Canllawiau

Ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru: gwerthu lleiniau: trosglwyddiadau a phrydlesi (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 4)

Diweddarwyd 15 November 2021

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r atodiad hwn yn egluro sut y bydd prynwyr lleiniau ar ddatblygiadau newydd yn gallu bodloni eu hunain bod eu llain, a’r hawliau sy’n mynd â hi, o fewn teitl y datblygwr. Mae hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ar chwiliadau swyddogol, rhyddhad o arwystl y datblygwr, cyfyngiadau a’r materion ychwanegol sy’n codi lle caiff y datblygiad ei waredu trwy roi prydlesi.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2. Gwybodaeth sydd ei hangen ar y prynwr

Bydd angen i chi weld copi swyddogol o gofrestr teitl y datblygwr bob amser fel y gallwch weld y dosbarth teitl sy’n cael ei gynnig a’r beichiau sy’n effeithio ar y tir. Byddwn yn darparu copi swyddogol ar gais ond gall y datblygwr anfon un atoch gyda’r contract drafft.

Dylech sicrhau bod unrhyw ffensys a godwyd ar hyd terfynau’r llain wedi eu gosod, neu y byddant, yn unol â’r cynllun ynghlwm wrth y trosglwyddiad neu brydles. Os oes unrhyw amheuaeth dylech fynd dros hyn gyda’r datblygwr ac, os bydd angen, gofyn am gyngor tirfesurydd cymwys. Hefyd, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cadarnhau bod eich llain yn nheitl y datblygwr
  • gweld pa gyfeiriadau (os oes rhai) ar y cynllun teitl sy’n effeithio ar y llain fel y gallwch weld pa rai o’r cofnodion ar y gofrestr sy’n perthyn i’r llain
  • yn union cyn cwblhau, cadarnhau bod y llain yn dal yn y teitl, nad yw’n destun unrhyw gais blaenorol yn aros i’w brosesu ac na wnaed unrhyw gofnod gwrthwynebus sy’n effeithio arni ar y gofrestr ers y dyddiad y cyhoeddwyd copi swyddogol cofrestr y datblygwr

3. Tystiolaeth bod y llain sy’n cael ei phrynu yn nheitl y datblygwr

Mae ffurflen CI, tystysgrif archwiliad o’r cynllun teitl, yn ardystio bod y llain a ddisgrifia yn dod o fewn teitl cofrestredig y datblygwr ac yn datgan os oes unrhyw liw neu gyfeiriad arall yn ymddangos ar y cynllun teitl sy’n effeithio ar y llain neu beidio. Nid yw’r dystysgrif hon yn rhoi unrhyw flaenoriaeth o ran cofrestru’r trosglwyddiad neu brydles ond rydym yn gwarantu ei chywirdeb a gall ceisydd hawlio indemniad os yw’r dystysgrif yn cynnwys unrhyw gamgymeriad sy’n peri colled (gweler paragraff 1(1)(c) Atodlen 8, Deddf Cofrestru Tir 2002). Mae ffurflen CI yn rhoi’n union yr un wybodaeth y gallai’r prynwr ei chael o archwilio copi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr. Nid oes ar brynwr sy’n dal ffurflen CI angen copi o’r cynllun teitl hwnnw.

Os na fydd y datblygwr yn darparu ffurflen CI gyda’r contract drafft, gall y prynwr gael un trwy wneud cais i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF ar ffurflen OC1. Mewn achosion lle’r ydym wedi cymeradwyo cynllun ystad yn swyddogol (gweler Atodiad 2 i’r cyfarwyddyd ymarfer hwn), dylai ffurflen OC1 ddisgrifio’r tir sy’n cael ei brynu trwy gyfeirio at rif y llain neu leiniau sy’n cael eu dangos ar y cynllun hwnnw. Fel arall dylai’r prynwr atodi cynllun yn ddyblyg i’r cais. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r ceisydd ddarparu disgrifiad geiriol digonol o’r eiddo. Rhaid i chi roi enw neu ddisgrifiad dros dro y ffordd sy’n gwasanaethu’r eiddo yn ogystal â rhif y llain neu leiniau ar unrhyw gynllun ystad cymeradwy. Dylid rhoi rhifau cynllun sy’n gwahaniaethu unrhyw ddarnau eraill (er enghraifft, modurdy neu fan parcio) sydd yn rhan o’r pryniant hefyd.

