Am Fynegai Prisiau Tai y DU
Diweddarwyd 19 Awst 2025
1. Cyflwyniad
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU (UK HPI) yn cofnodi newidiadau mewn gwerth eiddo preswyl.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data gwerthiannau a gesglir ar drafodion tai preswyl, boed yn werthiannau am arian parod neu gyda morgais. Mae eiddo wedi cael ei gynnwys:
- yng Nghymru a Lloegr er Ionawr 1995
- yn yr Alban er Ionawr 2004
- yng Ngogledd Iwerddon er Ionawr 2005
Mae data ar gael ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â siroedd, awdurdodau lleol a bwrdeistrefi Llundain.
1.1 Ystadegyn Cenedlaethol
Dynodwyd Mynegai Prisiau Tai y DU fel Ystadegyn Cenedlaethol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym Medi 2018. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth, yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer. Mae llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Rheoleiddio yn manylu ar y camau a gymerwyd i fodloni’r gofynion fel y’u nodir yn adroddiad asesiad Mynegai Prisiau Tai y DU.
Cynhyrchiad ar y cyd gan Gofrestrfa Tir EF, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestri’r Alban yw Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU, a gyflwynwyd ym Mehefin 2016, yn cynnwys yr holl eiddo preswyl a brynir ar werth y farchnad yn y DU. Fodd bynnag, gan mai dim ond ar ôl i’r pryniadau gael eu cofrestru y mae gwerthiannau’n ymddangos ym Mynegai Prisiau Tai y DU, gall fod oedi cyn i’r trafodion fwydo i’r mynegai. Oherwydd hyn, fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau mewn prisiau yn y cyfnodau diweddaraf gan fod modd eu hadolygu. Darperir rhagor o wybodaeth yn ein polisi adolygu.
1.2 Cryfderau a chyfyngiadau
Nid yw Mynegai Prisiau Tai y DU mor amserol o ran cyhoeddi â mesurau mynegai prisiau tai eraill a gyhoeddir yn y DU oherwydd ei fod yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo, yn hytrach na phrisiau wedi eu hysbysebu neu wedi eu cymeradwyo.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn rhoi sylw eang i drafodion arian a morgais a ffynhonnell ddata fawr (cofrestriadau tir fel yr un a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF) sy’n caniatáu i ddata gael ei gyhoeddi hyd at lefel awdurdod lleol gyda dadansoddiad pellach ar gael yn ôl math o eiddo, statws y prynwr, statws ariannu a statws yr eiddo.
Dros dro yw’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd diweddaraf ac maent yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai. Er bod newidiadau i amcangyfrifon ar y lefel bennawd yn fach, gall y rhain fod yn fwy ar ddaearyddiaethau is o ganlyniad i’r llai o drafodion a ddefnyddir. Mae rhagor o fanylion o ran pam mae ein hamcangyfrifon yn newid i’w gweld yn ein polisi diwygiadau.
2. Ffynonellau data
Prif ffynonellau’r data pris a dalwyd a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU yw Cofrestrfa Tir EF Cymru a Lloegr, Cofrestri’r Alban a data Treth Tir Toll Stampiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer Mynegai Prisiau Eiddo Preswyl Gogledd Iwerddon.
Mae pob ffynhonnell data wedi cael ei hasesu yn erbyn y teclyn Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol (QAAD). Darllenwch ein crynodeb o Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Mynegai Prisiau Tai y DU neu mae adroddiadau unigol i’w gweld isod.
2.1 Cofrestrfa Tir EF Cymru a Lloegr
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwybodaeth am drafodion eiddo preswyl ar gyfer Cymru a Lloegr, a gesglir fel rhan o’r broses gofrestru swyddogol, ar gyfer eiddo a werthir am y pris marchnadol llawn. Mae’r set ddata yn cynnwys pris gwerthu’r eiddo, dyddiad cwblhau’r gwerthiant, manylion cyfeiriad llawn, y math o eiddo (h.y. tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras neu fflat), a yw’r eiddo yn adeilad newydd neu’n adeilad preswyl sefydledig, a newidyn i ddangos a yw’r eiddo wedi cael ei brynu fel trafodiad wedi ei ariannu (er enghraifft defnyddio morgais) neu fel trafodiad heb ei ariannu (pryniant arian parod).
