Canllawiau

Cael rhyddhad treth ar gydrannau sydd wedi eu hallforio a’u trosi ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Gallwch gael rhyddhad ar becynnau sydd wedi eu hallforio a’u trosi yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu neu hawlio credyd arnynt mewn Ffurflen Dreth ddiweddarach.

Pryd y gallwch gael rhyddhad

Efallai y gallwch gael rhyddhad treth os ydych yn gweithgynhyrchu neu’n mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig a bod y canlynol yn wir:

  • rydych yn eu hallforio yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu
  • rydych yn bwriadu eu hallforio yn y 12 mis nesaf
  • rydych wedi talu treth arnynt ond wedi eu hallforio’n ddiweddarach neu’n eu trosi i gydrannau deunydd pacio plastig taladwy gwahanol
  • bod gennych dystiolaeth bod busnes arall wedi eu hallforio neu eu trosi

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y dreth i gael rhyddhad.

Sut i gael rhyddhad

Gallwch roi gwybod i CThEM am gydrannau wedi’u hallforio neu wedi eu trosi drwy gynnwys eu pwysau yn eich Ffurflen Dreth.

Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar y canlynol:

  • yr hyn yr ydych am gael rhyddhad ar ei gyfer
  • pryd yr ydych am hawlio

Cydrannau yr ydych yn eu hallforio yn yr un cyfnod cyfrifyddu

Gallwch gael rhyddhad ar gydrannau deunydd pacio plastig yr ydych yn eu hallforio yn yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio.

Mae’n rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu lle mae’r dreth yn ddyledus. Caiff unrhyw dreth sy’n ddyledus ei thynnu o gyfanswm eich bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth bod yr allforio wedi digwydd.

Os ydych yn bwriadu allforio cydrannau yn y 12 mis nesaf

Gallwch ‘ohirio’ talu treth os ydych yn bwriadu allforio unrhyw gydrannau rydych wedi eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio yn ystod y 12 mis nesaf.

Mae’n rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu pan ddigwyddodd y gweithgynhyrchu neu’r mewnforio. Caiff unrhyw dreth sy’n ddyledus ei thynnu o gyfanswm eich bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • eich bod yn bwriadu eu hallforio cyn i chi eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio
  • bod gennych gofnodion yn dangos eich bwriad i allforio

Mae eich rhwymedigaeth ar gyfer y dreth yn cael ei chanslo pan fyddwch:

  • yn allforio’r cydrannau deunydd pacio cyn pen 12 mis
  • yn cadw cofnodion i ddangos bod allforio wedi digwydd

Os nad ydych yn bwriadu allforio mwyach neu os nad yw’r cydrannau’n cael eu hallforio cyn pen 12 mis

Mae’n rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth nesaf pan ofynnir i chi faint o ddeunydd pacio y gwnaethoch ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwnnw. Os yw’r cydrannau’n drethadwy, er enghraifft oherwydd nad ydynt yn cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi’i ailgylchu, bydd angen i chi dalu treth arnynt. Os yw’r gyfradd dreth wedi newid, bydd angen i chi dalu treth ar y gyfradd newydd.

Enghraifft o’r hyn y dylech ei wneud pan nad yw cydrannau’n cael eu hallforio cyn pen 12 mis

Mae eich busnes yn gweithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar 23 Awst 2022. Rydych yn bwriadu allforio’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig eich hun cyn pen y 12 mis nesaf.

Rydych yn rhoi cyfrif am y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2022 fel rhai y bwriadwyd eu hallforio gennych.

Ni thalwyd treth oherwydd bod eich busnes yn bwriadu allforio’r deunydd pacio.

Erbyn 23 Awst 2023, nid ydynt wedi cael eu hallforio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig oherwydd nad yw’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig wedi cael eu hallforio gennych cyn pen 12 mis.

Rhaid rhoi cyfrif am y Dreth Deunydd Pacio Plastig a’i thalu ar Ffurflen Dreth nesaf eich busnes. Hon fydd eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig o fis Gorffennaf i fis Medi 2023 ar y gyfradd dreth o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Os bydd busnes arall yn allforio neu’n trosi eich cydrannau yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu

Bydd angen i chi roi manylion am bwysau unrhyw gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig rydych chi wedi’u gweithgynhyrchu neu eu mewnforio, ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig, os yw busnes arall wedi gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • trosi’r cydrannau i gydrannau newydd yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio
  • eu hallforio yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r cydrannau deunydd pacio plastig perthnasol, yn ogystal â’r manylion allforio a throsi.

