreth TWE
  • diwygio’r cyfnod sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth
  • hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith — peidiwch â chael eich dal allan trwy gyngor dreth gwael

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael. 

Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 April 2024 + show all updates
  1. Amendment to Reporting expenses and benefits for the tax year ending 5 April 2024 article to remove link and explanatory text which is no longer live

  2. Update to Paying PAYE article due to incorrect format of month and year for payment allocations.

  3. Added translation