Gall defnyddio trefn ffurflen CI arbed yr oedi a all godi i ddatblygwyr wrth gael copïau swyddogol o gynlluniau teitl mawr a chymhleth er mwyn eu rhoi i brynwyr.

4. Tystiolaeth o hawddfreintiau

Bydd prynwyr a’u cynghorwyr cyfreithiol eisiau bodloni eu hunain bod pˆwêr gan y datblygwr i roi unrhyw hawddfreintiau a ddarparwyd ar eu cyfer yn y contract, er enghraifft, hawliau tramwy dros ffyrdd a thramwyfeydd a hawliau draenio.

Dylai datblygwr sy’n bwriadu mabwysiadu ffurf safonol o warediad ar gyfer yr ystad ofyn i ni gymeradwyo’r brydles neu drosglwyddiad drafft cyn dechrau datblygu. Yn ein llythyr at gynghorwyr cyfreithiol y datblygwr yn cymeradwyo’r drafft byddwn yn rhoi sicrwydd bryd bynnag y gallwn, os yw’r hawddfreintiau yn cael eu rhoi ar y ffurf safonol, y byddwn yn eu cofrestru fel yn perthyn i deitlau’r prynwyr. Os yw’r datblygwr yn rhoi copi o’r llythyr hwn i bob prynwr gall y prynwr ddibynnu ar ein sicrwydd ac ni fydd yn gorfod ymchwilio i bŵer y datblygwr i roi’r hawddfreintiau hynny. Mae’r broses gymeradwyo hefyd yn gadael i ni dynnu sylw at unrhyw nodweddion anghyffredin, naill ai yng nghynllun yr ystad neu yn nhestun y trosglwyddiad neu brydles arfaethedig, cyn i unrhyw werthiant ddigwydd.

Fe fydd achosion lle na chafodd cynlluniau a dogfennau drafft datblygwyr eu cymeradwyo, am ryw reswm neu’i gilydd, fel na fyddwn yn gallu rhoi sicrwydd i brynwyr ynghylch hawddfreintiau. Cyn archebu copi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr, dylech gofio bod hawddfreintiau a roddir wrth werthu lleiniau adeiladu yn aml o natur amhenodol, er enghraifft, hawl i ddraenio o dan dir cyffiniol y datblygwr heb unrhyw arwydd o le mae’r draeniau’n rhedeg. Yn y fath achos ni fydd archwiliad o’r cynllun teitl yn dwyn y mater ymhellach. Os yw’r grant yn fwy penodol, er enghraifft, hawl tramwy dros ffordd ddiffiniedig, mae modd gofyn i ni gadarnhau bob amser, wrth wneud cais am ffurflen CI, bod y tir o dan sylw o fewn teitl y datblygwr. Mewn rhai achosion o’r fath rydym yn gallu trefnu gyda chynghorwyr cyfreithiol y datblygwr i gynnwys y wybodaeth hon ar holl dystysgrifau ffurflen CI a gyhoeddir o ran teitl eu cleient. Ar adegau eraill, fe all fod cofnodion ar y gofrestr sydd, o’u darllen ar y cyd â’r ffurflen CI a chopi neu ddetholiad o’r cynllun ystad cymeradwy, yn gallu rhoi sicrwydd digonol.

Fodd bynnag, mae trefn ffurflen CI yn ddewisol a gallwch wneud cais am gopi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr.

