Canllawiau

Gwirio pa ddeunydd pacio nad yw’n agored i Dreth Deunydd Pacio Plastig

Dysgwch pa gydrannau deunydd pacio plastig sy’n esempt neu sydd wedi’u heithrio rhag y dreth, ac a yw’r deunydd pacio’n cyfrif tuag at y trothwy 10-tunnell ar gyfer cofrestru.

Deunydd pacio sydd wedi’i esemptio rhag y dreth

Mae pedwar categori o ddeunydd pacio sydd wedi’u hesemptio rhag y dreth. Maent yn gynhyrchion sy’n cael eu:

  • defnyddio ar gyfer pecynnu meddyginiaeth ddynol drwyddedig ar unwaith
  • cofnodi’n barhaol fel rhai sydd wedi’u neilltuo ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â phecynnu
  • defnyddio fel deunydd pacio cludiant i fewnforio nwyddau lluosog yn ddiogel i’r DU
  • defnyddio mewn storfeydd nwyddau awyrennau, llongau a threnau

Deunydd pacio sydd wedi’i esemptio ac sy’n cyfrif tuag at y trothwy 10-tunnell ar gyfer cofrestru

Wrth gyfrifo cyfanswm pwysau deunydd pacio sy’n cael ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio, rhaid cynnwys deunydd pacio plastig a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol dynol, a deunydd pacio plastig a gofnodir yn barhaol fel deunydd sydd wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â phecynnu.

Deunydd pacio plastig ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol dynol

Nid yw deunydd pacio plastig sy’n cael ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio i fod yn ddeunydd pacio uniongyrchol ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol dynol trwyddedig yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Mae deunydd pacio uniongyrchol yn gynhwysydd (neu’n fath arall o ddeunydd pacio) sy’n dod i gysylltiad yn uniongyrchol â chynnyrch pan gaiff ei gynhyrchu.

Mae cynnyrch meddyginiaethol yn cael ei ddefnyddio gan bobl i wneud y canlynol:

  • atal neu drin afiechydon
  • adfer, cywiro neu addasu swyddogaeth ffisiolegol drwy ddefnyddio gweithred ffarmacolegol, imiwnolegol neu fetabolaidd
  • gwneud diagnosis meddygol

Rhaid i gynnyrch meddyginiaethol fod wedi’i drwyddedu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (yn Saesneg).

Gallwch ddysgu rhagor am gynhyrchion meddyginiaethol yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (yn Saesneg).

Cydrannau deunydd pacio plastig a gofnodir yn barhaol fel rhai sydd wedi’u neilltuo ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â phecynnu

Nid yw cydrannau deunydd pacio plastig a gofnodir yn barhaol fel rhai sydd wedi’u neilltuo i’w defnyddio fel rhywbeth heblaw deunydd pacio yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig. Er enghraifft, ffilm blastig a ddefnyddir i orchuddio byrddau gwyn.

Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer rhywbeth heblaw pecynnu, megis ffilm i alluogi’r broses eplesu er mwyn gwneud silwair.

Mae CThEF yn disgwyl i’r esemptiad hwn fod yn berthnasol i nifer fach o gynhyrchion arbenigol iawn. Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth glir i gadarnhau unrhyw hawliad am yr esemptiad hwn.

Rhaid i chi gofnodi eu bod wedi’u neilltuo cyn iddynt gael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio, neu cyn gynted ag y bydd hynny wedi digwydd, a rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos hyn.

Deunydd pacio sydd wedi’i esemptio ac nad yw’n cyfrif tuag at y trothwy 10 tunnell ar gyfer cofrestru

Wrth gyfrifo cyfanswm pwysau deunydd pacio sy’n cael ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio, nid oes angen cynnwys deunydd pacio plastig a ddefnyddir i gludo nwyddau sydd wedi’u mewnforio na deunydd pacio a ddefnyddir at ddiben storio ar deithiau awyrennau, llongau a rheilffyrdd rhyngwladol.

Yn y ddau achos, caiff yr esemptiad ei bennu yn ôl sut mae’r deunydd pacio’n cael ei ddefnyddio, yn hytrach na’r math o ddeunydd pacio.

Deunydd pacio cludiant ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio

Ni chodir Treth Deunydd Pacio Plastig ar ddeunydd pacio cludiant (y cyfeirir ato hefyd fel deunydd pacio trydyddol) a ddefnyddir wrth ddosbarthu nwyddau i’r DU. Nid oes angen i chi rhoi cyfrif am hyn ar eich Ffurflen Dreth.

