Canllawiau

Cofrestru grŵp o gwmnïau ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i gofrestru grŵp o gwmnïau ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Pwy ddylai gofrestru a phryd

Rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych:

  • yn disgwyl gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 30 diwrnod nesaf
  • wedi gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf

Gall y 10 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig fod yn gyfuniad o ddeunydd pacio sydd wedi’i weithgynhyrchu ac sydd wedi’i mewnforio.

Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod ar ôl cyrraedd y trothwy 10 tunnell. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb os na wnewch hynny.

Pwy all gofrestru fel grŵp

Os ydych yn rhan o grŵp o gwmnïau, gallwch benodi aelod cynrychiadol sydd wedi’i sefydlu yn y DU i gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig, cyflwyno Ffurflenni Treth a gwneud taliadau ar ran y grŵp.

Mae grŵp o gwmnïau yn 2 gorff corfforaethol neu fwy, sydd wedi’i sefydlu yn y DU, ac sydd i gyd o dan yr un rheolaeth.

I gofrestru yn y modd hwn, rhaid i’r grŵp gynnwys o leiaf un cwmni sydd wedi’i sefydlu yn y DU, a rhaid i bob cwmni yn y grŵp:

Ni allwch gofrestru fel rhan o grŵp os ydych yn un o’r canlynol:

  • busnes tramor heb sefydliad yn y DU
  • sefydliad corfforedig elusennol

Dysgwch sut mae cofrestru fel un busnes neu fel unigolyn.

Penodi aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp a gweithredu felly

Bydd angen i holl aelodau’r grŵp benodi aelod cynrychiadol o’r grŵp sydd wedi’i sefydlu yn y DU. Rhaid i’r aelod cynrychiadol penodedig:

  • bod yn aelod o’r grŵp o gwmnïau
  • bod yn breswylydd yn y DU
  • bod â sefydliad parhaol yn y DU
  • peidio â bod yn aelod o grŵp arall o gwmnïau

Ar ôl cael ei benodi, rhaid iddo wneud y canlynol ar ran y grŵp cyfan:

  • cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • cyflwyno Ffurflenni Treth
  • talu’r dreth
  • gwneud diweddariadau a newid unrhyw ran o’r manylion cofrestru

Mae’r holl aelodau’n agored, ar y cyd ac yn unigol, i ymrwymiadau ei gilydd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Mae hyn yn golygu nad yw’r cyfrifoldeb o dalu’n cael ei roi i’r aelod cynrychiadol a ddewiswyd yn unig. Mae pob cwmni yn y grŵp yn gyfrifol am sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd, ni waeth pa gwmnïau sydd â rhwymedigaeth treth.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Fel yr aelod cynrychiadol yn cofrestru grŵp o gwmnïau bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth – os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru
  • rhif adnabod cwsmer – ar gyfer busnesau sydd wedi’u sefydlu yn y DU gallai hwn fod yn un o’r canlynol:
    • cyfeirnod y cwsmer
    • cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • y math o gwmni yr ydych yn ei gofrestru
  • enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer pob cwmni

Rhaid i chi hefyd gadarnhau fod holl aelodau’r grŵp dan yr un rheolaeth a nodi’r canlynol:

  • y ffigur disgwyliedig ar gyfer pwysau’r cydrannau pacio plastig gorffenedig y bydd yn cael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio yn ystod y 12 mis nesaf
  • y dyddiad y gwnaethant gyrraedd y trothwy 10 tunnell, neu pryd maent yn disgwyl gwneud hynny yn y 30 diwrnod nesaf

Bydd y cofrestriad grŵp yn dod i rym ar y diwrnod y gwneir y cais.

Mae’n bosibl y gofynnir cwestiynau i chi am gofnodion treth y cwmnïau yr ydych yn eu cofrestru.

Os oes unrhyw yn eich grŵp eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Os oes unrhyw yn eich grŵp (gan eich cynnwys chi) eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig, rhaid iddynt ddatgofrestru cyn i’r cofrestriad grŵp gael ei sefydlu.

Sut i gofrestru

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.(yn Saesneg)

Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi wrth i chi gwblhau’r cofrestriad.

Cofrestru nawr

Ar ôl i chi gofrestru

Gwneud newidiadau i grŵp

Ar ôl i’r cais i gofrestru grŵp gael ei gymeradwyo, gall aelod cynrychiadol y grŵp ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud y canlynol:

  • ychwanegu a thynnu aelodau o’r grŵp
  • gwneud diweddariadau a newid rhai o’r manylion cofrestru
  • cael diweddariadau gan CThEF ynglŷn â’r cyfrif
  • cyflwyno Ffurflenni Treth Deunydd Pacio Plastig
  • newid aelod cynrychiadol y grŵp

Wrth wneud newidiadau, cofiwch:

  • rhaid i’r holl aelodau fodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn rhan o grŵp
  • efallai y bydd angen i gwmni sy’n gadael grŵp, neu’r holl gwmnïau mewn grŵp sy’n cael ei gau, gofrestru ar unwaith yn ei rinwedd ei hun os yw’n bodloni un o’r profion ar gyfer cofrestru
  • rhaid i gwmni sy’n cael ei ychwanegu at y grŵp ddatgofrestru yn gyntaf os yw eisoes wedi’i gofrestru yn ei rinwedd ei hun

Sut i newid aelod cynrychiadol y grŵp

Os byddwch yn newid aelod cynrychiadol y grŵp, bydd yn rhaid i aelod cynrychiadol y grŵp sy’n gadael dynnu Treth Deunydd Pacio Plastig o’i gyfrif treth busnes.

Dylech wedyn mewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes a thynnu Treth Deunydd Pacio Plastig ohono.

Yna, bydd aelod cynrychiadol y grŵp yn gallu ychwanegu Treth Deunydd Pacio Plastig i’w cyfrif treth busnes. Bydd angen y manylion canlynol arno:

  • rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • dyddiad cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Dylai aelod cynrychiadol newydd y grŵp:

  1. Mewngofnodi i’w cyfrif Treth Busnes.
  2. Dewis ‘Cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun’.
  3. Ychwanegu Treth Deunydd Pacio Plastig i’w cyfrif.
  4. Dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Cyhoeddwyd ar 4 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 July 2023 + show all updates
  1. Information added about making sure up to date details are listed with Companies House.

  2. You must now look back 12 months from the last day of the month, to check how much finished plastic packaging components you manufactured and imported, instead of looking back from 1 April 2022.

  3. Guidance about how to change the group representative member has been added.

  4. Information about how to complete returns and payments has been moved to the 'Completing your Plastic Packaging Tax return' guide.

  5. You can now register for Plastic Packaging Tax.

  6. If you're an overseas business without a UK establishment, you cannot register online from the start of the tax as part of a group or charity. When registering a group, you should not use a Charity Registration Number as the information you give for a company in the group.

  7. Added translation

  8. Guidance has been updated to include the 10 tonnes threshold that each company must meet.

  9. First published.