Canllawiau

Sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF

Rhagor o wybodaeth am adolygiadau ac apeliadau o ran penderfyniadau treth uniongyrchol a phenderfyniadau treth anuniongyrchol (HMRC1)

Pan fydd CThEF yn anfon penderfyniad atoch, a bod modd apelio yn ei erbyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno.

Mae’r hyn sydd angen ei wneud nesaf yn dibynnu a yw’r penderfyniad yn ymwneud â threth uniongyrchol neu anuniongyrchol. Gallwch wirio rhestr gyflawn o drethi uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth uniongyrchol

Gallwch chi, neu gall rhywun sydd ag awdurdod i weithredu ar eich rhan (yn Saesneg), wneud y canlynol:

  • ysgrifennu i CThEF i apelio yn erbyn y penderfyniad — mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr o benderfyniad, a bydd angen i chi roi gwybod i ni beth yr ydych yn anghytuno ag ef a pham

  • anfon rhagor o wybodaeth atom a allai helpu — megis copi o gyfriflen banc neu dderbynebau

Byddwn yn ystyried eich apêl ac yn ceisio dod i gytundeb â chi. Yn ein profiad ni, caiff y rhan fwyaf o anghydfodau eu datrys drwy eu trafod â ni.

Os na fyddwn yn dod i gytundeb

Os na allwn ddod i gytundeb â chi, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth yw’n barn bresennol ar y mater a byddwn yn cynnig adolygiad statudol i chi.

Mae adolygiad yn fodd cyflym, ac o bosibl yn fodd cost-effeithiol, i ddatrys anghydfod. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal, a hynny’n ddiduedd, gan swyddog CThEF sy’n gweithio yng nghyfarwyddiaeth Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor’s Office and Legal Services.

Fe’u gelwir yn ‘swyddogion adolygu’, ac maent yn arbenigo mewn gwaith adolygu. Gallwch apelio i’r tribiwnlys treth os ydych yn anghytuno â chanlyniad adolygiad.

Gallwch chi, neu gall rhywun sydd ag awdurdod i weithredu ar eich rhan (yn Saesneg), wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • derbyn y cynnig o adolygiad drwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y llythyr sy’n esbonio beth yw ein barn bresennol ar y mater
  • apelio ar y tribiwnlys treth

Bydd gennych 30 diwrnod o ddyddiad ein llythyr i dderbyn y cynnig o adolygiad neu i apelio ar y tribiwnlys treth. Os na fyddwch yn gweithredu o gwbl, bydd CThEF yn glynu wrth y penderfyniad gwreiddiol, a bydd eich apêl yn cael ei thrin fel pe bai ‘wedi’i setlo drwy gytundeb’.

Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar ôl i chi anfon eich apêl atom - does dim rhaid i chi aros am ein cynnig. Wedyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio beth yw’n barn bresennol ar y mater, a bydd eich achos yn cael ei adolygu gan swyddog adolygu.

Os byddwch yn derbyn y cynnig o adolygiad, ni allwch ofyn i’r tribiwnlys treth wrando ar eich achos hyd nes bo’r swyddog adolygu wedi rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad yr adolygiad neu bo cyfnod yr adolygiad wedi dod i ben.

Gallwch apelio ar y tribiwnlys treth ar ôl anfon apêl atom, ond ni allwch gael adolygiad ac apelio ar y tribiwnlys treth ar yr un pryd.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth anuniongyrchol

Yn ein llythyr o benderfyniad, byddwn yn cynnig adolygiad i chi ac yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch apelio ar y tribiwnlys treth.

Mae adolygiad yn fodd cyflym, ac o bosibl yn fodd cost-effeithiol, i ddatrys anghydfod. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal, a hynny’n ddiduedd, gan swyddog CThEF sy’n gweithio yng nghyfarwyddiaeth Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor’s Office and Legal Services. Fe’u gelwir yn ‘swyddogion adolygu’, ac maent yn arbenigo mewn gwaith adolygu.

Gallwch dal i apelio ar y tribiwnlys treth os ydych yn anghytuno â chanlyniad adolygiad. Fodd bynnag, ni allwch ofyn i’r tribiwnlys treth wrando ar eich achos hyd nes bo cyfnod yr adolygiad wedi dod i ben neu bo’r swyddog adolygu wedi rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad yr adolygiad.

