Codau treth
Trosolwg
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i’w chasglu o’ch cyflog neu’ch pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod iddo pa god i’w ddefnyddio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Dod o hyd i’ch cod treth
Gallwch ddod o hyd i’ch cod treth:
- drwy wirio’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn bresennol ar-lein – bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol neu greu un
- ar ap CThEF
- ar eich slip cyflog
- ar lythyr ‘Hysbysiad o God Treth’ oddi wrth CThEF, os cewch un
Ar ôl i chi fewngofnodi i’r gwasanaeth ar-lein, byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i’ch cod treth ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol.