Canllawiau

Canslo’ch cofrestriad ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i ddatgofrestru ar gyfer y dreth, cyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol a hawlio treth yn ôl os nad ydych bellach wedi’ch cofrestru.

Os nad ydych bellach yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig, mae’n rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad. Gelwir hyn yn ddatgofrestru ar gyfer y dreth.

Sut i ganslo

Gallwch ofyn ar-lein i CThEF eich datgofrestru rhag y dreth. Bydd angen i chi ddewis y rheswm dros gredu nad ydych yn agored i’r dreth mwyach.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
  • cyfeirnod Treth Deunydd Pacio Plastig

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 28 diwrnod gwaith i ni adolygu’ch cais.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich datgofrestriad a’r dyddiad y daw hyn i rym.

Bydd angen i chi gadw’r holl gofnodion hyd at eich datgofrestriad am chwe blynedd.

Cyflwyno eich Ffurflen Dreth derfynol

Unwaith i chi ddatgofrestru, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig derfynol ar gyfer y cyfnod hyd at ddyddiad eich datgofrestriad.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y dreth
  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Rhaid i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn rhoi gwybod amdano fan bellaf.

Os ydych wedi’ch datgofrestru ar gyfer y dreth ac angen hawlio treth yn ôl

Gallwch ofyn am ad-daliad os darganfyddwch yn ddiweddarach fod cydrannau deunydd pacio plastig y gwnaethoch dalu treth arnynt wedi cael eu:

  • hallforio
  • trosi’n gydran deunydd pacio plastig gwahanol
Cyhoeddwyd ar 1 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 October 2022 + show all updates
  1. You can now cancel your registration for Plastic Packaging Tax using your business tax account.

  2. A Welsh translation has been added

  3. First published.