Gallwch chi, neu gall rhywun sydd ag awdurdod i weithredu ar eich rhan (yn Saesneg), wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd gennych 30 diwrnod i dderbyn ein cynnig o adolygiad neu i apelio ar y tribiwnlys treth. Os na fyddwch yn gweithredu o gwbl, bydd CThEF yn glynu wrth y penderfyniad gwreiddiol.

Os oes gennych ragor o wybodaeth i’w hanfon atom ond bod angen rhagor o amser arnoch i wneud hyn, gallwch ofyn i ni ymestyn y terfyn amser ar gyfer derbyn ein cynnig o adolygiad. Os felly, dylech ofyn am estyniad cyn y dyddiad cau, sef 30 diwrnod.

Yr hyn sy’n digwydd mewn adolygiad

Bydd swyddog adolygu yn ystyried a yw’r penderfyniad yn gywir ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi CThEF.

Gallwch roi rhagor o wybodaeth, a chyflwyno achos pellach, i’r swyddog adolygu eu hystyried.

Bydd y swyddog adolygu yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod ganddo’ch adolygiad. Bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau cyn pen 45 diwrnod, neu erbyn unrhyw amser arall y gwnaeth y swyddog gytuno â chi (sef ‘cyfnod yr adolygiad’).

Pan fydd y swyddog adolygu yn cwblhau’r adolygiad, bydd yn ysgrifennu atoch i naill ai:

  • ategu’r penderfyniad
  • newid y penderfyniad
  • canslo’r penderfyniad

Canlyniadau adolygiad

Mae penderfyniad a ategwyd yn golygu bod y penderfyniad gwreiddiol heb ei newid. Mae penderfyniad a newidiwyd yn golygu ei fod wedi’i newid mewn rhyw ffordd.

Os bydd swyddog adolygu yn ategu neu’n newid y penderfyniad, a’ch bod yn cytuno â’r canlyniad, byddwch yn gorfod trefnu i dalu unrhyw swm sydd arnoch.

Os ydych yn dal i anghytuno, gallwch apelio ar y tribiwnlys treth cyn pen 30 diwrnod i lythyr casgliadau’r adolygiad. Os byddwch yn apelio ar y tribiwnlys treth, gallwch hefyd wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod (yn Saesneg).

Os bydd y penderfyniad yn cael ei ganslo, does dim rhaid i chi wneud dim byd.

Os ydych am apelio ar y tribiwnlys treth, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi copi o’r penderfyniad neu lythyr casgliadau’r adolygiad (os cawsoch adolygiad) at eich hysbysiad o apêl. Os na wnewch hynny, efallai na fydd y tribiwnlys treth yn ei dderbyn.

Derbyn apeliadau ac adolygiadau hwyr

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, sef 30 diwrnod, i apelio ar CThEF (treth uniongyrchol) neu i dderbyn cynnig yr adolygiad (treth uniongyrchol a threth anuniongyrchol), bydd angen esgus rhesymol arnoch am fethu’r dyddiad cau. Os nad ydym o’r farn fod esgus rhesymol, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Talu treth yn ystod adolygiadau ac apeliadau

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu a yw’n dreth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.

Ar gyfer treth uniongyrchol

Gallwch ofyn i ni ohirio’r holl dreth sy’n destun anghydfod, neu ran ohoni, hyd nes bo’r apêl wedi’i setlo. Mae’n rhaid gwneud cais i ohirio cyn pen 30 diwrnod o’n penderfyniad.

Gallai’r apêl gael ei datrys drwy gytundeb rhyngoch chi a ni, neu gellir penderfynu arni gan y tribiwnlys treth.

Yna, mae’n rhaid i chi dalu’r dreth sy’n ddyledus yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys treth neu’r setliad cytunedig rhyngoch chi a CThEF. Bydd llog yn cronni yn ystod yr adolygiad neu broses y tribiwnlys treth ar unrhyw dreth sydd heb ei thalu, neu dreth a ohiriwyd, hyd nes ei bod wedi’i thalu.

