Canllawiau

Sut i wneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Dysgwch sut i benderfynu pa wiriadau i’w gwneud os ydych yn gweithgynhyrchu, yn mewnforio neu’n prynu deunydd pacio plastig oddi wrth fusnes arall, ac enghreifftiau o’r gwiriadau y gallwch eu gwneud.

Diwydrwydd dyladwy yw’r gofal priodol a rhesymol y mae busnes yn ei gymryd wrth lunio perthnasoedd neu gontractau â busnesau eraill.

Dylech gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych yn gwneud unrhyw un o’r canlynol:

  • gweithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig
  • mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig
  • prynu cydrannau deunydd pacio plastig oddi wrth fusnes arall

Bydd angen i chi gadw manylion y gwiriadau rydych wedi’u cynnal, yn ogystal â’ch cofnodion a chyfrifon eraill.

Pam y dylech wneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy

Dylech gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar y sawl rydych yn gwneud busnes â nhw er mwyn lleihau’r risg o fod yn rhan o gadwyn gyflenwi lle na chaiff y Dreth Deunydd Pacio Plastig sy’n ddyledus ei thalu.

Os na wnewch y gwiriadau hyn, na chadw digon o gofnodion ohonynt chwaith, mae’n bosibl y gallech fod yn agored, ar y cyd ac yn unigol (neu’n agored yn eilaidd), i unrhyw Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd heb ei thalu.

Mae’r gwiriadau’n helpu i ddiogelu’ch busnes pe bai unrhyw fusnes yr ydych yn masnachu ag ef naill ai’n:

  • arbed, neu’n osgoi, talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • peidio â bodloni gofynion y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i benderfynu pa wiriadau i’w cynnal a phryd i’w gwneud

Nid yw CThEF yn rhoi rhestr o wiriadau y mae’n rhaid eu cynnal. Mae angen i chi benderfynu pa wiriadau sy’n berthnasol, yn rhesymol, ac yn gymesur i’ch busnes, gan gynnwys:

  • pryd i’w cwblhau
  • pa mor aml y dylid eu cwblhau
  • pwy fydd yn gyfrifol am eu gwneud

Bydd y gwiriadau a wnewch, a pha mor fanwl ac eang ydynt, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a’ch cadwyn gyflenwi.

Yn gyffredinol, dylech gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy i gadarnhau uniondeb y cyflenwyr a’r cwsmeriaid yn eich cadwyn gyflenwi.

Dylech gynnal y gwiriadau hyn o leiaf bob 12 mis. Os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau o fewn y 12 mis, bydd yn rhaid i chi benderfynu a oes angen cynnal rhagor o wiriadau diwydrwydd dyladwy.

Dylai’r gwiriadau fod yn fwy helaeth os ydych yn dibynnu ar wybodaeth gan eich cwsmeriaid i:

  • honni nad ydych yn agored i gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig na rhoi cyfrif amdani
  • hawlio unrhyw gredydau treth
  • rhoi cyfrif am ddeunydd gwastraff maent yn ei dynnu o’r deunydd pacio rydych yn ei gyflenwi

Dysgwch ragor am egwyddorion diwydrwydd dyladwy (yn Saesneg) y gadwyn gyflenwi a diwydrwydd dyladwy ar gyfer busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer ecséis (yn Saesneg).

Enghreifftiau o wiriadau diwydrwydd dyladwy

Dylai’r gwiriadau yr ydych yn eu cynnal fod yn briodol ac yn gymesur, i helpu i leihau’r risgiau i’ch busnes ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Os ydych yn ymwneud â chynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig

Gallai gwiriad gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • cael cadarnhad ysgrifenedig gan eich cwsmer i brofi unrhyw honiad nad ydych yn agored i’r dreth (er enghraifft, os gwnaeth eich cwsmer gyflawni’r addasiad sylweddol olaf)
  • cael cadarnhad o darddiad y plastig wedi’i ailgylchu y mae’ch ailbroseswr yn ei gyflenwi

Os ydych yn mewnforio neu’n prynu cydrannau deunydd pacio plastig sy’n cynnwys llai na 30% o blastig wedi’i ailgylchu, neu’n ymwneud â chadwyn cyflenwi’r fath gydrannau

Gallai gwiriadau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • gwneud cais am gadarnhad o statws treth cydrannau deunydd pacio plastig gan eich cyflenwr
  • cael dogfennau wedi’u llofnodi gan eich cyflenwr sy’n cadarnhau y rhoddwyd cyfrif yn gywir am y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • cael manylebau cynnyrch ar gyfer y cydrannau deunydd pacio, gan gynnwys pwysau a chyfansoddiad y cynhyrchion
  • gwirio pwysau cydrannau deunydd pacio yn bersonol, a hynny yn erbyn eich archeb ac unrhyw un o’r manylebau cynnyrch

Os ydych yn mewnforio neu’n prynu cydrannau deunydd pacio plastig sy’n cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi’i ailgylchu, neu’n ymwneud â chadwyn cyflenwi’r fath gydrannau

Gallai gwiriadau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • gwirio bod y pris rydych yn ei dalu am gydrannau deunydd pacio yn adlewyrchu gwerth presennol y farchnad — os yw cydrannau’n cael eu cynnig am werth marchnad is, dylech ddarganfod y rheswm dros y gost isel
  • cael copïau o unrhyw ardystiadau neu archwiliadau a gynhaliwyd ar eich cyflenwyr, neu ail-broseswyr plastig wedi’i ailgylchu
  • cynnal arolygiadau neu archwiliadau yn bersonol ar gadwyn gyflenwi’ch deunydd pacio er mwyn profi gwybodaeth a roddir gan gyflenwyr neu gwsmeriaid
  • gwirio manylion a roddwyd yn erbyn ffynonellau eraill, megis gwefannau cyflenwyr a chwsmeriaid, manylebau cynnyrch, gwybodaeth gwerthu a marchnata
Cyhoeddwyd ar 30 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 September 2023 + show all updates
  1. A link to 'due diligence for excise registered businesses' has been added.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.