Canllawiau

Gwirio pryd mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Pwy sydd angen cofrestru ar gyfer y dreth a phryd i wneud hynny, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn cofrestru.

Pwy ddylai gofrestru

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych:

  • yn disgwyl gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 30 diwrnod nesaf
  • wedi gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae hyn yn cynnwys trethdalwyr dibreswyl sy’n mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig i’r DU ar eu rhan eu hunain, neu’n gweithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn y DU.

Yn gyffredinol, y mewnforiwr bydd y derbynnydd ar y dogfennau mewnforio, oni bai ei fod yn darparu cofnodion i ddangos ei fod yn gweithredu ar ran rhywun sy’n rheoli’r mewnforio, a’i fod yn defnyddio’r derbynnydd i storio nwyddau ar ei ran.

Os ydych yn mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig gan ddefnyddio ‘incoterms’, dylech wneud yn siŵr eich bod chi a’r busnesau eraill yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am roi cyfrif am y Dreth Deunydd Pacio Plastig. Daw’r dreth yn daladwy wrth fewnforio’r nwyddau, ond rhoddir cyfrif amdani yn chwarterol mewn ôl-ddyledion yn hytrach nag ar adeg y mewnforio.

Os ydych yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig arall

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw o leiaf un partner (neu berson sy’n cyflawni busnes) wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf, neu os bydd yn gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

Bydd yr holl aelodau wedyn yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Os ydych yn aelod o grŵp busnes

Gallwch gofrestru fel grŵp. Mae hyn yn caniatáu i un yn unig o’r busnesau lenwi Ffurflenni Treth a gwneud taliadau ar ran holl aelodau’r grŵp.

Pryd i gofrestru

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig cyn pen 30 diwrnod ar ôl dod yn agored i dalu’r dreth. Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth ar yr holl gydrannau trethadwy o’r diwrnod rydych yn agored i gofrestru. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb os na wnewch hynny.

Cyn i chi gofrestru

Mae 2 brawf y mae’n rhaid i chi eu hystyried. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Edrych ymlaen at y 30 diwrnod nesaf i weld a ydych yn disgwyl cyrraedd y trothwy 10 tunnell neu fynd dros hynny.

  2. Gan ddechrau o ddiwrnod olaf y mis, edrych yn ôl 12 mis i wirio faint o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu a’u hallforio.

Os ydych yn bodloni’r naill neu’r llall o’r profion hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y dreth. Os ydych yn bodloni’r ddau brawf hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y dreth o’r dyddiad cynharaf.

Mae’n rhaid i chi gynnwys deunydd pacio penodol sydd wedi’i esemptio wrth gyfrifo a ydych wedi cyrraedd y trothwy 10 tunnell. Dysgwch fwy am ddeunydd pacio sydd wedi’i esemptio ac sy’n cyfrif tuag at y trothwy 10 tunnell ar gyfer cofrestru.

Sut i edrych ymlaen at y 30 diwrnod nesaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os byddwch yn gweithgynhyrchu neu’n mewnforio 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig cyn pen y 30 diwrnod nesaf. Gellir defnyddio’r prawf hwn unrhyw bryd.

Os ydych yn disgwyl cyrraedd neu fynd dros y trothwy 10 tunnell, byddwch yn agored i’r dreth o’r dyddiad yr oedd gennych le i ddisgwyl y byddech yn cyrraedd y trothwy.

Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru o’r dyddiad pan wnaethoch gyrraedd neu fynd dros y trothwy.

Enghraifft o sut i ddefnyddio’r prawf ‘edrych ymlaen’

Fel arfer, mae’ch busnes yn gweithgynhyrchu 0.25 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig bob mis.

Ar 16 Mai 2022, rydych yn cael archeb i gyflenwi 20 tunnell o ddeunydd pacio plastig erbyn diwedd mis Mai 2022. Bydd angen i’ch busnes gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig erbyn 14 Mehefin 2022.

Byddwch yn rhoi cyfrif am, ac yn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar yr holl ddeunydd pacio plastig rydych yn ei weithgynhyrchu o 16 Mai 2022 ymlaen, gan gynnwys eich gwaith cynhyrchu arferol yn ogystal â’r archeb newydd.

Dyddiad rhwymedigaeth eich busnes fydd 16 Mai 2022.

Sut i edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os ydych wedi gweithgynhyrchu, neu fewnforio, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn y 12 mis diwethaf.

