Canllawiau

Rhifyn mis Rhagfyr 2022 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 7 December 2022

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Gallai’ch cyflogeion fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth ar eu treuliau sy’n gysylltiedig â’r gwaith

Gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen — arweiniad wedi’i ddiweddaru

Talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Swyddogaeth newydd o ran Debydau Uniongyrchol rheolaidd mewn perthynas â TWE y Cyflogwr

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Treth Deunydd Pacio Plastig — gwiriwch a oes angen i’ch busnes gofrestru

Buddiant car cwmni — camgyfrifiad wedi’i ddatrys

Newidiadau i gyfraddau Treth Car Cwmni o fis Ebrill 2025 ymlaen

Gweithio drwy gwmni ambarél

Os oes gennych TAW ohiriedig sydd heb ei thalu, gweithredwch nawr er mwyn osgoi cosb

Y sawl sy’n cyrraedd o Wcráin ac sy’n talu treth yn y DU os ydynt yn gweithio i gyflogwr sydd wedi’i leoli yn Wcráin

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Mae CThEF bellach yn defnyddio darllenwyr cardiau i gymryd taliadau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle

Y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) — Adroddiad Dweud wrth ABAB 2021 i 2022

Cynllun y Diwydiant Adeiladu — Ceisiadau am Ddatganiadau o Daliadau a Didyniadau

Arweiniad rhyngweithiol ynghylch P2 (hysbysiad cod) — helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Gallai’ch cyflogeion fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth ar eu treuliau sy’n gysylltiedig â’r gwaith

Mae’n bosibl y gall rhai o’ch cyflogeion gael rhyddhad treth ar dreuliau os nad ydych eisoes wedi rhoi ad-daliad iddynt. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • gwisgoedd unffurf a dillad ar gyfer y gwaith

  • prynu offer

  • ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol

  • defnyddio’u cerbydau eu hunain i deithio ar ran y gwaith (nid yw hyn yn golygu eu taith o’u cartref i’r gwaith)

  • gweithio gartref

Gall unrhyw un wirio a yw’n gymwys i hawlio ar GOV.UK ac, os felly, gall greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth i gael mynediad at ei gyfrif treth personol os nad oes ganddo un yn barod, a hawlio ar-lein.

Mae yna gwmnïau a fydd yn gwneud hawliadau ar ran unigolion. Gallant godi ffioedd hyd at 50% o’r ad-daliad a gallant hefyd gynnwys tâl gweinyddol. Mae’r cwmnïau hyn fel arfer yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, ac mae’r wybodaeth y mae’n rhaid i unigolion ei rhoi i’r cwmnïau hyn yr un peth â’r wybodaeth y byddai’n rhaid iddynt ei rhoi pe baent yn gwneud cais yn uniongyrchol i CThEF. Y fantais o wneud cais i CThEF drwy GOV.UK yw bod unigolion yn cael cadw’r holl arian y mae ganddynt hawl iddo.

Mae gennym restr o bethau i’w gwirio wrth i unigolion ddewis asiant treth.

Gallwch helpu’ch cyflogeion drwy wneud yn siŵr bod eich arweiniad mewnol a’ch gwefan yn gyfredol, a thrwy annog eich cyflogeion i hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â’r gwaith drwy GOV.UK.

Wrth adolygu’ch arweiniad mewnol a’ch gwefan:

Os yw’ch cyflogai’n cyflwyno hawliad drwy’r post, dim ond hawliadau a wneir gan ddefnyddio’r ffurflen P87 swyddogol y mae CThEF yn eu derbyn.

Mae ffyrdd eraill o wneud yn siŵr bod eich cyflogeion yn gallu cadw mwy o arian yn eu pocedi, fel Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, Lwfans Priodasol, Budd-dal Plant a mwy.

Gall unigolion wirio pa gymorth ariannol sydd ar gael, a gallwch helpu i wneud yn siŵr nad ydynt yn colli’r cyfle.

Gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen — arweiniad wedi’i ddiweddaru

Mae arweiniad wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newid yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaethom roi gwybod i chi amdano yn rhifyn mis Hydref 2022 o Fwletin y Cyflogwr.

Yn ogystal, rydym wedi diweddaru’r arweiniad ar ddatrys problemau gyda rhedeg y gyflogres. Mae hwn yn rhoi cyngor i chi os na allwch godi’r gyfradd gywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y cyfnodau o 6 Tachwedd 2022 ymlaen.

Gwnaethom atgoffa cyflogwyr y byddai’r gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ei gostwng 1.25 pwynt canrannol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen ar gyfer cyflogeion, cyflogwyr a’r hunangyflogedig am weddill blwyddyn dreth 2022 i 2023. Roedd y gostyngiad yn cwmpasu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyflogeion a chyflogwyr), Dosbarth 1A, Dosbarth 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig).

Gwnaethom hefyd ofyn i gyflogwyr ddileu oddi ar slipiau cyflog y neges generig dros dro, a oedd yn esbonio’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mis Ebrill 2022. Hefyd, gwnaethom achub ar y cyfle i ofyn i gyflogwyr sicrhau eu bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’u meddalwedd gyflogres.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cyflogwyr yn cywiro unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd ac yna gellir cyflwyno Cyflwyniad Taliad Llawn diwygiedig i wneud cywiriadau.

Mae Offer TWE Sylfaenol CThEF wedi’u diweddaru i roi cyfrif am gyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol fersiwn 22.2 (neu hwyrach) — gellir lawrlwytho hyn o GOV.UK.

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda datblygwyr meddalwedd gyflogres ar y newidiadau hyn a dylech gysylltu â’ch darparwr meddalwedd yn gyntaf gydag unrhyw ymholiadau cyflogres.

Talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024

Gallwch gofrestru nawr i dalu’ch buddiannau drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2023 ymlaen.

Ni fydd angen i chi gyflwyno P11D mwyach ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau gennych drwy’r gyflogres — mae talu drwy’r gyflogres bellach yn gyflymach ac yn haws. Os ydych yn gyflogwr mawr, bydd hyn yn arbed papur ac yn well i’r amgylchedd.

Gallwch ddysgu rhagor am dalu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres a rhoi gwybod amdanynt ar GOV.UK.

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol

Os oes eisoes gennych gytundeb anffurfiol â CThEF i dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwch nodi ‘Talwyd drwy’r gyflogres’ ar ffurflenni P11D a pharhau i’w cyflwyno. Fodd bynnag, dylech gynllunio i ffurfioli’r cytundeb hwn cyn gynted â phosibl. Mae’n bosibl na fydd CThEF yn derbyn ceisiadau newydd am drefniadau anffurfiol mwyach.

Os oes trefniant anffurfiol wedi bod ar waith gennych, mae’n rhaid i chi gofrestru nawr i dalu’ch buddiannau drwy’r gyflogres.

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig, sef 22 Ionawr 2023, yn syrthio ar ddydd Sul. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer mis Ionawr yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF ar neu cyn 20 Ionawr 2023, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Cysylltwch â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu mewn da bryd cyn gwneud eich taliad i wirio terfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfyniadau amser. Yna, gallwch sicrhau eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwn yn ei gael mewn pryd.

Dysgwch ragor am dalu TWE drwy ddull electronig.

Swyddogaeth newydd o ran Debydau Uniongyrchol rheolaidd mewn perthynas â TWE y Cyflogwr

Y dyddiad cau ar gyfer talu rhwymedigaethau TWE yw’r 22ain o’r mis ar gyfer talwyr misol neu’r 22ain o’r mis priodol bob chwarter i’r rheiny sy’n talu’n chwarterol.

Erbyn hyn, mae gan gyflogwyr y gallu i drefnu Debydau Uniongyrchol rheolaidd a fydd yn cwmpasu’r rhwymedigaethau hyn ar sail barhaus.

Unwaith i’r Debyd Uniongyrchol gael ei sefydlu, bydd y broses o’i gasglu yn gallu dechrau a gorffen ar ddiwrnod gwaith y banc yn unig.

I ddechrau, byddwch yn cael neges ddiogel i fewnflwch eich Cyfrif Treth Busnes a fydd yn dangos swm y Debyd Uniongyrchol. Gelwir hyn yn hysbysiad ymlaen llaw (‘advance notification’), a chaiff ei anfon ar yr 20fed o’r mis, neu’r diwrnod gwaith nesaf os nad yw’r 20fed yn ddiwrnod gwaith.

Bydd y casgliadau o’r banc yn digwydd ar y trydydd diwrnod gwaith ar ôl i’r hysbysiad ymlaen llaw gael ei anfon. Felly, bydd casgliadau bob tro’n digwydd ar ôl yr 22ain o’r mis.

Gan mai’r 22ain o’r mis yw’r dyddiad cau ar gyfer talu, gall fod adegau pan fo’r taliadau yn y cyfrif ar-lein yn ymddangos fel rhai sy’n hwyr ac mae’n bosibl y bydd taliadau llog yn ymddangos. Unwaith i’r Debyd Uniongyrchol gael ei gasglu, bydd ein systemau ariannol yn diweddaru’n awtomatig ac yn dileu unrhyw daliadau llog ar gyfer y cyfnod byr sydd rhwng yr 22ain a’r dyddiad y daeth y taliad i law CThEF.

Er enghraifft, ym mis Rhagfyr 2022:

  • bydd yr hysbysiad ymlaen llaw yn cael ei anfon ar 20 Rhagfyr 2022

  • bydd y Debyd Uniongyrchol yn dechrau’r broses gasglu ar 21 Rhagfyr 2022

  • bydd yr arian yn cael ei gasglu oddi wrth y banc ar 23 Rhagfyr 2022

  • bydd llog am dalu’n hwyr yn cael ei ddileu erbyn 24 Rhagfyr 2022

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Treth Deunydd Pacio Plastig — gwiriwch a oes angen i’ch busnes gofrestru

Ar 1 Ebrill 2022, cafodd y Dreth Deunydd Pacio Plastig ei chyflwyno. Os yw’ch busnes yn gweithgynhyrchu neu’n mewnforio 10 tunnell neu fwy o ddeunydd pacio plastig o fewn cyfnod o 12 mis, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig, hyd yn oed os yw’ch deunydd pacio’n cynnwys 30% neu fwy o blastig sydd wedi’i ailgylchu.

Darllenwch ragor am y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Er mwyn rhoi cymorth i fusnesau, mae CThEF wedi cynhyrchu adnoddau sy’n amlinellu’r canlynol:

Gwyliwch recordiadau o’n gweminarau diweddaraf ynghylch y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Buddiant car cwmni — camgyfrifiad wedi’i ddatrys

Ar ôl prosesu ffurflenni P11D a’r gwaith cysoni ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, nodwyd problem a wnaeth effeithio ar gwsmeriaid oedd â char cwmni gyda dyddiad cofrestru o 6 Ebrill 2020 neu’n hwyrach.

Yn yr achosion hyn, cafodd cyfradd ganrannol CO2 uwch ei chodi ar gam. Rydym wedi gweithio gyda’n cyflenwyr TG i gywiro’r broblem hon, ac mae gwaith adfer wedi’i gwblhau. Bydd pob cwsmer a gafodd gyfrifiad anghywir ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 wedi cael cyfrifiad diweddaredig yn ystod mis Hydref 2022. Gwnaeth y broblem hon effeithio ar gyflwyniadau 2021 i 2022 yn unig, ac nid oedd angen i unrhyw gyflogwr gymryd camau pellach.

Newidiadau i gyfraddau Treth Car Cwmni o fis Ebrill 2025 ymlaen

Mae Treth Car Cwmni yn dâl Treth Incwm ac yn dâl cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr. Mae’r taliadau hyn yn ddyledus os byddwch yn darparu car cwmni i’ch cyflogai sydd ar gael at ddefnydd preifat.

Ar hyn o bryd, mae cyfraddau Treth Car Cwmni wedi’u gosod hyd at flwyddyn dreth 2024 i 2025. Bydd y cyfraddau Treth Car Cwmni newydd a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yn dod i rym o 6 Ebrill 2025, 6 Ebrill 2026 a 6 Ebrill 2027 yn y drefn honno.