Mae’r wybodaeth hon i gyd yn cael ei chyhoeddi gan Gofrestrfa Tir EF ar hyn o bryd yn ei Set Ddata Pris a Dalwyd, ac eithrio’r dangosydd statws ariannu. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd oherwydd ystyrir bod y data yn wybodaeth bersonol a byddai’n torri rheolau diogelu data.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yma – data Cofrestrfa Tir EF.
Eithriadau data
Mae nifer o gofrestriadau wedi eu heithrio o’r fersiwn o Ddata Pris a Dalwyd a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU, sef:
- pob trafodiad masnachol
- gwerthiannau nad oeddent am werth marchnadol llawn
- trosglwyddiadau, trawsgludiadau, aseiniadau neu brydlesi ar bremiwm gyda rhent nominal sy’n:
- werthiannau ‘hawl i brynu’ ar ddisgownt
- yn ddarostyngedig i forgais sydd eisoes yn bodoli
- i beri gwerthiant cyfranddaliad mewn eiddo
- trwy gyfrwng rhodd
- o dan orchymyn Prynu Gorfodol
- o dan orchymyn llys
- i Ymddiriedolwyr wedi eu penodi o dan Weithred Benodi
- Trosglwyddiadau Gweithredoedd Breinio neu Gydsyniadau
- o fwy nag un eiddo
- prydlesi am saith mlynedd neu lai
2.2 Cofrestri’r Alban
Mae Cofrestri’r Alban yn darparu gwerthiannau eiddo preswyl ar gyfer yr Alban wrth gyfrifo fersiwn newydd Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae data’r Alban yn dilyn proses debyg i’r Data Pris a Dalwyd lle mae’r data a ddarperir ar gyfer y Mynegai Prisiau Tai yn isgynnyrch o broses cofrestru eiddo’r Alban, lle y cyflwynir gwerthiannau eiddo i Gofrestri’r Alban pan fydd gwerthiant wedi ei gwblhau. Cesglir data o’r ceisiadau hyn a’i gofnodi ar System Cofrestru Tir Cofrestri’r Alban. Bob wythnos caiff darn o’r holl ddata gwerthiannau ei gymryd o’r System Cofrestru Tir a bydd proses sicrhau ansawdd yn gwirio’r pris a dalwyd, dyddiad cofnodi, math o eiddo (tir, masnachol, preswyl, coedwigaeth, amaethyddol ac arall) ac i nodi gwerthiannau preswyl gwerth marchnadol (yn hytrach na gwerthiannau anfarchnadol sy’n debyg i’r rhai a fanylir ar gyfer Data Pris a Dalwyd). Caiff y data hwn ei gyfuno â manylion pellach, megis cyfeiriad llawn a math o dŷ (tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras neu fflat), gan ddefnyddio cronfa ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol Cofrestri’r Alban i ddarparu ffynhonnell gynhwysfawr o ddata y gellir ei gyhoeddi bob mis i’w ddefnyddio yn y Mynegai Prisiau Tai newydd.
Yn ogystal, mae dangosydd statws ariannu a dangosydd adeilad newydd yn cael eu hychwanegu at y set ddata derfynol. Mae’r dangosydd statws ariannu yn nodi a yw ceisiadau i gofrestru gwerthiant preswyl gwerth marchnadol hefyd yn cynnwys cais i gofrestru gweithred morgais gwarant safonol. Mae pob cais gyda gweithred morgais yn werthiant morgais, ac mae pob cais heb weithred forgais yn cael ei farcio’n werthiant arian parod. Rhoddir dangosydd adeilad newydd i bob gwerthiant o eiddo unigol o deitl datblygu’r adeiladwr. Mae cwmpas data Cofrestri’r Alban ychydig yn wahanol i’r Data Pris a Dalwyd gan fod trafodion sy’n ymwneud ag eiddo preswyl lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes wedi eu cynnwys yn y set ddata hon.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – data Cofrestri’r Alban.
2.3 Data Gogledd Iwerddon
Bydd mynegai prisiau tai Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon yn parhau i gael ei gyfrifo a’i gyhoeddi bob chwarter. Bydd data Gogledd Iwerddon yn cael ei ddarparu i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bob chwarter, a chaiff ei gyfuno â data Prydain Fawr i roi’r cyfanswm ffigurau ar gyfer y DU. Cyfrifir y ffigur cyfan ar gyfer y DU trwy gadw’r prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon yn gyson ar gyfer y ddau fis yn dilyn diwedd y chwarter, pan nad yw canlyniadau Gogledd Iwerddon ar gyfer y chwarter diweddaraf ar gael eto. Cânt eu diwygio pan fydd y chwarter yn gyflawn.
