Canllawiau

Y cofnodion a’r cyfrifon y mae’n rhaid i chi eu cadw ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Dysgwch pa gofnodion a chyfrifon mae’n rhaid i chi eu cadw er mwyn ategu’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Treth Deunydd Pacio Plastig mae’n rhaid i chi gadw cyfrifon a chofnodion i ategu’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn eich Ffurflenni Treth chwarterol.

Mae’n rhaid i’ch cyfrifon ddangos eich bod wedi cyfrifo’r ffigurau y byddwch yn eu cyflwyno ar eich Ffurflen.

Mae’n rhaid i’ch cofnodion ddangos tystiolaeth sy’n ategu’r ffigurau hyn.

Mae’n rhaid i chi gofio’r canlynol am eich cyfrifon a’ch cofnodion:

  • eu cadw am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu
  • cofnodi pwysau mewn tunellau, cilogramau a gramau

Cyfrifon y mae’n rhaid i chi eu cadw

Mae’n rhaid i chi gadw cyfrifon sy’n dangos sut ydych wedi cyfrifo pob cofnod ar eich Ffurflen Dreth chwarterol. Lle y bo’n berthnasol, mae’n rhaid i’ch cyfrifon gynnwys y canlynol:

  • dadansoddiad o bwysau cydrannau deunydd pacio plastig sydd wedi’u gorffen neu eu mewnforio ym mhob cyfnod
  • pwysau’r deunydd pacio plastig sydd wedi’u hallforio yn ystod y cyfnod y gohiriwyd y dreth
  • dadansoddiad o bwysau unrhyw ddeunydd pacio plastig lle hawlir credyd os yw’r deunydd pacio plastig:
    • wedi’i allforio
    • wedi’i drosi’n gydrannau deunydd pacio newydd
  • unrhyw addasiadau neu gywiriadau a wnaed i gyfnodau cyfrifyddu blaenorol — rhaid cynnwys y dyddiad a’r cyfnod cyfrifyddu y maent yn ymwneud â nhw

Mae’n rhaid i chi gadw cyfrifon drwy gyfeirio at bob llinell gynnyrch rydych chi’n ei chynhyrchu neu’n ei mewnforio. ‘Llinell gynnyrch’ yw grŵp o gydrannau deunydd pacio plastig a gynhyrchir i’r un fanyleb.

Mae’n rhaid i chi gadw’ch cyfrifon yn ysgrifenedig neu ar ffurf ddigidol am 6 blynedd o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu y maent yn berthnasol iddo.

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion fel tystiolaeth i ategu’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn eich Ffurflenni Treth.

Mae’n rhaid i chi gadw cyfrifon drwy gyfeirio at bob llinell gynnyrch a dangos y canlynol:

  • tystiolaeth o unrhyw beth sydd wedi’i esemptio rhag y dreth
  • cynnwys y plastig wedi’i ailgylchu, os yw 30% neu fwy o’r plastig a ddefnyddir yn y gydran wedi’i ailgylchu

Er enghraifft, os ydych yn hawlio esemptiad o Dreth Deunydd Pacio Plastig ar y sail bod y deunydd pacio plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pecynnu meddyginiaeth ddynol ar unwaith, mae angen i chi gadw gwybodaeth sy’n ategu’ch hawliad (megis rhifau trwydded y meddyginiaethau dan sylw).

Mae’n rhaid i chi gadw’ch cyfrifon yn ysgrifenedig neu ar ffurf ddigidol am 6 blynedd o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu y maent yn berthnasol iddo.

Cofnodion ar gyfer cydrannau deunydd pacio plastig sy’n cynnwys plastig wedi’i ailgylchu

Nid yw’r Dreth Deunydd Pacio Plastig yn daladwy ar gydrannau deunydd pacio plastig os ydynt yn cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi’i ailgylchu fel cyfran o gyfanswm pwysau’r plastig. Os ydych am hawlio hwn fel esemptiad, mae’n rhaid i chi gael cofnodion sy’n:

  • dangos eich bod wedi cyfrifo’r ganran o blastig wedi’i ailgylchu
  • darparu digon o dystiolaeth ategol bod plastig wedi’i ailgylchu wedi’i ddefnyddio
  • dangos pa ddyddiadau mae’r dystiolaeth yn ymwneud â nhw, megis dyddiad gorffen neu ddyddiad mewnforio’r cydrannau
  • dangos pa gydran deunydd pacio plastig mae’r ganran yn ymwneud â hi, gan gynnwys llinellau cynnyrch neu gynyrchiadau’r cynnyrch
  • adlewyrchiad cywir o gyfran y plastig wedi’i ailgylchu sydd wedi’i gynnwys yn y deunyddiau allbwn yn ystod y broses ailgylchu honno
  • cadarnhau tarddiad y plastig wedi’i ailgylchu

Er enghraifft, gallai manyleb y cynnyrch sy’n dangos cynnwys ailgylchedig cydrannau’r deunydd plastig pacio gael ei hystyried fel tystiolaeth ddigonol ynghyd â manylion unrhyw wiriadau diwydrwydd dyladwy rydych wedi’u cwblhau.