5. Chwilio am gofnodion gwrthwynebus ar y gofrestr sy’n effeithio ar y llain

5.1 Sut i wneud cais

O leiaf 5 niwrnod cyn y dyddiad cwblhau a bennwyd, dylech wneud cais ar ffurflen OS2 am chwiliad swyddogol o’r gofrestr. Byddwn yn ceisio cyhoeddi tystysgrif swyddogol y canlyniad o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn y cais. Mae’r dystysgrif chwiliad yn rhoi cyfnod blaenoriaeth i chi, yn dechrau ar adeg cofnodi’r cais hwnnw ar y rhestr ddydd ac yn dod i ben am hanner nos, yn nodi diwedd y 30ain diwrnod gwaith wedi hynny. Mae’r dystysgrif chwiliad yn datgan ar ba ddyddiadau y bydd y cyfnod blaenoriaeth yn dechrau ac yn dod i ben.

Rhaid i ffurflen OS2 ddisgrifio’n fanwl gywir hyd a lled y tir sydd yn destun y chwiliad. Os ydym wedi cymeradwyo’r cynllun ystad, dylai ffurflen OS2 ddisgrifio’r tir trwy ei rif llain neu rifau lleiniau ar y cynllun hwnnw. Lle nad oes unrhyw gynllun ystad cymeradwy, rhaid i chi ddiffinio’r tir o dan sylw ar gynllun ynghlwm wrth y ffurflen (yn ddyblyg). Mae ein gofynion o ran y cynllun hwn yr un fath â’r rhai ar gyfer cynllun y trosglwyddiad neu brydles (gweler Atodiad 5 i’r cyfarwyddyd ymarfer hwn). Dylai prynwyr sydd am osgoi dryswch sicrhau bod y cynllun a gyflwynir gyda ffurflen OS2 yn gopi union o gynllun y trosglwyddiad neu brydles.

Fel y digwydd yn aml, lle mae’r prynwr yn bwriadu arwystlo’r eiddo ar unwaith wedi cymryd y trosglwyddiad neu brydles, mae tystysgrif chwiliad swyddogol a gafwyd ar ran yr arwystlai yn diogelu cofrestru’r arwystl a’r trosglwyddiad neu brydles y mae’n dibynnu arnynt.

Os oes oedi cyn cwblhau, gallwch wneud cais pellach ar ffurflen OS2 a byddwn yn cyhoeddi tystysgrif chwiliad swyddogol arall yn rhoi cyfnod blaenoriaeth newydd. Bydd y cyfnod hwn yn rhedeg o ddyddiad y dystysgrif newydd.

I gael rhagor o wybodaeth gweler cyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol a cheisiadau amlinellol.

5.2 Tir mewn mwy nag un teitl

Weithiau mae llain tŷ cael ei chynnwys mewn mwy nag un teitl, gyda’r datblygwr fel perchennog y ddau deitl. Yn y fath achos, gall prynwyr sydd am wneud cais am chwiliad swyddogol ar gyfer y ddau deitl roi’r 2 rif teitl ar un ffurflen OS2. Rhaid i chi addasu’r geiriau a argraffwyd ar y ffurflen i wneud eich gofynion yn glir. Os oes gennych ddyddiadau ‘cofnodion sy’n bodoli’ gwahanol ar gyfer pob teitl, a gymrwyd naill ai o gopïau swyddogol o’r cofrestri neu o olwg o’r gofrestr, rhaid i chi ddyfynnu’r ddau ddyddiad fel y dyddiad ‘y chwilir ohono’, gan ddangos pa ddyddiad sy’n berthnasol i ba deitl.

5.3 Hawddfreintiau a roddwyd dros dir cyffiniol

Mae’r flaenoriaeth a roddwyd o dan dystysgrif chwiliad swyddogol yn ymestyn i’r hawddfreintiau a hawliau eraill a roddwyd dros y teitl a chwiliwyd. Lle bo’r hawddfreintiau a roddwyd yn dod o fewn teitl arall, dylech hefyd gyflwyno chwiliad ar gyfer y teitl hwnnw.

6. Rhyddhau rhan o arwystl presennol

Dylid rhyddhau’r rhan a drosglwyddwyd o arwystl cofrestredig presennol ar deitl y datblygwr gan ddefnyddio ffurflen DS3. Rhaid i’r ffurflen ddod gyda chynllun yn dangos y tir sy’n cael ei ryddhau. Rhaid i’r cynllun ateb ein gofyniad (gweler Atodiad 5 i’r cyfarwyddyd ymarfer hwn) ac, yn ddelfrydol, bydd yn gopi union o’r cynllun trosglwyddo.

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd o arwystl (heblaw rhybudd unochrog) o ran y llain sy’n cael ei chofrestru ar ffurflen CN1. Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddigonol y rhyddhawyd yr arwystl hefyd, trwy naill ai:

  • ffurflen DS3
  • derbynneb ardystiedig ar offeryn yr arwystl
  • llythyr wedi ei gyfeirio at y cofrestrydd, wedi ei lofnodi gan yr arwystlai a nodwyd (neu lofnodwr awdurdodedig yr arwystlai a nodwyd os yw’n gorfforaeth), ac yn cynnwys cadarnhad na fu unrhyw aseiniad o fudd yr arwystl. (Os bu aseiniad, rhaid cyflwyno’r dystiolaeth trawsgludo arferol o ddisgyniad teitl), neu
  • lythyr anghrisialu, yn achos arwystl ansefydlog

Nid oes angen cyflwyno’r arwystl ei hun ond (os yw ar gael) gall fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth bod y ceisydd yn dal â hawl i’r budd ohono.

Lle cofnodwyd rhybudd unochrog o ran arwystl, rhaid gwneud cais i ddileu’r rhybudd o ran y llain sy’n cael ei chofrestru ar ffurflen UN2 lle bo’r cais i’w ddileu gan y buddiolwr cofrestredig. Os nad oes modd cyflwyno cais o’r fath mae modd i’r perchennog cofrestredig (neu bwy bynnag sydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog) wneud cais ar ffurflen UN4. Yn yr achos hwn bydd rhybudd o’r cais yn cael ei gyflwyno i’r buddiolwr.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

7. Datblygu ystadau prydlesol: copïau swyddogol o’r gofrestr

Cyn cyhoeddi copi swyddogol o gofrestr rhaid i ni ystyried unrhyw gais sy’n aros i’w brosesu a fydd yn peri cofnod pellach ar y gofrestr. Oherwydd hyn byddwn yn ôl-ddyddio unrhyw gopi swyddogol i ddyddiad cyn derbyn y cais sy’n aros i’w brosesu. Yn anffodus, mae mwy o ôl-ddyddio ar gopïau swyddogol o gofrestri teitlau sy’n cael eu datblygu trwy roi prydlesi nag ar gopïau swyddogol o gofrestri ystadau adeiladu rhydd-ddaliol. Mae hyn oherwydd ein bod yn gorfod gwneud cofnod ar wahân ar y gofrestr o deitl y prydleswr am bob prydles. Rhaid i’r cofnodion hyn ddilyn ei gilydd yn union yn nhrefn amser, yn ôl dyddiad cofrestru pob prydles. Mae unrhyw oedi cyn cofrestru prydles arbennig (er enghraifft, oherwydd anhawster gyda’r terfyn) yn rhwystro cofnodi rhybudd o holl brydlesi gaiff eu derbyn yn ddiweddarach. Dyma fel y mae, er y gall cofrestru’r prydlesi diweddarach fod yn barod i’w gwblhau ar bob cyfrif arall. Nid yw’r anhawster hwn yn codi yn achos ystadau a werthir trwy drosglwyddiadau o ran. Yn yr achos hwnnw nid oes angen cofnodion ar wahân fel arfer oherwydd bod un cofnod cyffredinol ar gofrestr y datblygwr dros yr holl ddileadau i’r perwyl bod y rhannau o’r tir gydag ymyl gwyrdd ar y cynllun teitl wedi cael eu dileu o deitl y datblygwr.

