Canllawiau

Hysbysiadau o rwymedigaeth eilaidd ac asesiad a hysbysiadau rhwymedigaeth cyd ac unigol ar gyfer Treth Deunydd Pacio Plastig

Beth yw rhwymedigaeth eilaidd a rhwymedigaeth cyd ac unigol, a phryd y mae’n bosibl i chi fod yn agored i Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd heb ei thalu.

Rhwymedigaeth eilaidd

Yr hyn a olygir gan rwymedigaeth eilaidd

Mae’n bosibl i chi fod yn agored i Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd heb ei thalu sy’n ddyledus yn bennaf gan berson arall os ydych yn ymwneud â chadwyn cyflenwi cydrannau deunydd pacio plastig.

Os oeddech yn gwybod nad yw Treth Deunydd Pacio Plastig wedi’i thalu, neu dylech fod wedi gwybod, efallai y cewch hysbysiad o asesiad o rwymedigaeth eilaidd ar gyfer y dreth sydd heb ei thalu.

Gallwn anfon hysbysiad o asesiad o rwymedigaeth eilaidd os ydych wedi bod yn cyflawni gweithgareddau fel rhan o fusnes cysylltiedig, a naill ai:

  • wedi cymryd camau ynghyd â’r unigolyn sydd â rhwymedigaeth bennaf i beidio â thalu’r dreth
  • wedi bod yn rhan o un o’r canlynol:
    • cludo cydrannau deunydd pacio plastig taladwy (er enghraifft, cludwr)
    • storio cydrannau deunydd pacio plastig taladwy (er enghraifft, perchennog neu weithredwr warws)
    • delio mewn cydrannau deunydd pacio plastig taladwy (er enghraifft, cyflenwr neu fanwerthwr)

Sut y cyfrifir rhwymedigaeth eilaidd

Byddwn yn ystyried ffactorau penodol wrth benderfynu anfon hysbysiad o asesiad o rwymedigaeth eilaidd er mwyn adennill treth sydd heb ei thalu neu beidio, megis y berthynas rhyngoch chi a’r busnes sydd â rhwymedigaeth bennaf.

Byddwn hefyd yn ystyried y gwiriadau diwydrwydd dyladwy y byddwch yn eu cynnal er mwyn cadarnhau cywirdeb y gadwyn gyflenwi. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r gwiriadau hyn.

Mae’r gwiriadau y gallech eu cynnal yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu iddynt, y canlynol:

  • gofyn am fanylion swm y Dreth Deunydd Pacio Plastig a dalwyd gan eich cyflenwr, neu’r person â’r rhwymedigaeth bennaf (os yw’n wahanol), fel y gallwch gynnwys hyn ar eich anfonebau
  • rhoi cymalau yn eich cytundebau neu gontractau masnachol i gadarnhau a oes rhaid talu Treth Deunydd Pacio Plastig ar y deunydd pacio a phwy sy’n agored iddi
  • cael tystiolaeth bod Treth Deunydd Pacio Plastig wedi’i chyfrifo gan y person sydd â’r rhwymedigaeth bennaf
  • gwirio bod y dystiolaeth a roddwyd i chi gan yr unigolyn sy’n bennaf agored yn ddilys

Dysgwch ragor am sut i wneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Sut y cyfrifir rhwymedigaeth eilaidd

Os ydych yn agored i Dreth Deunydd Pacio Plastig rhywun arall sydd heb ei thalu, bydd y swm sy’n ddyledus yn cael ei gyfrifo drwy ystyried pwysau’r cydrannau deunydd pacio plastig sy’n gysylltiedig â chi.

Os nad yw’r pwysau ar gael, byddwn yn ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r dystiolaeth neu’r wybodaeth sydd ar gael.

Hysbysiadau rhwymedigaeth eilaidd

Gellir anfon hysbysiadau o asesiad o rwymedigaeth eilaidd cyn pen 2 flynedd gan ddechrau gyda’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y diwrnod ar ôl y cyfnod cyfrifyddu mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato
  • y diwrnod y mae llys neu dribiwnlys wedi cytuno bod swm o dreth i’w dalu gan y person sy’n agored yn eilaidd yn y gadwyn gyflenwi

Os cymerodd un neu fwy o bobl gamau i beidio â thalu’r dreth yn fwriadol, gellir anfon hysbysiad o rwymedigaeth eilaidd ac asesiad hyd at 20 mlynedd ar ôl y cyfnod cyfrifyddu y mae’n cyfeirio ato.

Os rhoddir hysbysiad o asesiad o rwymedigaeth eilaidd i chi, byddwch yn agored i dalu ynghyd â’r person sydd â’r cyfrifoldeb pennaf.

Os nad ydych yn cytuno â’r hysbysiad o rwymedigaeth eilaidd ac asesiad, neu swm y dreth sy’n ddyledus

Gallwch wneud cais i CThEF i ganslo’r hysbysiad neu i ostwng swm y dreth sy’n ddyledus. Bydd y canllaw hwn yn cael ei diweddaru’n fuan gydag esboniad o sut i wneud cais.

Dylai’ch cais cynnwys y canlynol:

  • pam fod canslo neu ostwng swm y dreth sy’n ddyledus yn briodol
  • pa gamau rhesymol a gymerwyd gennych i wirio bod y busnes â’r rhwymedigaeth bennaf wedi talu neu’n bwriadu talu’r dreth ar gyfer y cyfnod perthnasol, (gallai hyn fod yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy)
  • pam eich bod o’r farn y dylai’r swm gael ei ostwng

Os ydych yn gwneud cais i ostwng swm y dreth sy’n ddyledus, rhaid i chi ddarparu cyfrifiadau sy’n esbonio pam yr ydych o’r farn bod y swm yr ydych yn gwneud cais amdano yn rhesymol.

