Canllawiau

Cyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig

Pryd a sut i gyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig a sut i’w diwygio unwaith iddi gael ei chyflwyno.

Pryd i gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig

Unwaith i chi gyrraedd y trothwy 10 tunnell a chofrestru’ch rhwymedigaeth ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig, bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig i CThEF bedair gwaith y flwyddyn.

Rhaid i’ch Ffurflenni Treth Deunydd Pacio Plastig gwmpasu cyfnod cyfrifyddu. Y cyfnodau cyfrifyddu yw:

  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr
  • 1 Ionawr i 31 Mawrth

Rhaid i chi gyflwyno’r Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn rhoi gwybod amdano fan bellaf.

Er enghraifft, rhaid i’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig ar gyfer cyfnod cyfrifyddu 1 Ebrill 2022 i 30 Mehefin 2022 gael ei chyflwyno i CThEF ar neu cyn dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2022.

Yr hyn i’w gynnwys ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig

Mae’n rhaid i chi nodi’r pwysau mewn cilogramau a’u talgrynnu i lawr i’r cilogram agosaf ar eich Ffurflen Dreth.

Er mwyn llenwi’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig, bydd angen i chi wybod a nodi cyfanswm pwysau unrhyw gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig:

  • y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu yn y DU yn ystod y cyfnod cyfrifyddu
  • y gwnaethoch eu mewnforio i’r DU yn ystod y cyfnod cyfrifyddu
  • y gwnaethoch eu hallforio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu, neu yr ydych yn bwriadu eu hallforio yn ystod y 12 mis nesaf
  • y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio i’w defnyddio ar gyfer deunydd pacio uniongyrchol meddyginiaethau dynol trwyddedig yn ystod y cyfnod cyfrifyddu na chawsant eu hallforio ac na fyddant yn cael eu hallforio
  • sy’n cynnwys o leiaf 30% o gynnwys plastig sydd wedi’i ailgylchu, ac y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu, ac na fyddant yn cael eu hallforio
  • yr ydych wedi talu treth arnynt yn ystod cyfnod cyfrifyddu blaenorol ac yr ydych chi, neu fusnes arall, wedi’u trosi neu eu hallforio’n ddiweddarach

Os nad ydych yn siŵr o’r hyn i’w gynnwys

Gallwch wirio:

Sut i gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y dreth.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y dreth.

Cyflwyno Ffurflenni Treth Deunydd Pacio Plastig a thaliadau ar gyfer grŵp cofrestredig o gwmnïau

Os ydych wedi’ch penodi fel aelod cynrychiadol y grŵp, ar ddiwedd pob cyfnod cyfrifyddu, dylech gyflwyno un Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig a thaliad ar ran holl aelodau’r grŵp.

Dylai’r ffigurau ar y Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig fod yn gyfanswm ar gyfer holl aelodau’r grŵp ar gyfer pob eitem. Dylech wneud yn siŵr bod pob aelod yn cadw cofnodion er mwyn ategu’r ffigurau rydych yn eu defnyddio.

Diwygio Ffurflen Dreth flaenorol

Os byddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth sy’n cynnwys gwybodaeth anghywir, dylech ei chywiro cyn gynted â phosibl a chyn pen 4 blynedd i ddyddiad dyledus y Ffurflen Dreth wreiddiol.

Os oes angen i chi wneud newidiadau i’ch Ffurflen Dreth, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Treth Deunydd Pacio Plastig a dewis ‘bwrw golwg dros neu ddiwygio Ffurflenni Treth a gyflwynwyd’.

Os gwnaethoch dalu gormod o dreth

Os byddwch yn gwneud diwygiad sy’n golygu eich bod wedi talu gormod o dreth, gallwch ofyn am ad-daliad.

Os na fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig neu’n talu mewn pryd

Efallai y codir cosbau arnoch os na fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig neu’n talu’r dreth mewn pryd.

Hefyd codir llog arnoch ar daliadau hwyr. Codir llog am dalu’n hwyr o’r dyddiad y daeth y dreth yn ddyledus hyd at y dyddiad y caiff ei thalu.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2022 + show all updates
  1. The section 'What to include on your return' has been updated to include more details on completing a return when tax has been paid in a previous accounting period.

  2. Added translation

  3. We have updated the section 'Amending a previous tax return'. If you need to make changes to your return, you can now sign in to your Plastic Packaging Tax account and choose ‘view or amend submitted returns’.

  4. You can now submit your Plastic Packaging Tax return. New guidance has also been added on claiming tax relief and amending your return.

  5. The information in the 'What to include on your return' section has been updated.

  6. Guidance about submitting returns and payments for a group of companies has been added.

  7. Information in 'The total weight of finished plastic packaging components imported into the UK in the accounting period' section of the guide has been updated.

  8. Information has been added about what you will need to include on your return.

  9. Updated the section 'Correcting an error in a previous tax return' to explain you should make corrections as soon as possible and within 4 years from the due date of the tax return you are correcting.

  10. Added translation

  11. You must include components in the total weight of finished plastic packaging components manufactured in or imported to the UK, if you've reported them on a previous tax return as being intended for direct export but they have not been exported within 12 months from the date of manufacture or import.

  12. Links have been added to additional guidance on types of packaging, recycled packaging and claiming a credit.

  13. First published.