Nid yw data sicrhau ansawdd Treth Tir Toll Stamp Cyllid a Thollau EF yn gyflawn eto. Bydd manylion ar gael pan fydd yr asesiad wedi ei gwblhau.
2.4 Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi – Arolwg Morgeisi Rheoledig
Yr Arolwg Morgeisi Rheoledig yw fersiwn Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi o’r Data Gwerthiannau Cynnyrch Morgeisi y mae pob rhoddwr benthyg rheoledig yn adrodd arno i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Data manwl yw hwn ar lefel trafodion morgeisi sydd wed eu cwblhau. Gan ddechrau yn Ebrill 2005, erbyn hyn mae’r Arolwg Morgeisi Rheoledig yn cynnwys dros 12 miliwn o gofnodion unigol o werthiannau morgeisi.
Fe’i cesglir yn electronig, gyda’r holl gwmnïau sy’n adrodd yn cyflwyno manylion yn unol â diffiniadau data penodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac ar ffurf xml safonol, gan sicrhau strwythur data cyson. Amcangyfrifir bod y data yn cwmpasu tua 95% o’r holl forgeisi rheoledig sydd wedi eu codi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw rhai rhoddwyr benthyg yn caniatáu i’w data gael ei drosglwyddo i drydydd partïon, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol, felly cyfran y farchnad sy’n cael ei gwmpasu gan y data a dderbynnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw tua 70%.
Mae meysydd adrodd yn cynnwys y pris prynu, dyddiad cwblhau’r gwerthiant eiddo, math o gymerwr benthyg (prynwr am y tro cyntaf neu rywun sy’n symud tŷ), eiddo newydd neu ail-law, math a maint yr annedd. Yr Arolwg Morgeisi Rheoledig yw’r unig ffynhonnell gynhwysfawr o ddata sydd ar gael ar gyfer y math o gymerwr benthyg ac mae’n rhoi’r data angenrheidiol er mwyn i’r Mynegai Prisiau Tai gael ei gynhyrchu yn ôl a yw’r prynwr yn brynwr am y tro cyntaf neu eisoes yn berchennog. Mae’r Arolwg Morgeisi Rheoledig hefyd yn ffynhonnell allweddol o ddata a ddefnyddir i gynhyrchu prisiau tai i’w cynnwys yn y Mynegai Prisiau Manwerthu, a bydd yn parhau felly yn y dyfodol agos.
Gwellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi.
3. Data nodweddion eiddo
Mae data cynhwysfawr ar gael ar bris eiddo a drafodwyd ar draws y DU; fodd bynnag, mae’r data prisiau hwn yn gyfyngedig o ran y manylion am nodweddion ffisegol yr eiddo.
Nid yw defnyddio data prisiau yn unig yn ddigonol i gyfrifo mynegai chwyddiannol ar gyfer prisiau tai oherwydd gall fod gwahaniaeth mawr yn y cyfansoddiad a’r math o eiddo a werthwyd rhwng cyfnodau. Felly, yn unol ag arferion gorau rhyngwladol cydnabyddedig, defnyddir atchweliad hedonig ac addasiad cymysgedd i gyfrif am y newid mewn cyfansoddiad.
Er mwyn i’r model atchweliad hedonig fod yn ddigonol ar gyfer y gwaith, rhaid cael manylion ynghylch nodweddion eiddo a werthwyd i ategu’r data pris a dalwyd. O ran cynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU, mae’r nodweddion hyn ar gael o nifer o ffynonellau swyddogol a ddisgrifir isod.
3.1 Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Y brif ffynhonnell o ddata nodweddion eiddo a gaiff ei defnyddio i ategu’r Data Pris a Dalwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yw’r data gweinyddol o Restr Brisio’r Dreth Gyngor a gedwir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn gyfrifol am fandio eiddo ar gyfer y Dreth Gyngor ers i’r dreth gael ei chyflwyno gyntaf yn 1993; cyn hynny, roedd yn gyfrifol am y system gynharach o ardrethi domestig. Mae Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor yn ffynhonnell gadarn o ddata nodweddion eiddo (megis maint yr eiddo) sy’n cwmpasu, mewn egwyddor, pob eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio
3.2 Rhestr Brisio Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon
Mae Gwasanaethau Tir ac Eiddo yn cadw rhestr o’r eiddo yng Ngogledd Iwerddon sy’n cael eu prisio at ddibenion ardrethi. Mae’r data yn cael ei gynnal a’i ddilysu mewn modd tebyg i ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio a ddisgrifir uchod. Mae cronfa ddata’r Rhestr Brisio yn cynnwys yr holl nodweddion eiddo sy’n ofynnol ar gyfer yr atchweliad hedonig a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Eiddo Preswyl Gogledd Iwerddon.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Rhestr Brisio Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon.