Os bydd y busnes sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn newid ei rwymedigaeth am unrhyw reswm am yr un cyfnod cyfrifyddu, efallai y byddwn yn ailystyried yr hysbysiad o asesiad o rwymedigaeth eilaidd.

Rhwymedigaeth cyd ac unigol

Yr hyn a olygir gan rwymedigaeth cyd ac unigol

Os ydym o’r farn bod risg na fydd Treth Deunydd Pacio Plastig yn cael ei thalu yn y dyfodol, gallwn anfon hysbysiadau sy’n gwneud busnesau yn y gadwyn gyflenwi yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r dreth yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y byddwch yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i dalu Treth Deunydd Pacio Plastig pan fyddwch yn cyflawni gweithgareddau fel rhan o fusnes cysylltiedig, os yw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gwybod, neu dylech chi wybod, na fydd y dreth yn cael ei thalu gan y person â’r rhwymedigaeth bennaf, ac rydych wedi cymryd camau i osgoi talu’r dreth
  • rydych yn rhan o un o’r canlynol:
    • cludo cydrannau deunydd pacio plastig taladwy pan nad yw’r unigolyn sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn bwriadu talu’r dreth (er enghraifft, cludwr)
    • storio cydrannau deunydd pacio plastig taladwy pan nad yw’r unigolyn sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn bwriadu talu’r dreth (er enghraifft, perchennog neu weithredwr warws)
    • delio â chydrannau deunydd pacio plastig taladwy pan nad yw’r unigolyn sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn bwriadu talu’r dreth (er enghraifft, cyflenwr neu fanwerthwr)

Sut yr asesir rhwymedigaeth cyd ac unigol

Byddwn yn ystyried rhai ffactorau wrth benderfynu a ddylid anfon hysbysiad o rwymedigaeth cyd ac unigol, megis eich perthynas â’r person â’r rhwymedigaeth bennaf a’r hyn y mae eich busnes yn ei wneud yn y gadwyn gyflenwi.

Byddwn hefyd yn ystyried y gwiriadau diwydrwydd dyladwy y byddwch yn eu cynnal er mwyn cadarnhau cywirdeb y gadwyn gyflenwi. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r gwiriadau hyn.

Mae’r gwiriadau y gallech eu cynnal yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu iddynt, y canlynol:

  • rhoi cymalau yn eich cytundebau neu gontractau masnachol i gadarnhau a oes rhaid talu Treth Deunydd Pacio Plastig ar y deunydd pacio a phwy sy’n agored iddi
  • gofyn i’r person sydd â rhwymedigaeth bennaf am wybodaeth neu dystiolaeth, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn talu’r dreth (dylech gadw’r dystiolaeth hon)
  • gwirio bod y dystiolaeth a roddwyd i chi gan yr unigolyn sy’n bennaf agored yn ddilys

Dysgwch ragor am sut i wneud gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Sut y cyfrifir rhwymedigaeth cyd ac unigol

Os nad yw’r person sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig sy’n ddyledus, mae’n bosibl y bydd hysbysiadau rhwymedigaeth cyd ac unigol yn cael ei anfon atoch.

Bydd y swm sy’n ddyledus yn cael ei gyfrifo drwy ystyried pwysau’r cydrannau deunydd pacio plastig sy’n gysylltiedig â chi.

Os nad yw’r pwysau ar gael, byddwn yn ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r dystiolaeth neu’r wybodaeth sydd ar gael.

Hysbysiadau o rwymedigaeth cyd ac unigol

Os ydych yn agored, ar y cyd ac yn unigol, bydd hysbysiad yn cael ei anfon atoch. Bydd yr hysbysiad yn rhoi manylion y person sydd â rhwymedigaeth bennaf (sef y person rydych yn agored ynghyd ag ef) a’r rhesymau dros y penderfyniad. Bydd copi yn cael ei anfon at y person sydd â rhwymedigaeth bennaf.

Byddwch yn agored i unrhyw achos o beidio â thalu Treth Deunydd Pacio Plastig am gyfnod o 2 flynedd ar ôl anfon yr hysbysiad.

Yn ystod y 2 flynedd, bydd y busnes sy’n agored, ar y cyd ac yn unigol, yn cael ei asesu ar gyfer talu’r dreth dim ond os nad yw’r busnes sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn talu.

Sut y cyfrifir hysbysiad rhwymedigaeth cyd ac unigol

Os nad yw’r person sydd â’r rhwymedigaeth bennaf yn talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig sy’n ddyledus, mae’n bosibl y bydd hysbysiadau rhwymedigaeth cyd ac unigol yn cael ei anfon atoch.

Bydd y swm sy’n ddyledus yn cael ei gyfrifo drwy ystyried pwysau’r cydrannau deunydd pacio plastig sy’n gysylltiedig â chi.

Os nad yw’r pwysau ar gael, byddwn yn ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r dystiolaeth neu’r wybodaeth sydd ar gael.

Os nad ydych yn cytuno â hysbysiadau o rwymedigaeth cyd ac unigol

Gallwch ofyn am ganslo eich hysbysiad o rwymedigaeth cyd ac unigol os allwch gysylltu â CThEF cyn pen 30 diwrnod ac yn esbonio pam nad ydych yn bodloni’r amodau i gael eich dal yn agored ar y cyd ac yn unigol.

Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru’n fuan gydag esboniad o sut i gysylltu â CThEF.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2022