Mae deunydd pacio cludiant yn ddeunydd pacio wedi’i lunio er mwyn hwyluso’r trin a chludo o nifer o unedau gwerthu neu ddeunydd pacio wedi’u grwpio, er mwyn atal y canlynol:

  • difrod wrth drin â llaw
  • difrod wrth gludo

Mae’n cynnwys y deunydd pacio canlynol pan gaiff ei ddefnyddio i fewnforio nwyddau i’r DU:

  • cynhwysyddion ffordd, rheilffordd, llong neu awyr
  • cratiau plastig, cynwysyddion, paledi neu ddeunydd pacio plastig toll trwm eraill y gellir eu hailddefnyddio ac wedi’u cynllunio i gario ystod eang o gynhyrchion
  • cydrannau pacio -untro megis deunydd lapio paledi a strapiau cadw
  • sachau post y gellir eu hailddefnyddio

Nid yw’r esemptiad ar gyfer deunydd pacio cludiant yn berthnasol i’r canlynol:

  • unrhyw ddeunydd pacio plastig heb ei lenwi
  • deunydd pacio plastig o gwmpas uned werthu neu nifer o unedau gwerthu ar fewnforio
  • swmpgynhwyswyr canolradd, gan gynnwys swmpgynhwyswyr canolradd hyblyg, a ddefnyddir i gludo nwyddau mewn swmp

Mae enghreifftiau o ddeunydd pacio a ddefnyddir i fewnforio nwyddau i’r DU.

Deunydd pacio cludiant ar nwyddau sy’n cael eu hallforio

Os ydych wedi talu’r dreth ar unrhyw ddeunydd pacio sy’n cael ei allforio’n ddiweddarach, gallwch hawlio credyd ar eich Ffurflen Dreth.

Gallwch ohirio talu’r dreth os ydych yn bwriadu allforio’r deunydd pacio sydd heb ei lenwi yn ystod y 12 mis nesaf, a naill ai:

  • maent yn weithgynhyrchwyr deunydd pacio cludiant yn y DU
  • maent yn mewnforio deunydd pacio cludiant heb ei lenwi

Mae’ch rhwymedigaeth am y dreth yn cael ei ganslo pan fyddwch yn gwneud y ddau beth canlynol:

  • allforio’r deunydd pacio cludiant heb ei lenwi cyn pen 12 mis
  • cael y cofnodion i ddangos bod y deunydd pacio wedi’i allforio

Os defnyddir y deunydd pacio cludiant ar gyfer allforio nwyddau, mae angen i chi gyfrif am y dreth ar eich Ffurflen Dreth. Gallwch hawlio credyd treth pan fydd y ddau o’r canlynol yn wir:

  • mae’r deunydd pacio wedi’i allforio
  • mae gennych gofnodion i ddangos bod y deunydd pacio wedi’i allforio

Deunydd pacio a ddefnyddir at ddiben storio ar deithiau awyrennau, llongau a rheilffyrdd rhyngwladol

Ni chodir Treth Deunydd Pacio Plastig ar gynhyrchion pacio a ddefnyddir mewn storfeydd ar gyfer teithiau rhyngwladol. Gall y rhain fod yn storfeydd ar awyrennau, llongau neu gerbydau rheilffordd.

Os yw’r deunydd pacio plastig wedyn yn cael ei fewnforio (ei symud o storfeydd a’i ryddhau i’r DU), bydd yn rhaid cofnodi’r mewnforyn, ynghyd â phwysau a chynnwys ailgylchedig y deunydd pacio.

Ewch ati i gael hyd i ragor o wybodaeth am beth sy’n cael ei ystyried yn storfa (yn Saesneg).

Deunydd pacio sydd wedi’i eithrio rhag y dreth

Mae tri math o gynnyrch sydd wedi’u heithrio rhag y dreth. Nid oes angen cynnwys y rhain wrth gyfrifo cyfanswm pwysau’r deunydd pacio a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd.

Maent yn gynhyrchion a ddyluniwyd:

  • i gael eu defnyddio i storio nwyddau yn y tymor hir
  • i fod yn rhan annatod o’r nwyddau
  • i gael eu hailddefnyddio er mwyn cyflwyno nwyddau

Deunydd pacio plastig a ddyluniwyd i’w ddefnyddio i storio nwyddau yn y tymor hir

Nid yw deunydd pacio plastig sydd â’r prif ddefnydd o storio nwyddau yn y tymor hir yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ac nid oes angen i chi roi cyfrif amdano yn eich Ffurflen Dreth.

