Canllawiau

Gwirio pa ddeunydd pacio sy’n agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig

Gwiriwch beth sy’n cael ei ystyried yn blastig, yn blastig wedi’i ailgylchu ac yn gydrannau deunydd pacio, ac a yw’r deunydd pacio rydych yn ei weithgynhyrchu neu’n ei fewnforio yn agored i’r dreth.

Mae Treth Deunydd Pacio Plastig yn daladwy am bob cydran deunydd pacio orffenedig unigol.

Pa bryd mae deunydd pacio’n cael ei ystyried yn blastig

At ddibenion y Dreth Deunydd Pacio Plastig, ystyr plastig yw deunydd polymer y gallai ychwanegion neu sylweddau fod wedi’u hychwanegu ato.

Nid yw polymerau cellwlos nad ydynt wedi’u haddasu’n gemegol, megis fiscos, yn cael eu trin fel plastig at ddibenion Treth Deunydd Pacio Plastig.

Mae deunyddiau cellwlos eraill sy’n cael eu haddasu’n gemegol, megis asetad cellwlos, yn cael eu hystyried yn blastig.

Mae ychwanegion yn cynnwys deunyddiau megis calsiwm neu lifynnau. Pan fyddwch yn asesu faint o blastig sydd mewn cydran deunydd pacio, mae’r ychwanegion yn cael eu hystyried yn rhan o’r plastig.

Mae plastigau’n cynnwys polymerau:

  • bioddiraddadwy
  • compostadwy
  • ocso-ddiraddadwy

Os gwneir cydran deunydd pacio plastig o ddeunyddiau lluosog ond ei bod yn cynnwys mwy o blastig yn ôl pwysau (gan gynnwys ychwanegion sy’n ffurfio rhan o’r plastig) nag unrhyw sylwedd arall, mae’n cael ei hystyried yn gydran deunydd pacio plastig at ddibenion y dreth.

Dyma’r sylweddau eraill y mae angen i chi eu hystyried:

  • gwydr
  • alwminiwm
  • dur
  • metelau eraill
  • papur a bwrdd
  • pren
  • unrhyw sylwedd arall

Mae angen i chi gadw cofnodion i ddangos pa sylweddau sydd mewn deunydd pacio plastig.

Mae enghreifftiau o sut i bennu a yw cydrannau pacio o fwy nag un deunydd yn blastig ar ddiwedd y canllaw hwn.

Cydrannau sy’n cynnwys adlyn

Pan fyddwch yn ystyried a yw cydran yn cynnwys mwy o blastig yn ôl pwysau ac mae’n cynnwys adlyn, mae angen i chi wirio a yw’r adlyn yn blastig. Os nad yw’r adlyn yn bodloni’r diffiniad o blastig, mae’n rhaid i chi beidio â’i drin fel ‘unrhyw sylwedd arall’ o’r rhestr ‘sylweddau eraill’ pan fyddwch yn cyfrifo a yw’r gydran yn cynnwys mwy o blastig.

Plastig wedi’i ailgylchu

Nid yw cydrannau deunydd pacio plastig sy’n cynnwys 30% neu fwy o blastig sydd wedi’i ailgylchu yn agored i’r dreth. Fodd bynnag, maent yn dal i gyfrif tuag at y trothwy 10 tunnell ar gyfer deunydd pacio rydych yn ei weithgynhyrchu neu’n ei fewnforio yn ystod cyfnod o 12 mis, ac mae’n dal i fod yn rhaid i chi gadw cofnodion ohono.

At ddibenion y Dreth Deunydd Pacio Plastig, tybir bod pob plastig wedi’i wneud gan ddefnyddio deunydd heb ei ailgylchu (newydd sbon), oni bai bod tystiolaeth bod deunydd ailgylchedig wedi’i ddefnyddio.

Mae enghreifftiau o sut i gyfrifo canran y plastig wedi’i ailgylchu yn eich deunydd pacio ar ddiwedd y canllaw hwn.

Daw plastig wedi’i ailgylchu o wastraff plastig sydd wedi’i ailbrosesu o blastig cyn-ddefnydd neu blastig ôl-ddefnydd trwy ddefnyddio proses weithgynhyrchu cemegol neu fecanyddol. Mae hyn er mwyn gallu ei ddefnyddio at ei ddiben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Nid yw hyn yn cynnwys ailgylchu organig.