Nid oes angen i ddarpar brydlesai neu arwystlai eiddo unigol bryderu nad yw copi swyddogol teitl y prydleswr yn nodi manylion holl brydlesi’r eiddo arall a roddwyd gan y prydleswr. Nid oes angen iddo ond sicrhau’r prydlesai neu arwystlai bod yr eiddo o dan sylw yn aros yn nheitl y prydleswr. Hyd yn oed os byddwn yn ôl-ddyddio copi swyddogol yn sylweddol, bydd chwiliad swyddogol ar ffurflen OS2 yn diweddaru’r sefyllfa o ran eiddo’r prydlesai. Mae’r dystysgrif chwiliad swyddogol ei hun yn cadarnhau bod yr eiddo’n dal yn nheitl y prydleswr. Bydd y dystysgrif hefyd yn dadlennu os gwnaed unrhyw gofnodion gwrthwynebus yn effeithio ar yr eiddo sy’n destun y chwiliad ar y gofrestr ers dyddiad y copi swyddogol neu olwg o’r gofrestr. Bydd canlyniad y chwiliad hefyd yn dadlennu manylion unrhyw gais i gofrestru sy’n aros i’w brosesu neu chwiliad swyddogol sy’n effeithio ar y rhan a chwiliwyd.

8. Cofrestru gyda theitl prydlesol llwyr

Dylid cyflwyno unrhyw ganiatâd i roddiad a/neu gofrestriad y brydles sy’n ofynnol o ganlyniad i gofnodion yng nghofrestr teitl y prydleswr gyda’r cais i gofrestru’r brydles.

Mewn rhai amgylchiadau fodd bynnag, byddwn yn cwblhau’r cofrestriad gyda theitl llwyr os na chyflwynir caniatâd. Byddwn fel rheol yn cymeradwyo teitl llwyr lle bo arwystl cofrestredig, ecwitïol neu ansefydlog wedi eu cofnodi yng nghofrestr teitl y prydleswr ond nad yw caniatâd yr arwystlai i roddiad y brydles wedi ei gyflwyno nac eglurhad wedi ei ddarparu o ran pam nad oes angen y caniatâd. Rhaid nad oes cyfyngiad yn gofyn am ganiatâd cofrestriad y brydles chwaith. Yn y sefyllfa hon byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl prydlesol newydd:

“Mae’r teitl i’r brydles, yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig…o blaid…sy’n effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, unrhyw arwystl sy’n newid neu’n amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran yr holl swm neu ran o’r swm a sicrheir gan yr arwystl hwn), yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a allai fod wedi codi yn absenoldeb caniatâd yr arwystlai, oni bai bod y brydles wedi ei hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Diben y cofnod hwn yw tynnu sylw darpar brynwyr at wendid posibl y brydles gofrestredig. Dylai hefyd leihau’r posibilrwydd o hawl yr arwystlai’n effeithiol i bennu bod y brydles wedi’i cholli o ganlyniad i adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd angen caniatâd yr arwystlai arnom bob tro os oes cyfyngiad yn nheitl y prydleswr sy’n gofyn am ganiatâd yr arwystlai i gofrestru prydles. Mae hyn oherwydd rhaid cydymffurfio â chyfyngiad yn y gofrestr teitl pryd bynnag y bydd gwarediad yn cael ei ddal gan delerau cyfyngiad. Bydd cyfyngiad yn erbyn cofrestriad gwarediadau’n dal prydlesi.

Yn achos isbrydles, byddwn yn cymeradwyo teitl llwyr os oes nodyn ar deitl y prydleswr yn dangos bod y brif brydles yn cynnwys gwaharddiad yn erbyn arallu heb drwydded, ond nad yw trwydded na chaniatâd y prydleswr uwch gyda’r cais. Mae hyn oherwydd tra bod isbrydles sy’n torri gwaharddiad neu gyfyngiad mewn prif brydles neu brydles uwch yn brydles ddilys a allai gael ei chofrestru gyda theitl llwyr, nid yw hyn yn atal fforffediad y brydles honno a therfyniad yr isbrydles, gan gau teitl yr isbrydles o ganlyniad. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl prydlesol newydd.

“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiatâd i roddiad yr isbrydles hon a allai fod yn ofynnol gan y brydles uwch, o’r hon y’i rhoddwyd.”