Bydd unrhyw dreth sy’n ddyledus yn cael ei didynnu oddi wrth gyfanswm y bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.

Os ydych eisoes wedi talu’r dreth ar y cydrannau, gallwch hawlio credyd ar Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig diweddarach.

Cydrannau rydych eisoes wedi talu treth arnynt sy’n cael eu hallforio neu eu trosi

Gallwch hawlio treth yn ôl fel credyd ar eich Ffurflen Dreth os ydych wedi talu treth ar gydrannau sy’n:

  • cael eu hallforio’n ddiweddarach gennych chi neu gan fusnes arall
  • trosir yn wahanol gydrannau deunydd pacio plastig y codir tâl amdanynt

Gallwch ond hawlio credyd pan fydd gennych dystiolaeth i ddangos bod yr allforio neu’r trosi wedi digwydd.

Mae’n rhaid hawlio’r credyd cyn pen 2 flynedd ar ôl i’r cydrannau gael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio.

Caiff credydau eu didynnu o gyfanswm y Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd arnoch. Byddant yn ymddangos yn eich cyfrif ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.

Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel

Gallwch hawlio credyd os ydych wedi allforio cydrannau deunydd pacio plastig i Ynysoedd y Sianel a thu allan i’r DU o Ynys Manaw.

Enghraifft o hawlio credyd ar gyfer cydrannau sy’n cael eu hallforio’n ddiweddarach gan fusnes arall

Mae’ch busnes yn rhoi cyfrif am 20 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2023.

Gwnaethoch dalu’r dreth o £4,000 a oedd yn ddyledus ym mis Ebrill 2023.

Ym mis Mai 2023, mae cwsmer busnes yn darparu tystiolaeth ei fod wedi allforio 5 tunnell o’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig a brynwyd oddi wrthych.

Gan i’ch busnes dalu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ar y cydrannau hyn, cewch hawlio credyd am y 5 tunnell (5 tunnell × £200 = £1,000) ar eich Ffurflen Dreth nesaf.

Eich rhwymedigaeth Treth Deunydd Pacio Plastig yn y cyfnod cyfrifyddu nesaf yw 30 tunnell.

Mae gennych yr hawl i ostwng y rhwymedigaeth hon drwy hawlio’r credyd ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2023. I hawlio credyd, dylech nodi 5,000kg ar gyfer y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yr ydych yn hawlio credyd ar eu cyfer ar eich Ffurflen Dreth.

Enghraifft o hawlio credyd pan fydd cydrannau’n cael eu trosi’n ddiweddarach gan fusnes arall

Mae’ch busnes yn rhoi cyfrif am 30 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig sydd wedi’u gweithgynhyrchu ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2023.

Gwnaethoch dalu’r dreth o £6,324.60 a oedd yn ddyledus ym mis Gorffennaf 2023.

Rydych wedyn yn cyflenwi 10 tunnell o’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig i fusnes arall.

Mae’r busnes arall yn defnyddio’r cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig i weithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig newydd, sydd hefyd yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Ar ôl i chi gael tystiolaeth sy’n cadarnhau bod y cydrannau gwreiddiol wedi’u trosi’n gydran deunydd pacio plastig gorffenedig gwahanol, cewch hawlio credyd am y 10 tunnell (10 tunnell × £210.82 = £2,108.20) ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig nesaf.

I hawlio’r credyd, dylech nodi 10,000kg ar gyfer y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yr ydych yn hawlio credyd ar eu cyfer ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.

Cadw cofnodion

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r cofnodion cywir ar gyfer unrhyw allforio neu drosi rydych chi am gael rhyddhad arno.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 August 2023 + show all updates
  1. Additional guidance to confirm the tax rates to pay when components are not exported within 12 months added.

  2. Guidance has been updated about when you can claim tax back as a credit on your return, if you’ve paid tax on components. The example of claiming a credit when components are later converted by another business has been updated to reflect the new rate of tax as of 1 April 2023.

  3. Guidance has been added on how to complete your return if another business exports or converts your components in the same accounting period.

  4. The section 'Components you’ve already paid tax on which are exported or converted' has been updated, to explain that you can claim tax back as a credit if you have exported plastic packaging components to the Channel Islands and outside of the UK from the Isle of Man.

  5. New guidance on how you can get tax relief on exported and converted packaging in the same accounting period or claim a credit for them on a later tax return.

  6. The examples in the 'When you can claim a credit' section have been updated.

  7. Added translation

  8. Examples showing how to claim a credit and defer a payment have been added.

  9. You cannot claim relief for transport packaging used to export goods from the UK.

  10. Added translation

  11. First published.