Plastig cyn-ddefnydd

Ystyr plastig cyn-ddefnydd yw plastig sy’n cael ei adfer o wastraff a gynhyrchir yn ystod proses weithgynhyrchu. Yna, caiff ei brosesu gan gyfleuster ailbrosesu fel y gellir ei ddefnyddio fel deunydd crai.

Nid yw’n cynnwys unrhyw ddeunydd a fyddai fel arfer yn cael ei ailddefnyddio mewn proses weithgynhyrchu i’w atal rhag dod yn wastraff plastig. Er enghraifft, ailgyflwyno sgrap neu ail-lyfnu i’r broses weithgynhyrchu ar ôl cyn lleied o ailbrosesu. Mae ychydig iawn o ailbrosesu yn cynnwys rhwygo a llyfnu.

Plastig ôl-ddefnydd

Mae plastig ôl-ddefnydd yn blastig sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddiwr terfynol y cynnyrch pan na ellir ei ddefnyddio mwyach at ei bwrpas arfaethedig.

Y defnyddwyr terfynol yw:

  • aelwydydd
  • cyfleusterau masnachol
  • cyfleusterau diwydiannol
  • cyfleusterau sefydliadol

Mae hyn yn cynnwys dychwelyd deunydd o’r gadwyn ddosbarthu.

Ailbrosesu plastig

Gellir cwblhau’r gwaith o ailbrosesu gwastraff plastig cyn-ddefnydd a phlastig ôl-ddefnydd naill ai mewn safle ailbrosesu neu yn eich safle eich hun, os yw’r cyfleusterau gennych. Er mwyn cael ei ystyried yn blastig wedi’i ailgylchu, mae’n rhaid bod y gwastraff plastig wedi cael ei ailbrosesu, fel y gellir ei ddefnyddio fel deunydd crai wrth weithgynhyrchu deunydd pacio plastig arall.

Gall enghreifftiau o brosesau sydd ynghlwm wrth ailbrosesu gwastraff plastig gynnwys:

  • aildoddi
  • compowndio
  • ailbelenni
  • aildoddi i greu gronynnau

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Enghraifft o ddefnyddio sgrap plastig neu ail-lyfnu wrth gynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig

Mae Busnes A yn cynhyrchu hambyrddau plastig.

Mae Busnes A yn casglu’r trim (sgrap) ar ôl gorffen yr hambyrddau plastig.

Mae Busnes A yn fach iawn yn ailbrosesu’r sgrap trwy ei rwygo ac yn ei ddefnyddio dro arall i gynhyrchu hambyrddau plastig tebyg.

Ni ellir trin y sgrap fel elfen blastig wedi’i ailgylchu o’r hambyrddau plastig.

Enghraifft o blastig cyn-ddefnydd wedi’i ailbrosesu ar y safle y gellir ei drin fel plastig wedi’i ailgylchu mewn cydrannau deunydd pacio plastig

Mae Busnes B yn cynhyrchu hambyrddau plastig.

Mae Busnes B yn casglu’r trim (sgrap) ar ôl gorffen yr hambyrddau plastig.

Mae Busnes B yn ailbrosesu’r gwastraff ar y safle trwy ei dorri’n ddarnau llai a’i doddi i gynhyrchu pelenni plastig (ailgylchu).

Mae Busnes B yn defnyddio’r ailgylchu dro arall i gynhyrchu hambyrddau plastig tebyg neu gydrannau deunydd pacio plastig eraill.

Gellir trin yr ailgylchiad fel elfen blastig wedi’i ailgylchu o’r hambyrddau plastig neu gydrannau deunydd pacio plastig eraill.

Enghraifft o blastig ôl-ddefnydd wedi’i ailbrosesu y gellir ei drin fel plastig wedi’i ailgylchu mewn cydrannau deunydd pacio plastig

Mae Busnes C yn prynu plastig ôl-ddefnydd (ailgylchadwy) wedi’i ailbrosesu o ailbrosesydd.

Mae Busnes C yn defnyddio’r ailgylchyniad wrth gynhyrchu hambyrddau plastig.

Gellir trin yr ailgylchiad fel elfen blastig wedi’i ailgylchu o’r hambyrddau plastig.