Mae’r deunydd pacio hwn wedi’i ddylunio:

  • i fod yn addas i’w lenwi pan fydd y nwyddau mae wedi’i ddylunio i’w cynnwys yn cael eu gwerthu
  • i fod yn addas i’w ailddefnyddio i storio’r un nwyddau neu nwyddau tebyg
  • fel bod ei swyddogaeth bacio’n eilaidd i’w swyddogaeth storio

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • blychau offer
  • blychau cymorth cyntaf
  • cesys clustffonau neu glustffonau bach

Dod o hyd i ragor o enghreifftiau o ddeunydd pacio wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio i storio nwyddau yn y tymor hir.

Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd pacio a ddyluniwyd gyda’r disgwyliad o gael ei waredu ar ôl i’r nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y deunydd pacio ddarfod neu gael eu defnyddio ar adeg eu gwerthu.

Deunydd pacio plastig sydd wedi’i ddylunio i fod yn rhan hanfodol o’r nwyddau

Nid yw cydrannau deunydd pacio plastig sy’n rhan hanfodol o’r nwyddau yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ac nid oes angen i chi roi cyfrif amdanynt yn eich Ffurflen Dreth.

Mae cydran deunydd pacio yn rhan hanfodol o’r nwyddau:

  • os na ellir, yn rhesymol, ddefnyddio’r nwyddau heb y gydran
  • os oes disgwyl i’r gydran gael ei gwaredu ar ôl i’r nwyddau (y mae’n rhan ohonynt) gael eu defnyddio neu eu gwaredu

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • hidlyddion cetris dŵr
  • cetris argraffu neu bowdwr inc
  • anadlwyr

Bydd deunydd pacio plastig arall sydd yn ei le pan gaiff y cynnyrch ei werthu ac nad yw’n aros yn ei le wrth ddefnyddio’r cynnyrch (megis gorchudd ffilm ar gasyn CD) yn dal i fod yn agored i’r dreth.

Nid yw cydran deunydd pacio’n rhan hanfodol o’r nwydd yn rhinwedd cyflawni swyddogaeth bacio neu storio. Er enghraifft, nid yw hambwrdd ar gyfer pryd parod yn rhan hanfodol o’r pryd gan ei fod yn dal i gyflawni swyddogaeth bacio a gellir cynhesu a bwyta’r bwyd gan ddefnyddio llestr arall.

Dod o hyd i ragor o enghreifftiau o ddeunydd pacio sydd wedi’i gynllunio i fod yn rhan annatod o’r nwyddau.

Deunydd pacio plastig sydd wedi’i ddylunio’n bennaf i gael ei ailddefnyddio er mwyn cyflwyno nwyddau

Nid yw deunydd pacio plastig sydd wedi’i ddylunio er mwyn cyflwyno nwyddau i brynwyr neu ddefnyddwyr (ac sydd wedi’i gofnodi fel deunydd pacio sydd wedi’i neilltuo’n barhaol at y diben hwn cyn ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio, neu cyn gynted ag y bydd hynny wedi digwydd) yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ac nid oes angen i chi roi cyfrif amdano yn eich Ffurflen Dreth.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • silffoedd arddangos gwerthiannau
  • ffitiadau siop
  • stondinau cyflwyno gwerthiannau

Dod o hyd i ragor o enghreifftiau o ddeunydd pacio sydd wedi’i ddylunio’n bennaf i gael ei ailddefnyddio er mwyn cyflwyno nwyddau.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 October 2022 + show all updates
  1. The section 'Transport packaging on imported goods' has been updated with more information about what packaging is exempt from the tax. A new section 'Transport packaging on exported goods' has been added. This includes information about deferring payment of the tax, when your liability for the tax is cancelled, and claiming a credit.

  2. Updated to show exemption from Plastic Packaging Tax does not apply to transport packaging in use when exporting goods from the UK, which will be subject to the tax and will count towards the 10 tonne threshold for registration.

  3. Added translation

  4. Updated section on plastic packaging components permanently recorded as set aside for primarily non-packaging: this exemption includes products that are primarily used for something other than packaging. You must provide clear evidence to verify any claim for this exemption.

  5. Information has been added about plastic packaging integral to the goods, used for long term storage, designed for presentation and transport packaging. Links to more examples of plastic packaging that is in and out of scope for the tax has been added.

  6. First published.