3.3 Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban
Defnyddir Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban i ddarparu arwynebedd llawr yr eiddo a nifer yr ystafelloedd cyfanheddol sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo’r Mynegai Prisiau Tai newydd. Caiff y wybodaeth hon ei gwirio yn erbyn y data pris a dalwyd a ddarperir gan Gofrestri’r Alban (gan ddefnyddio manylion cyfeiriad yr eiddo).
Cael mynediad i sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban.
3.4 Dosbarthiad ACORN
Un o’r prif nodweddion sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo, megis cyfoeth y bobl hynny sy’n byw yn yr ardal. Mae segmentu geo-ddemograffig sefydledig o’r DU ar gael trwy set ddata Acorn, wedi ei chynhyrchu a’i thrwyddedu gan CACI Ltd. Mae Acorn yn segmentu codau post yn gategorïau a grwpiau trwy ddadansoddi ffactorau ac ymddygiadau cymdeithasol arwyddocaol. Defnyddir set ddata Acorn i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon a Mynegai Prisiau Tai y DU.
Gwellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Acorn (CACI Ltd).
4. Cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae’r ddogfen Quality and Methodology yn cynnwys gwybodaeth bwysig am:
- gryfderau a chyfyngiadau’r data
- defnyddwyr
- defnyddwr y data
- sut y crëwyd yr allbwn
- ansawdd yr allbwn, gan gynnwys cywirdeb y data
4.1 Methodoleg
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio model atchweliad hedonig sy’n manteisio ar y ffynonellau data amrywiol ar brisiau eiddo (er enghraifft y set ddata Pris a Dalwyd) a nodweddion eiddo i gynhyrchu’r amcangyfrifon diweddaraf o’r newid mewn prisiau tai ar gyfer pob cyfnod.
Mae rhagor o fanylion am y dull hwn i’w gweld yn Adran 3 ein dogfen cyfarwyddyd Quality and Methodology.
4.2 Egluro’r Cymedr Geometrig
Ceir ffyrdd gwahanol o gyfrifo prisiau cyfartalog, gan gynnwys y cymedr rhifyddol (y cymedr syml), y cymedr geometrig a’r canolrif.
Mae’r cymedr rhifyddol yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan yr ychydig eiddo gwerth uchel ac felly ni fydd yn adlewyrchiad cywir o bris cyfartalog eiddo safonedig.
Mae’r cymedr geometrig yn lleihau’r pwysiad a roddir i eiddo gwerth uchel o’i gymharu â’r cymedr rhifyddol ac fel arfer mae’n is ac yn agosach i’r canolrif.
Ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU, cyfrifir y pris tŷ cyfartalog safonol trwy gymryd y pris cyfartalog (y cymedr geometrig) yn Ionawr 2015 ac yna ei ail-gyfrifo yn unol â’r newid mynegai mewn cyfnod blaenorol ac ymlaen hyd heddiw.
Mae cyfartaledd newidiol o 3 mis wedi cael ei gymhwyso i amcangyfrifon o dan y lefel ranbarthol. Er enghraifft, ar lefel awdurdod lleol, mae’r amcangyfrif cyhoeddedig ar gyfer Mawrth yn gyfartaledd syml o’r amcangyfrifon a gyfrifwyd ar gyfer Ionawr, Chwefror a Mawrth. Mae hyn yn helpu i ddileu peth o’r ansefydlogrwydd yn y gyfres ar y lefel hon. Mae ansefydlogrwydd yn parhau yn yr amcangyfrifon ar gyfer awdurdodau lleol sydd â llai o drafodion, megis Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Orkney, Dinas Llundain a Na h-Eileanan. Nid yw amcangyfrifon Gogledd Iwerddon wedi eu heffeithio gan hyn oherwydd maent ar gael bob chwarter yn unig.