9. Cyfyngiadau

Mae cyfyngiadau’n rheoleiddio cofrestriad gwarediadau. Os yw trosglwyddiad o ran neu brydles yn cael eu dal gan delerau cyfyngiad ar deitl datblygwr, rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiad, oni bai:

  • bod y cyfyngiad ar Ffurf safonol P a bod y cais yn cynnwys rhyddhad o’r arwystl y cyfeirir ato yn y cyfyngiad, naill ai’n gyfan neu cyn belled ag y bo’n effeithio ar y tir a drosglwyddir neu a brydlesir (mae hyn oherwydd y caiff y cyfyngiad ei ddileu naill ai’n gyfan neu o ran fel rhan o’r cais i ryddhau)
  • bod y cyfyngiad yn cael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl naill ai yn gyfan neu cyn belled ag y bo’n effeithio ar y tir a drosglwyddir

Ar ôl ei gofnodi, mae cyfyngiad yn aros yn y gofrestr hyd nes iddo gael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl. Mae hyn yn golygu wrth gofrestru trosglwyddiad o ran, bydd unrhyw gyfyngiad a fydd yn ymddangos yn nheitl y datblygwr fel rheol yn cael ei gario ymlaen i deitl y trosglwyddai oni bai bod y cyfyngiad yn cael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl cyn belled ag y bo’n effeithio ar y tir a drosglwyddir gan ddefnyddio ffurflen RX3 neu ffurflen RX4. Gan fod cofrestriad prydles yn creu ystad newydd, ni chaiff cyfyngiad ei gario ymlaen o deitl y prydleswr pan fo prydles yn cael ei chofrestru.

Os yw’r cyfyngiad yn aros ar deitl y datblygwr, gallwch gyflwyno cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio unigol ar gyfer pob llain wrth gofrestru pob trosglwyddiad neu brydles. Fodd bynnag, yn achos trosglwyddiad, efallai y byddwch hefyd am i’r caniatâd neu’r dystysgrif ddatgan nad yw’r cyfyngiad i’w gario ymlaen i’r teitl newydd. Rhaid i’r cydsyniad/tystysgrif ac unrhyw ddatganiad i’r perwyl nad yw’r cyfyngiad i gael ei gario ymlaen fod gan y buddiolwr neu ei drawsgludwr. Os caiff ei roi gan drawsgludwr y buddiolwr, rhaid i eiriad y cydsyniad/tystysgrif gynnwys datganiad yn dweud bod y trawsgludwr yn gweithredu ar ran y buddiolwr.

Os yw cais i gofrestru trosglwyddiad o ran neu brydles yn cynnwys cais, naill ai yn y trosglwyddiad, cymal LR13 o brydles cymalau penodedig neu ffurflen RX1, i gofnodi cyfyngiad newydd ac i gofrestru arwystl, dylai’r ffurflen gais AP1 ddangos ym mhanel 4 trefn blaenoriaeth y ceisiadau i gofrestru’r cyfyngiad a’r arwystl. Os yw’r cyfyngiad yn dod i rym gyda blaenoriaeth dros yr arwystl a bod telerau’r cyfyngiad yn dal yr arwystl hwnnw, rhaid darparu unrhyw ganiatâd neu dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad.

Mae gwybodaeth bellach ynghylch cofnodi, effaith a thynnu cyfyngiadau ymaith i’w gweld yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.

9.1 Cydsyniadau neu dystysgrifau cydymffurfio swmp

Gallwch gyflwyno cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp lle bydd y cyfyngiad yn aros ar deitl y datblygwr ond ni ddylid ei gario ymlaen i’r tir a drosglwyddir.

Bydd angen i’r cydsyniad neu dystysgrif:

  • gael eu rhoi gan fuddiolwr y cyfyngiad neu ei drawsgludwr
  • pan fydd y cydsyniad neu dystysgrif yn cael eu rhoi gan drawsgludwr ar ran y buddiolwr, rhaid i’r trawsgludwr gadarnhau ei fod yn gweithredu ar ran buddiolwr y cyfyngiad
  • datgan yn glir na fwriedir i’r cyfyngiad gael ei gario ymlaen i unrhyw deitlau llain unigol
  • rhaid i dystysgrif cydymffurfio ddatgan naill ai y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r cymal cydymffurfio y cyfeirir ato yn y cyfyngiad neu, os yw telerau’r cyfyngiad yn ei ganiatáu, nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad

Gellir rhoi cydsyniad neu dystysgrif swmp gan ddefnyddio ffurflen RXC. Rhoddir canllawiau ar sut i lenwi’r ffurflen yn adran 3.1.6 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod trydydd parti yn y gofrestr. Pan roddir cydsyniad neu dystysgrif swmp mewn perthynas â lleiniau penodol, gellir cyfeirio at y rhain ym mhanel 4 neu banel 5 ffurflen RXC fel y bo’n briodol.