Dylech wirio faint o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig rydych wedi’i weithgynhyrchu a’i fewnforio bob mis, dros y 12 mis diwethaf. Os byddwch yn cyrraedd y trothwy 10 tunnell, byddwch yn agored i’r dreth o ddiwrnod cyntaf y mis sy’n dilyn y mis pan wnaethoch gyrraedd y trothwy 10 tunnell.

Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru o’r dyddiad pan wnaethoch gyrraedd neu fynd dros y trothwy.

Enghraifft o sut i ddefnyddio’r prawf ‘edrych yn ôl’ o 1 Ebrill 2023 ymlaen

Fel arfer, mae’ch busnes yn gweithgynhyrchu neu’n mewnforio 0.5 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig bob mis.

Ar 1 Ebrill 2023, dim ond 6 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth 2023, felly does dim rhaid i chi gofrestru.

Rydych wedyn yn cael archeb am 8 tunnell o ddeunydd pacio plastig, ac fe gafodd ei gyflenwi gennych ar 15 Ebrill 2023. Ar 1 Mai 2023, rydych wedi gweithgynhyrchu mwy na 10 tunnell dros y 12 mis diwethaf, felly rhaid i chi gofrestru nawr ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig erbyn 30 Mai 2023.

Dyddiad rhwymedigaeth eich busnes fydd 1 Mai 2023. Mae’n rhaid i chi nawr roi cyfrif am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar yr holl ddeunydd pacio plastig a gaiff ei weithgynhyrchu a’i fewnforio o 1 Mai 2023 ymlaen.

Gan fod y dreth wedi dechrau ar 1 Ebrill 2022, roedd y prawf yn gweithio’n wahanol rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Roedd ond yn rhaid i chi edrych yn ôl hyd at 1 Ebrill 2022.

Enghraifft o sut y cafodd y prawf ‘edrych yn ôl’ ei ddefnyddio rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023

Fel arfer, mae’ch busnes yn gweithgynhyrchu 4 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig bob mis.

Ar 1 Mai 2022, dim ond 4 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu rhwng 1 Ebrill a 30 Ebrill 2022, felly does dim rhaid i chi gofrestru.

Ar 1 Mehefin 2022, rydych wedi gweithgynhyrchu 8 tunnell rhwng 1 Ebrill a 31 Mai 2022, felly does dim rhaid i chi gofrestru o hyd.

Ar 1 Gorffennaf 2022, rydych wedi gweithgynhyrchu 12 tunnell rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2022, felly rhaid i chi gofrestru nawr ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig erbyn 30 Gorffennaf 2022.

Dyddiad rhwymedigaeth eich busnes fydd 1 Gorffennaf 2022. Mae’n rhaid i chi nawr roi cyfrif am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar yr holl gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig a weithgynhyrchwyd o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen.


Sut i gofnodi’ch canlyniadau o’r profion

Os ydych yn bodloni’r naill brawf neu’r llall a bod angen i chi gofrestru, dylech gadw cofnod o sut gwnaethoch gyfrifo hyn ynghyd â thystiolaeth sy’n profi’ch canlyniad.

Os ydych yn bodloni’r ddau brawf hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y dreth o’r dyddiad cynharaf.

Os nad ydych yn bodloni’r naill brawf na’r llall ac os nad oes angen i chi gofrestru, dylech gadw cofnodion i ddangos eich bod yn gweithgynhyrchu neu’n mewnforio llai na 10 tunnell y flwyddyn o ddeunydd pacio plastig gorffenedig, gan gynnwys deunydd pacio wedi’i lenwi.

Dysgwch fwy am gadw cofnodion a chyfrifon.

Sut i gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer y dreth.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 March 2023 + show all updates
  1. You must now look back 12 months from the last day of the month, to check how much finished plastic packaging components you manufactured and imported, instead of looking back from 1 April 2022.

  2. The date for manufactured or imported finished plastic packaging components in the example of how to apply the look back test from 1 April 2023 has been amended from March 2022 to March 2023.

  3. The dates in the 'Example of how to apply the look back test from 1 April 2023' section have been updated.

  4. You must register at the earliest date if you meet both of the tests to register for Plastic Packaging Tax.

  5. Examples of how to apply forward look and backwards look tests have been added.

  6. If you import packaging components using incoterms, you should make sure you and other businesses know who is responsible for accounting for Plastic Packaging Tax.

  7. Information has been added to 'Who should register'. If you use incoterms, everyone involved must understand who the components are being imported on behalf of, because this is who is responsible for accounting for the tax. The tax becomes due when the goods are imported, but it's paid quarterly in arrears.

  8. Added translation

  9. Further information about who should register for Plastic Packaging Tax has been added.

  10. First published.