Bydd cyfraddau Treth Car Cwmni ar gyfer cerbydau allyriadau sero a cherbydau allyriadau isel iawn, sy’n allyrru llai na 75g o CO2 y cilometr, yn cynyddu:

  • 1 pwynt canrannol yn ystod 2025 i 2026

  • 1 pwynt canrannol pellach yn ystod 2026 i 2027

  • 1 pwynt canrannol pellach yn ystod 2027 i 2028, hyd at ganran briodol uchaf o 5% ar gyfer ceir trydanol a 21% ar gyfer ceir allyriadau isel iawn

Bydd cyfraddau ar gyfer pob band cerbyd arall yn cael eu cynyddu 1 pwynt canrannol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, hyd at ganran briodol uchaf o 37%. Yna, bydd y cyfraddau hyn yn cael eu cynnal ar gyfer blynyddoedd treth 2026 i 2027 a 2027 i 2028.

Rydym wedi cyhoeddi manylion y cyfraddau Treth Car Cwmni newydd.

Bydd y cyfraddau newydd yn effeithio’n unig ar weithwyr sy’n cael car cwmni sydd ar gael at ddefnydd preifat. Bydd y gofynion o ran adrodd i CThEF yn aros yr un fath ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud unrhyw beth yn wahanol. Bydd yr arweiniad presennol yn y Llawlyfr Incwm Cyflogaeth ynghylch cyfrifo buddiannau car yn parhau i fod yn berthnasol.

Gweithio drwy gwmni ambarél

Mae CThEF wedi bod wrthi’n diweddaru arweiniad ar gyfer gweithwyr cwmnïau ambarél.

Nod yr arweiniad hwn yw helpu gweithwyr i ddeall sut y byddant yn cael eu hurio, sut y bydd eu cyflog yn cael ei gyfrifo, a pha hawliau cyflogaeth ac ymrwymiadau treth sydd ganddynt os ydynt wedi’u cyflogi gan gwmni ambarél.

Yn ogystal â’r arweiniad diweddaredig, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hefyd wedi cynhyrchu dogfennau â gwybodaeth allweddol i weithwyr asiantaeth a delir drwy gwmnïau ambarél. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses o helpu gweithwyr cwmnïau ambarél i ddeall eu hawliau.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad diweddaredig ynghylch gweithio drwy gwmni ambarél.

Os oes gennych TAW ohiriedig sydd heb ei thalu, gweithredwch nawr er mwyn osgoi cosb

Gall busnesau gael cosb o 5% a/neu log os oes ganddynt TAW ohiriedig ac nad ydynt wedi’i thalu eto.

Dylai unrhyw un sy’n cael trafferth talu TAW ohiriedig gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Gallwn edrych ar daliadau fforddiadwy yn ôl amgylchiadau unigol.

Roedd busnesau a ohiriodd daliadau TAW, a oedd yn ddyledus rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2020, yn gallu gwneud un o’r canlynol:

  • talu’r swm llawn ar neu cyn 31 Mawrth 2021

  • ymuno â’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig ar-lein ar neu cyn 21 Mehefin 2021 i rannu taliadau TAW ohiriedig yn rhandaliadau llai, a oedd yn rhydd o log

  • cysylltu â CThEF i wneud trefniant i dalu ar neu cyn 30 Mehefin 2021

I’r cwsmeriaid hynny nad ydynt yn cysylltu â ni, y mae eu taliadau’n dal i fod heb eu talu a heb drefniant yn ei le, gallai cosbau fod yn berthnasol.

Darllenwch ragor o wybodaeth am TAW ohiriedig a’r gosb a godir.

Y sawl sy’n cyrraedd o Wcráin ac sy’n talu treth yn y DU os ydynt yn gweithio i gyflogwr sydd wedi’i leoli yn Wcráin

Yn ddiweddar, cyhoeddodd CThEF arweiniad am dalu trethi a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU os ydych yn gweithio i gyflogwr sydd wedi’i leoli yn Wcráin.