Rhaid i chi anfon y cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp i’r Tîm Datblygu yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF a fydd yn delio â’r datblygiad, gyda llythyr eglurhaol yn datgan ei fod yn gydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp yn ymwneud â’r datblygiad a enwir, a dyfynnu rhif(au) teitl y datblygwr.

10. Rhybuddion unochrog

Lle na ddylid trosglwyddo rhybudd unochrog i’r llain a drosglwyddir neu a brydlesir, gallwch gyflwyno ffurflen UN2 unigol ar gyfer pob llain neu brydles.

Os mai eich bwriad yw atal y rhybudd unochrog rhag cael ei gario ymlaen i’r teitl newydd a’i dynnu o deitl y datblygwr, sicrhewch eich bod yn gwneud hyn yn glir ar y ffurflen UN2.

Pan fydd y rhybudd yn effeithio ar fwy o dir nag sydd yn y llain a werthir neu a brydlesir, a’ch bod am ei dynnu ymaith mewn perthynas â’r llain a werthir neu a brydlesir yn unig, rhaid i chi nodi’r tir sy’n cael ei dynnu ymaith o’r rhybudd trwy un o’r canlynol.

  • Rhif llain ar fersiwn diweddaraf cynllun ystad cymeradwy.
  • Cyfeirnod sy’n bodoli ar gynllun teitl y datblygwr.
  • Trwy gynllun wedi ei atodi i’r ffurflen UN2.
  • Trwy gyfeirio at y cynllun yn llain y TP1 neu’r brydles.

11. Ffurflenni UN2 Swmp

Gellir cyflwyno cais UN2 swmp ar yr amod ei fod:

  • yn nodi’r lleiniau yr effeithir arnynt gan y rhybudd sydd i’w gwerthu neu eu prydlesu a allai fod trwy gyfeirio at rifau’r lleiniau ar fersiwn diweddaraf cynllun ystad cymeradwy neu gan gynllun sydd wedi ei atodi i’r ffurflen UN2 yn nodi’r lleiniau unigol i’w gwerthu neu eu prydlesu
  • yn rhoi eglurhad o pryd y gellir dileu pob llain o effaith y rhybudd (er enghraifft ar werthu’r llain)

Os ydych yn cyflwyno cais UN2 swmp, pan fyddwn yn cofrestru pob llain a gynhwysir yn y UN2, ni fyddwn yn trosglwyddo’r rhybudd i’r tir a drosglwyddir neu a brydlesir. Bydd y rhybudd yn aros ar deitl y datblygwr hyd nes y gwneir cais i’w dynnu o’r teitl hwnnw.

Rhaid i chi anfon y cais UN2 swmp i’r Tîm Datblygu yn y swyddfa Cofrestrfa Tir EF a fydd yn delio â’r datblygiad gyda llythyr eglurhaol yn datgan ei fod yn gais UN2 swmp yn ymwneud â’r datblygiad a enwir a dyfynnu rhif(au) teitl y datblygwr.

Mae rhagor o wybodaeth am gofnodi, effaith a dileu rhybuddion unochrog wedi ei chynnwys yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.

12. Gwneud cais

Dylid gwneud cais i gofrestru trosglwyddiad neu brydles rhan o deitl cofrestredig gan ddefnyddio ffurflen AP1. Rhaid i’r ceisydd ddadlennu unrhyw fuddion digofrestredig sy’n gor-redeg gwarediadau cofrestredig sydd o fewn gwybodaeth y ceisydd mewn gwirionedd ac sy’n effeithio ar yr ystad berthynol i’r cais.

13. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.