Os yw manylebau’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud cydran deunydd pacio plastig yn newid, mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth ar wahân ar gyfer pob manyleb.

Cofnodion ar gyfer cydrannau deunydd pacio plastig yr ydych yn bwriadu eu hallforio

Os hoffech ohirio talu Treth Deunydd Pacio Plastig ar gyfer y cydrannau yr ydych yn bwriadu eu hallforio, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich bod yn bwriadu eu hallforio.

Mae’n rhaid i’r cofnodion fod naill ai’n ddogfen:

  • a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth neu doll
  • sy’n nodi’n glir y cydrannau i’w hallforio, megis contract o werthiant neu archeb

Mae’n rhaid i’r cofnodion fodloni’r gofynion canlynol:

  • bod wedi’u dyddio ar adeg y cynhyrchiad neu adeg y mewnforio
  • mae’n rhaid iddynt gynnwys manylion sy’n caniatáu i gydrannau’r deunydd pacio plastig yr ydych yn bwriadu eu hallforio gael eu hadnabod
  • mae’n rhaid iddynt gynnwys pwysau cydrannau’r deunydd pacio plastig yr ydych yn bwriadu eu hallforio

Dewch o hyd i enghreifftiau o ddogfennau y gellid eu defnyddio fel tystiolaeth o allforio.

Gall fod yn ddefnyddiol i gofnodi gwybodaeth megis rhifau swp neu ddynodwyr cyfatebol wrth nodi’r cydrannau yr ydych yn bwriadu eu hallforio.

Cofnodion ar gyfer cydrannau deunydd pacio plastig sydd wedi’u hallforio

Os hoffech ganslo’ch rhwymedigaeth i Dreth Deunydd Pacio Plastig, sydd wedi’i gohirio gan fod y cydrannau wedi’u hallforio erbyn hyn, mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth sy’n dangos y canlynol:

  • bod allforio wedi digwydd
  • pwysau’r cydrannau sydd wedi’u hallforio
  • dyddiad y digwyddodd yr allforio

Mae’n rhaid i’ch cofnodion ddangos bod y cydrannau wedi’u hallforio ac mae’n rhaid iddynt fod yn un o’r naill neu’r llall:

  • dogfen a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth neu doll arall
  • dogfen arall, megis contract neu archeb

Mae’n rhaid i’r cofnod gynnwys manylion o gydrannau’r deunydd pacio plastig a gafodd eu hallforio, fel y bod modd eu hadnabod.

Dewch o hyd i enghreifftiau o ddogfennau y gellid eu defnyddio fel tystiolaeth o allforio.

Cofnodion i’w cadw i hawlio credyd

Os hoffech hawlio credyd oherwydd eich bod wedi talu treth ar gydran deunydd pacio plastig sydd wedi’i hallforio neu wedi’i throsi’n gydran newydd, mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth ddigonol i ategu’ch hawliad.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth gynnwys manylion o gydrannau’r deunydd pacio plastig sydd wedi’u hallforio neu wedi’u trosi.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth gynnwys:

  • rheswm dros yr hawliad (naill ai oherwydd bod y cydrannau wedi’u hallforio neu wedi’u trosi’n gydrannau newydd)
  • y cyfnod cyfrifyddu yr oedd gennych dystiolaeth am y tro cyntaf bod y cydrannau wedi’u hallforio neu eu trosi’n gydrannau newydd
  • manylion y dreth a daloch ar y cydrannau gan gynnwys:
    • swm y dreth a daloch
    • dyddiad y taloch y dreth
    • sut y taloch y dreth

Os yw cydran wedi’i hallforio, mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth ddigonol bod yr allforio wedi digwydd. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gael y dystiolaeth o fusnes arall. Gellir golygu gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif, ar yr amod bod y cofnodion yn egluro bod y cydrannau wedi’u hallforio.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod y cydrannau wedi’u hallforio ac mae’n rhaid iddynt fod yn un o’r naill neu’r llall:

  • dogfen a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth neu doll
  • dogfen arall, megis anfoneb allforio

Os yw cydran wedi’i throi’n gydran newydd, mae’n rhaid i chi gadw digon o dystiolaeth bod y trosiad wedi digwydd. Gallai hyn fod ar ffurf y cofnodion cynhyrchu ar gyfer y cydrannau newydd, a’u bod yn dangos bod y cydrannau gwreiddiol wedi’u defnyddio. Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu tystiolaeth i ddangos os yw Treth Deunydd Pacio Plastig yn ddyledus ar gyfer y gydran newydd.