Mae’r arweiniad yn egluro beth yw statws preswyl at ddibenion treth, ym mha wlad y bydd y cyflogai’n talu’i drethi, a beth y mae angen iddo ei wneud er mwyn bodloni ei ymrwymiadau treth.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Mae CThEF bellach yn defnyddio darllenwyr cardiau i gymryd taliadau

Mae CThEF yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid wneud taliadau yn ystod ymweliadau wyneb yn wyneb.

O 31 Hydref 2022 ymlaen, bydd darllenwr cardiau gan bob Swyddog CThEF sy’n ymweld â chwsmeriaid yn sgil dyled, a hynny er mwyn cymryd taliad yn safle’r cwsmer, gan alluogi’r cwsmer i wneud taliad ar unwaith. Ni fydd yn rhaid i’r cwsmeriaid hyn ffonio llinellau cymorth CThEF mwyach. Mae lleihau nifer y galwadau yn rhoi mwy o gapasiti i CThEF roi cymorth i gwsmeriaid gydag ymholiadau mwy cymhleth.

Gellir defnyddio taliadau â cherdyn i wneud taliad llawn, neu randaliad fel rhan o drefniant Amser i Dalu.

Rydym yn deall y bydd cwsmeriaid eisiau bod yn sicr bod casglwr yn gyfreithlon. Gallwch gael gwybod sut i gadarnhau pwy yw aelod o staff CThEF.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n rhybuddio cyflogwyr bod angen iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llwyr â’u dyletswyddau parhaus o ran cofrestru awtomatig, ar ôl i archwiliadau ddod â nifer o wallau i’r amlwg. Mae’r rhybudd yn dilyn cyfres o wiriadau cydymffurfio manwl o dros 20 o gyflogwyr mawr ledled y DU.

Darllenwch ragor am eich dyletswyddau parhaus o ran cofrestru awtomatig ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae gwallau allweddol yn cynnwys defnyddio trothwyon enillion anghywir, sy’n rhoi staff mewn perygl o beidio â chael y cyfraniadau pensiwn sy’n ddyledus iddynt.

Darllenwch am drothwyon enillion ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae cywiro’r camgymeriadau hyn yn gallu bod yn gostus i chi. Efallai y bydd angen i chi wneud taliadau ôl-ddyddiedig ar gyfer staff sy’n cael cyfraniadau anghywir, ac mae gwallau hefyd yn gallu arwain at gamau gorfodi a all gynnwys cosbau ariannol.

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n monitro pob cyflogwr, mawr a bach, i wneud yn siŵr bod staff yn cael y pensiynau sy’n ddyledus iddynt. Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle. Os na wnewch hynny, bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau’n cymryd camau gorfodi, gan gynnwys codi dirwy arnoch.

Y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) — Adroddiad Dweud wrth ABAB 2021 i 2022

Ar 20 Hydref 2022, gwnaethom gyhoeddi Adroddiad Dweud wrth ABAB 2021 i 2022.

Mae’r Adroddiad Dweud wrth ABAB hwn yn seiliedig ar arolwg blynyddol, ac mae’n allweddol i sut mae CThEF a’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol yn casglu mewnwelediad oddi wrth fusnesau bach. Cynhaliwyd arolwg eleni yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2022, a chasglwyd dros 3,000 o ymatebion. Daeth 68% o’r ymatebion oddi wrth fusnesau, a gwnaeth 32% o unigolion nodi eu bod yn asiantau treth.

Mae’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol yn cynnwys 12 aelod ag ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth fusnes berthnasol a modern. Mae’n annibynnol, ac yn cynrychioli trawstoriad o fusnesau a phroffesiynau. Mae’n cynnig her adeiladol a chymorth i CThEF drwy hyrwyddo pob barn a phryder sy’n cael effaith ar y gymuned busnesau bach.