Deunydd pacio sy’n agored i’r dreth

Mae dau fath o ddeunydd pacio plastig yn agored i’r dreth. Mae’r rhain wedi’u dylunio i fod yn addas ar gyfer:

  • eu defnyddio yn y gadwyn gyflenwi
  • defnydd untro gan y defnyddiwr

Os yw’ch deunydd pacio’n cynnwys nifer o gydrannau deunydd pacio, mae’n rhaid i chi roi cyfrif am y Dreth Deunydd Pacio Plastig ar bob cydran.

Mae cydrannau deunydd pacio unigol fel arfer yn cael eu gweithgynhyrchu ar wahân cyn cael eu cydosod yn uned bacio. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • poteli, cloriau a labeli, sy’n cael eu gweithgynhyrchu ar wahân cyn cael eu cydosod i wneud unedau pacio ar gyfer diodydd a hylifau
  • hambyrddau, bocsys a ffenestri plastig, sy’n cael eu gweithgynhyrchu ar wahân cyn cael eu cydosod i wneud unedau pacio ar gyfer bwydydd penodol, fel pasteiod a chacennau

Deunydd pacio sydd wedi’i ddylunio i fod yn addas i’w ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi

Dylech wneud yn siŵr bod pob cydran deunydd pacio plastig rydych yn ei weithgynhyrchu, neu’n ei fewnforio, yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Mae cydran deunydd pacio plastig yn gynnyrch sydd wedi’i ddylunio i fod yn addas i’w ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi, o wneuthurwr y nwyddau hyd at y defnyddiwr neu’r prynwr. Gellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynhyrchion eraill.

Os yw’r gydran deunydd pacio’n bodloni’r diffiniad, does dim ots a yw’n cael ei chynhyrchu neu ei mewnforio i’w defnyddio yng nghadwyn gyflenwi’r nwyddau, neu gan brynwr neu ddefnyddiwr.

Rhaid i’r gydran deunydd pacio gyflawni un neu fwy o’r swyddogaethau canlynol:

  • dal y nwyddau
  • diogelu’r nwyddau
  • trin y nwyddau
  • cyflwyno’r nwyddau
  • dosbarthu’r nwyddau

Mae enghreifftiau o gydrannau deunydd pacio’n cynnwys:

  • hambyrddau plastig sy’n cael eu defnyddio i ddal a diogelu bwyd, fel hambyrddau prydau parod
  • ffilm blastig i ddiogelu nwyddau, fel ffilm o amgylch cig amrwd
  • potiau plastig sydd wedi’u dylunio i drin a dosbarthu cynnyrch, er enghraifft potiau iogwrt

Ewch ati i gael hyd i ragor o enghreifftiau o ddeunydd pacio sydd wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi.

Deunydd pacio sydd wedi’i ddylunio i fod yn ddeunydd pacio untro i ddefnyddwyr

At ddibenion y Dreth Deunydd Pacio Plastig, ystyr deunydd pacio untro i ddefnyddwyr yw unrhyw gynnyrch untro sydd wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio gan brynwr neu ddefnyddiwr domestig wrth gyflawni un neu fwy o’r swyddogaethau canlynol:

  • cynnwys nwyddau neu wastraff
  • diogelu nwyddau neu wastraff
  • trin nwyddau neu wastraff
  • cyflwyno nwyddau neu wastraff
  • dosbarthu nwyddau neu wastraff

Byddai’r cynhyrchion hyn yn cael eu defnyddio gan y defnyddiwr yn hytrach nag yn y gadwyn gyflenwi.

Dyma enghreifftiau o ddeunydd pacio untro i ddefnyddwyr:

  • bagiau plastig
  • cwpanau, platiau a phowlenni untro
  • deunydd lapio anrhegion, fel rhuban a thâp gludiog

Ewch ati i gael hyd i ragor o enghreifftiau o ddeunydd pacio wedi’i ddylunio i fod yn ddeunydd pacio untro i ddefnyddwyr.