4.3 Newidiadau mewn prisiau misol a blynyddol
Yn syml, y newid canrannol ‘blynyddol’ mewn prisiau tai yw’r newid mewn pris o’i gymharu â’r un mis ddeuddeg mis yn gynharach. Er enghraifft, os yw’r Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Chwefror, mae’r newid mewn pris ‘blynyddol yn nodi’r newid canrannol mewn gwerthoedd o’i gymharu â Chwefror y flwyddyn flaenorol.
Mae’r gyfradd flynyddol hon o newid mewn pris yn adlewyrchu’r amcangyfrifiad gorau ar gyfer faint y mae gwerth eiddo cyffredin wedi newid dros y deuddeg mis blaenorol. Yn yr un modd â’r newid ‘blynyddol’, mae’r newid canrannol ‘misol’ yn amcangyfrif y newid canrannol mewn prisiau tai cyfartalog o’i gymharu â’r mis blaenorol.
4.4 Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis. Weithiau mae’r cyfnod rhwng gwerthu a chofrestru yn hirach na dau fis; mae hyn yn arbennig o wir yn achos adeiladau newydd. Er enghraifft, caiff ein hamcangyfrif dros dro (cyntaf) ar gyfer mis penodol ei gyfrifo ar sail tua 40% o’r trafodion a fydd yn y pen draw yn cael eu cofrestru gyda’r ail a’r trydydd amcangyfrif a gyfrifir ar sail ar tua 80% a 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae diwygiadau i amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU yn digwydd wrth i’r mynegai gael ei ailgyfrifo i gynnwys y trafodion ychwanegol hyn.
Mae trafodion yn ymwneud â chreu cofrestr newydd megis adeiladau newydd yn fwy cymhleth ac mae cynnydd mewn ceisiadau wedi creu ôl-groniad. O ganlyniad, mae amserau prosesu yn hirach. Darllenwch am yr hyn rydym wedi ei wneud i leihau ein hôl-groniad, ein safonau gwasanaeth a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r tabl isod yn crynhoi’r polisi diwygio ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU.
| Amlder cyhoeddi | Amlder diwygiadau | Y cyfnod diwygio a gwmpasir | Rheswm |
|---|---|---|---|
| Misol | Misol (Chwarterol ar gyfer data Gogledd Iwerddon) | 12 mis blaenorol (4 chwater ar gyfer Gogledd Iwerddon) | Cynnwys trafodion cofrestredig ychwanegol |
| Ad hoc neu ddiwygiadau eraill | Y set ddata gyfan | - Gwelliannau i’r fethodoleg - Diwygiadau graddfa fawr i’r gyfres ddata hanesyddol - Prosesu gwallau |
Diwygio misol
Fel enghraifft, yn y wybodaeth a ryddhawyd ym Mehefin 2017, a oedd yn cynnwys data hyd at Fawrth 2017, cafodd prisiau cyfartalog, mynegeion, cyfraddau twf a nifer y gwerthiannau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer pob mis rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017 eu diwygio. Cafodd data chwarterol Gogledd Iwerddon ei ddiwygio yn ôl i chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2016. Gall hyn fod yn wahanol i bolisi diwygio Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon a gyhoeddir gan Wasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon.
Diwygiadau eraill
O bryd i’w gilydd bydd yn rhaid gwneud diwygiadau y tu allan i’r cyfnod arferol. Mae enghreifftiau o ddiwygiadau o’r fath yn cynnwys gwelliannau i’r fethodoleg, diwygiadau i ddata a darganfod data anghywir trwy weithdrefnau sicrhau ansawdd cynhwysfawr. Caiff pob un o’r diwygiadau hyn eu harchwilio i weld a yw’r effeithiau yn arwyddocaol o ran graddfa’r newid neu a yw’r newidiadau yn effeithio ar y darlun y mae’r data yn ei bortreadu. Os nad yw diwygiadau sy’n codi trwy welliannau i’r fethodoleg neu newidiadau i ddata ffynhonnell yn arwyddocaol, cânt eu cyflwyno yn y gyfres nesaf o ddiwygiadau a ddisgwylir yn unol â’r amserlen uchod.
Fodd bynnag, os bernir bod y diwygiadau hyn yn effeithio ar y dadansoddiad neu eu bod yn ddigon mawr, cânt eu cyflwyno’n gyflymach.
Os yw data anghywir yn cael ei ddarganfod ar ôl cyhoeddi, cânt eu harchwilio hefyd i asesu ei effaith. Os yw’r newidiadau yn arwyddocaol, cyhoeddir rhybudd cywiro cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a bydd mân gywiriadau yn cael eu cynnwys yn y data nesaf a gaiff ei ryddhau. Ym mhob achos caiff esboniad llawn ei gynnwys fel rhan o’r cyhoeddiad.