Dogfennau i’w defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer Treth Deunydd Pacio Plastig

Dylech gadw cofnod o’r holl ddogfennau yr ydych yn bwriadu eu defnyddio i gwblhau eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig neu er mwyn hawlio unrhyw gredydau neu eithriadau.

Er mwyn dangos bod y deunydd pacio plastig yn cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi’i ailgylchu, mae’n rhaid i chi wneud y naill neu’r llall:

  • darparu tystiolaeth gan wneuthurwr y deunydd pacio plastig
  • profi bod gennych chi (neu drydydd parti cymwys) broses archwilio gadarn ar gyfer y gadwyn cyflenwi sy’n medru darparu’r dystiolaeth hon

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Gallwch ddefnyddio dogfennau nad ydynt wedi eu rhestru.

Manyleb y cynhyrchiad

Gellir defnyddio manylebau cynhyrchu i ddangos y canlynol:

  • cyfran y plastig sydd wedi’i ailgylchu
  • pwysau’r deunydd pacio plastig
  • os yw’r deunydd pacio’n blastig
  • os yw’r deunydd pacio’n esempt rhag y dreth

Dylech gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod cydrannau’r deunydd pacio plastig yn bodloni gofynion manyleb y cynnyrch wrth roi cyfrif am y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Contractau

Gellir defnyddio contractau i ddangos y canlynol:

  • maint y deunydd pacio plastig
  • cyfran y plastig sydd wedi’i ailgylchu
  • pwysau’r deunydd pacio plastig
  • os yw’r deunydd pacio’n blastig
  • os yw’r deunydd pacio’n esempt rhag y dreth

Tystysgrifau cynhyrchu a thystysgrifau cydymffurfio

Gellir defnyddio tystysgrifau cynhyrchu a thystysgrifau cydymffurfio i ddangos cyfran y plastig sydd wedi’i ailgylchu mewn deunydd pacio plastig.

Systemau cyfrifyddu busnes

Gellir defnyddio systemau cyfrifyddu busnes i ddangos y plastig a gafodd ei ailgylchu drwy’r broses weithgynhyrchu.

Achrediadau a safonau rhyngwladol

Mae cyrff achredu, megis y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni neu’r Consortiwm Manwerthu Prydain yn defnyddio nifer o safonau.

Mae CThEM yn cydnabod bod safonau rhyngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau allu olrhain lefel y plastig wedi’i ailgylchu yn eu deunydd pacio plastig.

Gallai hyn fod yn gymorth wrth ddangos canlynol:

  • cyfran a tharddiad y plastig wedi’i ailgylchu
  • pwysau’r deunydd pacio plastig
  • os yw’r deunydd pacio’n blastig
  • os yw’r deunydd pacio’n esempt rhag y dreth

Archwiliadau sicrhau ansawdd

Gall archwiliadau sicrhau ansawdd fod yn archwiliad mewnol neu’n archwiliad a gynhelir gan drydydd parti uchel ei barch.

Gall hyn ddangos y canlynol:

  • lefel y plastig wedi’i ailgylchu
  • pwysau’r deunydd pacio plastig
  • os yw’r deunydd pacio’n blastig
  • os yw’r deunydd pacio’n esempt rhag y dreth

Anfonebau gwerthiannau a phryniannau

Gellir defnyddio anfonebau gwerthiannau a phryniannau fel tystiolaeth i ddangos:

  • maint cyflenwad y deunydd pacio plastig
  • pwysau’r gwastraff
  • faint o’r defnydd crai sy’n blastig wedi’i ailgylchu
  • dyddiad y gwerthiant
  • y dreth sydd wedi’i thalu

Gallai dyddiad y gwerthiant fod yn dystiolaeth o’r dyddiad y cafodd y deunydd pacio plastig ei fewnforio neu ei weithgynhyrchu.

Achrediad Asiantaeth yr Amgylchedd a chymeradwyaethau cyfatebol gan reoleiddwyr amgylcheddol eraill

Gall busnesau gael trwyddedau neu eithriadau ar gyfer ailbrosesu gwastraff i greu deunydd wedi’i ailgylchu o’r mannau canlynol:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban

Mae’n ofynnol i ailbroseswyr gwastraff fynd ati i gofrestru gyda’r asiantaeth diogelu’r amgylchedd berthnasol pan fyddant yn hawlio nodyn credyd o dan y cynllun Nodyn Adfer Deunydd Pacio.