Ar gyfer treth anuniongyrchol

Ni fyddwn yn casglu’r dreth sy’n destun anghydfod tra bod adolygiad yn cael ei gynnal – oni bai ei fod yn fater tollau. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth sy’n destun anghydfod cyn i’r tribiwnlys treth allu gwrando ar unrhyw apêl.

Bydd llog yn cronni yn ystod yr adolygiad neu broses y tribiwnlys treth ar unrhyw dreth sydd heb ei thalu, neu dreth sy’n destun anghydfod, hyd nes ei bod wedi’i thalu.

Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus yn unol â’r penderfyniad, unwaith bo’r tribiwnlys treth wedi gwneud ei benderfyniad – hyd yn oed os oes apêl yn ei erbyn.

Byddwn yn talu unrhyw symiau sy’n ddyledus i chi, yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys treth, ynghyd â llog (pan fo hynny’n briodol).

Gwneud cais o ran caledi ynglŷn â phenderfyniad treth anuniongyrchol

Pe bai talu’r dreth yn achosi caledi i chi, gallwch ofyn i ni beidio â’i chasglu hyd nes bo’r tribiwnlys treth wedi penderfynu ar y mater. Rhowch wybod i ni, os ydych o’r farn bod hyn yn berthnasol i chi.

Gallwch wneud cais o ran caledi drwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod:

HMRC
Solicitor’s Office and Legal Services
Hardship Team
Appeals and Reviews
S0987
Newcastle
NE98 1ZZ

Dylech wneud y canlynol:

  1. Rhowch fanylion yr apêl.

  2. Rhowch wybod i ni pam yr ydych o’r farn y byddai talu’r dreth yn achosi caledi i chi.

  3. Rhowch wybod i ni beth yw’r swm yr ydych yn gofyn i’w ohirio.

Apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys treth ar gyfer treth anuniongyrchol

Os apeliwch yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys treth, gallwch ofyn i ni beidio â chasglu’r dreth sy’n ddyledus pe bai ei thalu’n achosi caledi ariannol i chi. Er enghraifft, drwy eich gwneud yn fethdalwr neu’n eich ymddatod.

Os oes apêl yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys treth, a’n bod ni o’r farn bod perygl na fyddwch yn talu unrhyw dreth ychwanegol sydd arnoch, gallwn ofyn i’r Uwch Dribiwnlys (yn Saesneg) neu lys am ganiatâd i naill ai:

  • peidio â thalu neu ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi
  • gofyn am warant cyn i ni eich talu

Rhestr o drethi uniongyrchol ac anuniongyrchol

Trethi uniongyrchol:

  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu
  • Ardoll Brentisiaethau
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Gwasanaethau Digidol
  • Treth Ailgyfeirio Elw
  • Cynlluniau Cyfranddaliadau ar sail Cyflogeion
  • Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Treth Dir y Tollau Stamp
  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
  • taliadau statudol
  • ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr
  • cynlluniau arbed treth (penderfyniadau ynglŷn â chosbau sy’n ymwneud â hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig)
  • trethu taliadau cymorth coronafeirws (COVID-19)

Trethi anuniongyrchol:

  • Ardoll Agregau
  • Toll Teithwyr Awyr
  • Tollau Gwirodydd Alcoholaidd
  • Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol
  • Toll Bingo
  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
  • Penderfyniadau Gwrthderfysgaeth
  • Toll Dramor
  • Cynllun diwydrwydd dyladwy ar gyfer busnesau cyflawni
  • Toll Hapchwarae
  • Toll Fetio Gyffredinol
  • Toll Olewau Hydrocarbon
  • Treth Premiwm Yswiriant
  • Treth Dirlenwi
  • Toll y Loteri
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • penderfyniadau gwyngalchu arian
  • Treth Deunydd Pacio Plastig (o fis Ebrill 2022 ymlaen)
  • Toll Cronfa Fetio
  • Cynllun Cymeradwyo Tybaco Crai
  • Toll Hapchwarae o Bell
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Cynllun Trwyddedu Peiriannau Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tybaco
  • Toll Cynhyrchion Tybaco
  • TAW

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os oes angen cymorth ychwanegol oherwydd eich amgylchiadau personol, gallwch gael help gan CThEF.

Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym wedi delio â’ch materion treth, gallwch gysylltu â CThEF i gwyno.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2022