I weld y diwygiadau misol neu’r diwygiadau ad hoc diweddaraf i ddata blaenorol, gweler y tablau a ddarperir ar y tudalennau lawrlwythiadau data o’n prif dudalen.
4.5 Addasiadau tymhorol
Cyfrifir cyfresi wedi eu haddasu’n dymhorol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn unig. Mae’r data hwn i’w weld yn y tablau data.
4.6 Chwyddiant
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn mesur newidiadau nominal mewn prisiau tai ac ni chaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant. Gall defnyddwyr Mynegai Prisiau Tai y DU wneud eu cyfrifiadau chwyddiant eu hunain ac addasu Mynegai Prisiau Tai y DU yn unol â hynny.
4.7 Ardaloedd awdurdodau lleol bach heb eu dangos ar Fynegai Prisiau Tai y DU
Oherwydd y nifer fach o werthiannau ar gyfer yr ardaloedd hyn, ni fyddai Mynegai Prisiau Tai y DU bob amser yn darparu mesur dibynadwy o’r symudiad mewn prisiau. Efallai y bydd modd gwneud hyn wrth i’r data gynyddu.
4.8 Niferoedd diweddar heb eu hadrodd
Ceir data nifer y gwerthiannau rhannol ar gyfer y misoedd yn union cyn rhyddhau Mynegai Prisiau Tai y DU. Fodd bynnag, ni chaiff ei gyhoeddi oherwydd nid yw’r data yn gyflawn. Ein nod yw adrodd ar wybodaeth gywir a dibynadwy ac felly nid ydym am ryddhau data nifer y gwerthiannau a allai fod yn gamarweiniol os caiff ei ddyfynnu allan o gyd-destun.
4.9 Gwelliannau i amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU
Gwelliannau yn 2017
Ym Mai 2017 (data Mawrth 2017), cyflwynwyd ffactor addasu dros dro, yn seiliedig ar y diwygiadau a welwyd mewn cyfnodau blaenorol, i helpu i reoli anwadalrwydd yr amcangyfrifon ar gyfer trafodion adeiladau newydd. Er bod y dull hwn wedi gwella diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ychydig bach, ymchwiliwyd i ateb hirdymor gwell, a chafodd ei weithredu o 12 Rhagfyr 2017.
O 12 Rhagfyr 2017, mae’r dadansoddiad o adeiladau newydd/sy’n bodoli wedi cael ei atal am y ddau fis diweddaraf (y ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon) er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod mwy o ansicrwydd yn amcangyfrifon dros dro y dadansoddiad o adeiladau newydd. Nid yw dadansoddiadau eraill ar gyfer ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU wedi eu hatal am y ddau gyfnod diweddaraf oherwydd cyfanswm nifer y trafodion digonol a’r pwysiad cymharol fach (tua 9%) ar gyfer adeiladau newydd yn y brif gyfres.
O 12 Rhagfyr 2017, rhoddwyd cyfrif gwell gennym am y nifer isel o drafodion adeiladau newydd sydd ar gael i’w cynnwys ym model Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf trwy gyflwyno model atchweliad gostyngol ar gyfer cyfrifo’r amcangyfrif cyntaf yn unig. Cynyddodd y gwelliant model hwn gywirdeb ein hamcangyfrifon cyntaf.
Mae rhagor o fanylion am y gwelliant model atchweliad gostyngol hwn ar gael yn ein blog ac yn yr is-adran “Cyfrifo’r amcangyfrifon cyntaf” o adran 3.2 o’n dogfen Ansawdd a methodoleg. Trafodir effaith y gwelliant hwn ymhellach isod.
Ffigur 1: Cyfradd twf 12 mis ar gyfer amcangyfrif cyntaf ac amcangyfrif terfynol Mynegai Prisiau Tai y DU, Prydain Fawr

Notes:
1. UK HPI has a 12 month revision policy; data within this period are still subject to revision.
2. Great Britain data is presented here only as Northern Ireland data is processed separately by LPSNI.
Mae polisi safonol gan Fynegai Prisiau Tai y DU o gyfnod diwygio 12 mis er mwyn adlewyrchu’r amser y mae ei angen i drafodion eiddo gael eu prosesu a bod ar gael mewn data prisiau a data nodweddion eiddo i’w cynnwys yng nghyfrifiadau Mynegai Prisiau Tai y DU. Fodd bynnag, er y gellid disgwyl i ddiwygiadau fod ar i fyny ac ar i lawr, mae amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU yn tueddu i gael eu diwygio ar i lawr yn bennaf rhwng yr amcangyfrif dros dro (1af) ar gyfer mis penodol a’r amcangyfrif diwygiedig terfynol (13eg) ar gyfer yr un mis.