Efallai yr hoffech rannu’r adroddiad gyda’ch cyd-weithwyr — ac os hoffech roi sylwadau ar yr adroddiad hwn neu helpu ABAB gyda’i waith, e-bostiwch advisoryboard.adminburden@hmrc.gov.uk

Cynllun y Diwydiant Adeiladu — Ceisiadau am Ddatganiadau o Daliadau a Didyniadau

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, rydym yn newid y ffordd rydym yn delio â cheisiadau am Ddatganiadau o Daliadau a Didyniadau oddi wrth isgontractwyr, eu hasiantau treth a chynrychiolwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu.

Byddwn yn delio ag un cais am Ddatganiad o Daliadau a Didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu fesul cwsmer. Caiff unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth eu gwrthod.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol cyn i chi wneud cais am Ddatganiad o Daliadau a Didyniadau gan CThEF:

  • ceisiwch gael yr wybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth eich cleientiaid neu eu contractwyr

  • gofynnwch i gleientiaid neu gontractwyr anfon copïau atoch oddi wrth eu cofnodion

Dylai cael yr wybodaeth hon oddi wrth eich cleientiaid neu gontractwyr fod yn rhan o’ch prosesau arferol. Bydd yr arferion da hyn yn cefnogi effeithiolrwydd a rheoli gwybodaeth yn gywir.

Byddwn yn ystyried unrhyw geisiadau ychwanegol am Ddatganiadau o Daliadau a Didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu sydd wedi’u colli. Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi gofyn am wybodaeth oddi wrth y contractwr ond eich bod heb lwyddo i’w chael — er enghraifft, oherwydd i’r contractwr roi’r gorau i fasnachu.

O dan yr amgylchiadau hyn, dylech ysgrifennu i CThEF yn y cyfeiriad canlynol:


Gweithrediadau Treth Bersonol

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF

HMRC

BX9 1ST

Rhowch yr wybodaeth ganlynol yn eich llythyr:

  • eich enw a’ch cyfeiriad

  • enw, cyfeiriad a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer eich cleient

  • enw a chyfeiriad y contractwyr

  • cyfeirnod treth y contractwr, os ydych yn gwybod beth yw hwn

  • dyddiadau’r taliadau, neu’r misoedd treth pan wnaeth y contractwr eich talu chi neu’ch cleient

  • cadarnhad na all y contractwr ddarparu’r ddogfennaeth, neu gadarnhad na fydd y contractwr yn ei darparu

Arweiniad rhyngweithiol ynghylch P2 (hysbysiad cod) — helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn

Mae Hysbysiad Cod TWE, a elwir hefyd yn P2, yn esbonio i drethdalwyr beth yw eu cod treth presennol a’r rheswm pam mae ganddynt y cod treth hwnnw.

Mae cwsmeriaid yn cael Hysbysiad Cod P2 pan fydd eu cod treth yn newid — gall hyn fod am nifer o resymau, pan fydd cwsmeriaid yn:

  • dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol

  • cael budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth

  • hawlio Lwfans Priodasol

  • hawlio treuliau maent yn cael rhyddhad treth arnynt

  • neu pan fydd eu cyflogwr yn rhoi gwybod i ni eu bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’u swydd

Mae arweiniad rhyngweithiol newydd wedi cael ei gynhyrchu i gefnogi cwsmeriaid. Bydd hwn yn eu galluogi i ddewis yr arweiniad cywir yn ôl eu hanghenion ac i ddeall yr hyn sydd wedi newid a’r hyn mae angen iddynt ei wneud, os oes angen gwneud unrhyw beth o gwbl.

Darllenwch ragor am ddiweddaru’ch cod treth.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddogfennau a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn, mae’r dudalen cynnwys gyda’r cysylltiadau i erthyglau i’w gweld ar ochr chwith y sgrin, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn eich galluogi chi i wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r Dudalen’ a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • cadw’r ddogfen fel PDF:

    • gallwch glicio ar y botwm ‘Argraffu’r Dudalen’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, ddewis ‘Argraffu i PDF’ — bydd hyn yn caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig

    • ar ddyfais symudol, dewiswch y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein hysbysiadau e-bost.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter yn @HMRCgovuk.

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio alison.brown1@hmrc.gov.uk.