Canllawiau

Cyfrifo pwysau deunydd pacio ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i gyfrifo pwysau cydrannau deunydd pacio plastig a phob deunydd a ddefnyddir i’w cynhyrchu, i weld a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer Treth Deunydd Pacio Plastig a’u cynnwys ar eich Ffurflen Dreth.

Ar gyfer y cydrannau deunydd pacio rydych yn eu gweithgynhyrchu a’u mewnforio i’r DU, mae’n rhaid i chi wybod y canlynol:

  • pwysau’r gydran deunydd pacio wedi’i gofnodi mewn gwerthoedd metrig — rhaid ei ddangos mewn cilogramau yn eich Ffurflen Dreth
  • canran y cynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu

Os bydd y fanyleb neu’r deunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu cydran deunydd pacio yn newid, bydd angen i chi gynnal asesiad newydd.

At ddiben y Dreth Deunydd Pacio Plastig, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddangos nad yw cydran deunydd pacio yn blastig.

Nid yw’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn daladwy ar gydrannau deunydd pacio plastig os yw 30% neu fwy o’r plastig a ddefnyddir wedi’i ailgylchu. Dysgwch ragor am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn blastig wedi’i ailgylchu.

Cyfrifo pwysau cydran deunydd pacio plastig

I ddeall a oes angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig, dylech gyfrifo pwysau pob cydran rydych yn ei gweithgynhyrchu neu’n ei mewnforio. Os bydd angen i chi gofrestru, bydd angen y pwysau hyn arnoch i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus.

Os ydych yn mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig sydd eisoes wedi’u llenwi â nwyddau, nid oes angen i chi gynnwys pwysau’r nwyddau y tu mewn.

Os oes gwastraff yn dal ynghlwm wrth y gydran orffenedig, gallwch ddidynnu pwysau’r gwastraff oddi wrth bwysau’r gydran orffenedig. Mae’n rhaid i chi fod â thystiolaeth a chadw cofnodion i ddangos pwysau’r gwastraff.

Os bydd y fanyleb neu’r deunyddiau a ddefnyddir i weithgynhyrchu cydran deunydd pacio yn newid, dylech gynnal asesiad newydd.

I gyfrifo cyfanswm pwysau cydran, gallwch ddefnyddio’r:

  • dull cydran unigol
  • dull cydran sampl
  • dull mewnbynnau deunydd
  • dull manyleb wedi’i dilysu
  • dull swmp-bwyso

Os nad yw’r un o’r dulliau hyn yn addas, gallwch wneud cais i ddefnyddio dull arall drwy e-bostio: pptapplicationforspecialweighingmethods@hmrc.gov.uk.

Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys y manylion canlynol:

  • pam na allwch ddefnyddio’r dulliau arferol
  • y dull yr ydych am ei ddefnyddio yn lle’r dulliau eraill
  • y cydrannau y bydd eich dull yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer
  • pa gofnodion y byddwch yn eu cadw fel tystiolaeth

Mae’n rhaid i chi beidio â dechrau defnyddio dull gwahanol nes bod CThEF wedi cytuno arno. Byddwn yn ceisio ateb eich cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Nid yw amcangyfrifon yn dull pwyso cydnabyddedig. Os ydych yn nodi pwysau deunydd pacio amcangyfrifedig ar eich Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi drafod hyn â CThEF drwy e-bostio: pptapplicationforspecialweighingmethods@hmrc.gov.uk.

Y dull cydran unigol

Gallwch bwyso pob cydran deunydd pacio orffenedig yn unigol.

Y dull cydran sampl

Gallwch bwyso cydran sampl ar gyfer llinell gynnyrch.

Wrth ddefnyddio’r dull hwn, dylech wirio bod pwysau’r gydran sampl union yr un fath â chydrannau eraill o’r un math drwy bwyso detholiad o gydrannau ar hap. Rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich gwaith pwyso samplau.