Yn 2017, cadarnhaodd dadansoddiad o ddiwygiadau hanesyddol Mynegai Prisiau Tai y DU (yn enwedig y rhai tua diwedd 2016, a gyflwynir yn Ffigur 1) fod y diwygiadau ar i lawr hanesyddol wedi eu hysgogi’n bennaf gan y ffaith bod yr amcangyfrif dros dro cyntaf ar gyfer y dadansoddiad o adeiladau newydd yn rhy uchel. Er bod adeiladau newydd yn cyfrif am oddeutu 9% o’r holl drafodion yn y pen draw, roeddent yn cyfrannu at dros 80% o’r diwygiad ar ddiwedd 2016.
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gall gymryd yn hirach iddynt ymddangos yng nghofrestr Cofrestrfa Tir EF a’i fod yn arwain at gyfan is o werthiannau adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo’r pris cychwynnol a’r amcangyfrifon mynegai nag ar gyfer adeiladau sy’n bodoli. Mae hyn yn golygu bod llai o drafodion adeiladau newydd ar gael inni wrth baratoi ein hamcangyfrif cyntaf sy’n effeithio ar ddibynadwyedd ein hamcangyfrif cyntaf ar gyfer y dadansoddiad hwn.
Dangosir y nifer llai o drafodion adeiladau newydd sydd ar gael ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf yn Nhabl 1, sy’n cyflwyno nifer y trafodion a ddefnyddiwyd yn yr amcangyfrif cyntaf yn ystod 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Tabl 1: Nifer y trafodion yn yr amcangyfrif cyntaf, Cymru a Lloegr
| Amser | Adeilad newydd | Eiddo sy’n bodoli |
|---|---|---|
| Gorffennaf 2016 | 131 | 26,930 |
| Awst 2016 | 128 | 30,213 |
| Medi 2016 | 85 | 29,988 |
| Hydref 2016 | 96 | 28,634 |
| Tachwedd 2016 | 138 | 24,438 |
| Rhagfyr 2016 | 131 | 28,189 |
Sylwer: ni chyflwynir data ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yma.
Dangosodd dadansoddiad 2017 er bod nifer y trafodion adeiladau newydd a adroddir yn yr amcangyfrif cyntaf yn fach, erbyn y trydydd amcangyfrif roeddent yn cyfrif am oddeutu un rhan o ddeg o’r holl drafodion (oddeutu 7,000 i 8,000 o drafodion).
Roedd tystiolaeth hefyd fod eiddo drutach yn cael eu cofrestru ychydig yn gyflymach nag eiddo arall, gan esbonio pam y cafodd amcangyfrifon adeiladau newydd eu diwygio ar i lawr wedi hynny, wrth i drafodion adeiladau newydd llai drud gael eu cynnwys yn y mynegai yn ddiweddarach.
Daeth dadansoddiad 2017 i’r casgliad nad yw maint y data adeiladau newydd ar gyfer yr amcangyfrif misol cyntaf yn gynrychioliadol o’r trafodion adeiladau newydd sy’n cael eu cofrestru ychydig yn ddiweddarach, a bod maint y data adeiladau newydd yn rhy isel ar gyfer y model atchweliad hedonig llawn (Hafaliad 1 yn Ansawdd a methodoleg) er mwyn gallu cynhyrchu canlyniadau dibynadwy ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf. Gyda’i gilydd, arweiniodd hyn at ddiwygiadau ar i lawr ym mhris adeiladau newydd yn yr amcangyfrifon diwygiedig dilynol.
Ym Mai 2017 (data hyd at Fawrth 2017) cyflwynwyd ffactor addasu dros dro, yn seiliedig ar y diwygiadau a welwyd mewn cyfnodau blaenorol, i helpu i reoli anwadalrwydd yr amcangyfrifon ar gyfer trafodion adeiladau newydd. Fel y gwelir yn Ffigur 1, roedd y dull hwn wedi gwella diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU oherwydd o oddeutu Mawrth 2017 roedd y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r amcangyfrif terfynol wedi lleihau.