Os daw plastig wedi’i ailgylchu o ailbroseswr cofrestredig, gallwch wirio’i fanylion cofrestru. Gall hyn helpu i ddarparu tystiolaeth o darddiad y plastig wedi’i ailgylchu yn y deunydd pacio plastig.

Mae cyrff achredu rhyngwladol cyfatebol ar gael i fewnforwyr plastig wedi’i ailgylchu eu defnyddio. Dylech gadw tystiolaeth o unrhyw wiriadau a gynhelir gan drydydd parti ar eich rhan. Caiff y rhain eu hystyried gan CThEM fesul achos.

Ni fydd gan achredwyr rôl weithredol i’w chwarae o ran sicrhau’r dreth.

Dogfennau allforio

Gallwch ddefnyddio’r dogfennau canlynol fel tystiolaeth o’r nwyddau yr ydych yn bwriadu eu hallforio neu wedi’u hallforio’n barod:

  • datganiadau allforio
  • anfoneb neu restr bacio sy’n nodi’n glir y nwyddau sy’n cael eu hallforio
  • dogfen gludiant (megis bil llwytho, bil teithrestr awyr neu nodyn llwyth ar y ffordd (CMR) i ddangos sut y cludwyd y nwyddau
  • dogfen wedi’i hardystio gan y cludwr sy’n nodi bod y nwyddau wedi’u llwytho neu wedi’u cludo i gyrchfan y tu allan i’r DU
  • dogfen fasnachol megis nodyn dosbarthu neu anfoneb wedi’i llofnodi gan y derbynnydd mewn trydedd wlad sy’n ardystio bod y nwyddau wedi dod i law
  • dogfen wedi’i dilysu gan awdurdod tollau sy’n ardystio bod y nwyddau wedi gadael tiriogaeth y DU

Creu anfonebau

Ni fydd y gofyniad i gynnwys datganiad gyda’ch anfoneb i ddangos bod y Dreth Deunydd Pacio Plastig wedi’i thalu yn cael ei gyflwyno fel gofyniad gorfodol mwyach.

Nid oes gofyniad gorfodol i ddangos bod y Dreth Deunydd Pacio Plastig wedi’i thalu ar anfonebau.

Os ydych yn gyfrifol am roi cyfrif am y dreth, fe’ch anogir i wneud y Dreth Deunydd Pacio Plastig rydych wedi’i thalu yn weladwy i’ch cwsmeriaid busnes ac i weithio gyda nhw i geisio cynyddu’r plastig ailgylchedig maent yn ei ddefnyddio, lle bo’n bosibl.

Mae enghreifftiau o ffyrdd o wneud hyn yn cynnwys:

  • ychwanegu gwybodaeth am godi’r dreth at eich rhestrau prisiau i roi dewis gwybodus i gwsmeriaid
  • rhannu faint o dreth sydd wedi’i chodi yn rheolaidd gyda’ch cwsmeriaid
  • ystyried dulliau pecynnu mwy cynaliadwy pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau dylunio gyda chwsmeriaid

Codi TAW

Os ydych yn talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ar gydrannau deunydd pacio plastig rydych wedi’u gweithgynhyrchu neu eu mewnforio, gallwch ddewis cynyddu’r pris rydych yn ei godi am y deunydd pacio hwnnw i helpu i dalu am gost y dreth. Mae hynny’n benderfyniad masnachol i chi ei wneud.

Dim ond unwaith y caiff y Dreth Deunydd Pacio Plastig ei thalu, a hynny pan fydd y gydran deunydd pacio wedi’i gorffen neu ei mewnforio. Nid yw’n cael ei phasio i lawr y gadwyn gyflenwi fel ffi y gellir ei dynodi ar wahân fel TAW.

Bydd TAW yn parhau i fod yn daladwy ar y pris cyfan a godir am y nwyddau rydych yn eu gwerthu yn unol â rheolau TAW.

Os byddwch yn cynyddu pris eich deunydd pacio plastig o ganlyniad i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig, bydd TAW yn daladwy ar gyfanswm y pris newydd.

Cyhoeddwyd ar 17 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 February 2023 + show all updates
  1. The requirement to include a statement with your invoice to show that Plastic Packaging Tax has been paid, will no longer be introduced as a mandatory requirement.

  2. Guidance about creating invoices and charging VAT on Plastic Packaging Tax has been added.

  3. Links to guidance on how to carry out due diligence have been added.

  4. First published.