Gellir defnyddio’r pwysau sampl hwn ar gyfer holl gynyrchiadau’r cynnyrch hwnnw, cyhyd â bod y fanyleb a’r deunyddiau’n aros yr un fath.

Y dull mewnbynnau deunydd

Os yw cynhyrchiad yn cael ei ddefnyddio i weithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio unfath mewn llinell gynnyrch, gallwch gyfrifo pwysau pob cydran drwy rannu pwysau net pob deunydd yn y cynhyrchiad â nifer y cydrannau rydych yn eu gweithgynhyrchu.

Y pwysau net yw cyfanswm pwysau deunydd llai pwysau unrhyw ddeunydd gwastraff a gynhyrchir yn ystod y broses weithgynhyrchu.

Y dull manyleb wedi’i dilysu

Gallwch ddefnyddio’r pwysau a roddir ar fanyleb y cynnyrch.

Rhaid i chi bwyso detholiad o gydrannau ar hap i sicrhau eu bod yn gyson â manyleb y cynnyrch.

Rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich gwaith pwyso samplau. Os yw’r gydran yn cael ei gweithgynhyrchu dramor, gall y gweithgynhyrchwr wneud hyn.

Os ydych yn defnyddio’r dull hwn, rhaid i chi gynnal diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y fanyleb yn (ac yn parhau i fod yn) ddilys. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithgynhyrchwyr tramor yn gwirio bod y pwysau’n gyson â’r fanyleb.

Y dull swmp-bwyso

Os bydd cynhyrchiad yn cael ei ddefnyddio i weithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio unfath mewn llinell gynnyrch, gallwch rannu cyfanswm pwysau’r holl gydrannau a gynhyrchir yn y cynhyrchiad hwnnw â nifer y cydrannau a gynhyrchir i gyfrifo pwysau un gydran.

Cyfrifo’r cynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu mewn cydran deunydd pacio plastig

I gyfrifo canran y plastig sydd wedi’i ailgylchu, rhannwch bwysau’r plastig sydd wedi’i ailgylchu ac a ddefnyddiwyd â chyfanswm pwysau cyfunol yr holl blastig a ddefnyddiwyd, yna lluoswch y canlyniad â 100.

Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o sut i gyfrifo faint o’r cynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu mewn cydrannau deunydd pacio plastig yn y canllaw Gwirio pa ddeunydd pacio sy’n agored i Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Gallwch gyfrifo pwysau’r plastig sydd heb ei ailgylchu ac sydd wedi’i ailgylchu mewn cydran orffenedig drwy ddefnyddio’r dull mewnbynnau deunydd neu’r dull manyleb wedi’i dilysu.

Sut i ddangos nad yw eich cydran deunydd pacio yn blastig

Bydd angen i chi gyfrifo pwysau pob deunydd perthnasol a ddefnyddir i wneud y gydran deunydd pacio.

Os yw’r gydran deunydd pacio’n cynnwys mwy o blastig yn ôl pwysau nag unrhyw ddeunydd arall (neu grŵp o ddeunyddiau) a restrir, mae’n cael ei thrin fel cydran deunydd pacio plastig.

Gallwch gyfrifo pwysau’r deunyddiau a ddefnyddiwyd mewn cydran deunydd pacio drwy ddefnyddio’r dull mewnbynnau deunydd neu’r dull manyleb wedi’i dilysu.

Cyhoeddwyd ar 22 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 June 2023 + show all updates
  1. Information has been added about using estimates for the weight of packaging.

  2. Information about how to apply to HMRC to use a different method of working out the overall weight of a component has been added.

  3. Guidance has been updated to say if you import plastic packaging components already filled with goods, you do not need to include the weight of the goods inside.

  4. Added translation

  5. A link to guidance on how to carry out due diligence has been added.

  6. You must use the overall weight of a component when working out the recycled plastic content, not the net weight.

  7. First published.