Gwiriwch a yw’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn berthnasol i’ch cydran

Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi wybod y canlynol:

Os ydych wedi defnyddio sawl deunydd gwahanol i wneud eich cydran deunydd pacio, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r canlynol:

Dechrau nawr

Enghreifftiau o sut i bennu a yw cydrannau pacio o fwy nag un deunydd yn blastig

Enghraifft o eitem sy’n cael ei hystyried yn gydran deunydd pacio plastig

Mae carton 10 gram yn cynnwys:

  • 4 gram o blastig
  • 3 gram o alwminiwm
  • 3 gram o gardfwrdd

Bydd y 10 gram cyfan yn cael eu hystyried yn gydran deunydd pacio plastig gan mai plastig yw’r deunydd trymaf.

Enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gydrannau deunydd pacio plastig

Enghraifft 1

Mae carton 10 gram yn cynnwys:

  • 2 gram o blastig
  • 5 gram o alwminiwm
  • 3 gram o gardfwrdd

Ni fydd y gydran hon yn cael ei hystyried yn gydran deunydd pacio plastig oherwydd nad plastig yw’r deunydd trymaf.

Enghraifft 2

Mae carton 10 gram yn cynnwys:

  • 5 gram o blastig
  • 5 gram o gardfwrdd

Ni fydd y gydran hon yn cael ei hystyried yn gydran deunydd pacio plastig oherwydd nad plastig yw’r deunydd trymaf.

Enghreifftiau o sut mae cyfrifo’r cynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu mewn cydrannau deunydd pacio plastig

Enghraifft sy’n dangos pan na fyddai’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn ddyledus

Mae cydran deunydd pacio plastig yn cynnwys:

  • 2 gram o blastig wedi’i ailgylchu
  • 2 gram o blastig newydd sbon
  • 3 gram o alwminiwm
  • 3 gram o gardfwrdd

Er mwyn cyfrifo cyfran y plastig sydd wedi’i ailgylchu:

  1. Rhannwch bwysau’r plastig wedi’i ailgylchu â chyfanswm pwysau’r holl elfennau plastig.
  2. Lluoswch yr ateb â 100.

Y cyfrifiad yn yr enghraifft hon yw: 2 ÷ 4 = 0.5 × 100 = 50%

Ni fyddai’r dreth yn ddyledus gan fod canran y plastig sydd wedi’i ailgylchu (50%) yn fwy na’r trothwy ar gyfer elfen blastig y deunydd pacio.

Enghraifft sy’n dangos pan fyddai’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn ddyledus

Mae cydran deunydd pacio’n cynnwys:

  • 1 gram o blastig wedi’i ailgylchu
  • 4 gram o blastig newydd sbon
  • 2 gram o alwminiwm wedi’i ailgylchu
  • 3 gram o gardfwrdd wedi’i ailgylchu

Er mwyn cyfrifo cyfran y plastig sydd wedi’i ailgylchu:

  1. Rhannwch bwysau’r plastig wedi’i ailgylchu â chyfanswm pwysau’r holl elfennau plastig.
  2. Lluoswch yr ateb â 100.

Y cyfrifiad yn yr enghraifft hon yw: 1 ÷ 5 = 0.2 × 100 = 20%

Yn yr enghraifft hon, nid yw canran y plastig sydd wedi’i ailgylchu yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu. Mae’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn ddyledus ar y gydran deunydd pacio gyfan, sef 10g.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 August 2023 + show all updates
  1. What recycled plastic is has been updated. The sections on pre-consumer plastic, post-consumer plastic and reprocessing plastic have been amended for clarity. Examples have been added to the reprocessing plastic section.

  2. The section 'Check if Plastic Packaging Tax applies to your component' has been added.

  3. Added translation

  4. Examples of how to work out if multiple material packaging components are plastic and how to work out the recycled plastic content of plastic packaging components have been added.

  5. Guidance about components that contain an adhesive has been added.

  6. Information in the 'Pre-consumer plastic' section of the guide has been updated.

  7. Information about cellulose-based material has been added in the 'When packaging is considered plastic' section, information about recovered materials and pre-consumer plastic has been added in the 'Recycled plastic' section and information about grinding has been updated in the 'Reprocessing plastic' section.

  8. The section 'How recovered material is reprocessed from pre-consumer plastic' has been added.

  9. Added translation

  10. Links to more examples of packaging subject to Plastic Packaging Tax and information about packaging made up of several components have been added.

  11. The page has been updated with more information about recycled plastic. The information about plastic packaging which is exempt from Plastic Packaging Tax has been moved to a new page.

  12. First published.