Parhaodd yr ymchwiliad ac o 12 Rhagfyr 2017 (data hyd at Hydref 2017), gweithredwyd ateb hirdymor gwell. Cafodd sawl dull ei brofi cyn dewis yr ateb hirdymor hwn. Roedd y rhain yn cynnwys:
-
cyfrifo ffactorau addasiad tuedd gan ddefnyddio dull cyfres amser
-
cyfrifo ffactor addasiad tuedd yn seiliedig ar y diwygiadau a welwyd mewn cyfnodau blaenorol
-
model amcangyfrif gostyngol wrth gyfrifo’r amcangyfrif cyntaf
Dewiswyd yr ateb a weithredwyd (model amcangyfrif gostyngol Hafaliad 2 yn Ansawdd a methodoleg) oherwydd roedd yn arwain at y diwygiadau lleiaf dros amser ar gyfer gwledydd Prydain Fawr. Arweiniodd hefyd at ddiwygiadau cadarnhaol a negyddol ar gyfer y cyfnodau a brofwyd. Dau fudd ychwanegol a welwyd ar gyfer y model amcangyfrif gostyngol o’i gymharu â’r dull ffactor addasiad tuedd oedd:
-
roedd yn haws ei weithredu yn ein proses gynhyrchu
-
roedd yn ymateb yn gyflymach i newidiadau yn strwythur y data trafodion dros amser (megis lleihad yn yr ôl-groniad)
Cyflwynir ein gwelliant methodolegol a weithredwyd a’i effaith (pe bai wedi ei gymhwyso’n hanesyddol) yn fwy manwl isod.
Mae’r model atchweliad hedonig llawn (Hafaliad 1 yn Ansawdd a methodoleg) yn cynnwys y newidynnau canlynol:
-
ardal awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr ac ardal marchnad dai yng Ngogledd Iwerddon
-
newidyn dosbarthiad ardal Acorn (grwpiau)
-
math o eiddo (tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras, fflat neu fflat deulawr)
-
arwynebedd llawr (metrau sgwâr)
-
nifer yr ystafelloedd
-
eiddo newydd neu eiddo sy’n bodoli
Ar gyfer y model atchweliad gostyngol, mae’r newidyn ‘eiddo newydd neu sy’n bodoli’ wedi ei eithrio o’r model amcangyfrif. O ddatganiad 12 Rhagfyr 2017 (data hyd at Hydref 2017), mae’r model atchweliad gostyngol hwn wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r amcangyfrif cyntaf yn unig. Mae’r model amcangyfrif ar gyfer cyfnodau eraill yn parhau i ddefnyddio’r model atchweliad llawn (Hafaliad 1 yn Ansawdd a methodoleg).
Mae nifer y trafodion adeiladau newydd sydd ar gael i’w cynnwys yn Mynegai Prisiau Tai y DU yn uwch ar gyfer yr ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol. Daeth dadansoddiad 2017 i’r casgliad fod nifer y trafodion adeiladau newydd yn ddigon uchel erbyn yr ail amcangyfrif i fod yn ddigonol i gynnwys y newidyn ‘eiddo newydd neu sy’n bodoli’ yn y model amcangyfrif, felly mae’r ail amcangyfrif ymlaen yn parhau i ddefnyddio’r model atchweliad llawn.
Ffigur 2: Cyfradd twf 12 mis ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf, terfynol a’r cyntaf o dan y dull newydd, Prydain Fawr

Notes:
1. UK HPI has a 12 month revision policy; data within this period are still subject to revision.
2. Great Britain data is presented here only as Northern Ireland data is processed separately by LPSNI.
Cyflwynir effaith cymhwyso’r gwelliant hwn yn hanesyddol yn Ffigur 2 uchod. Er y byddai diwygiadau i’w gweld o hyd, o dan y dull wedi ei wella, byddent wedi bod yn llai ac yn gadarnhaol ac yn negyddol. Cyhoeddwyd ein bwriad i weithredu’r gwelliant hwn yn 2017 yn y ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU ac mae gwella cywirdeb ein hamcangyfrifon cyntaf.
Gwelliannau yn 2020
Cafodd pandemig y coronafeirws yn 2020 a 2021 effaith fawr ar y farchnad dai. Roedd cyflwyno mesurau diogelu iechyd dros dro y llywodraeth i leihau lledaeniad y coronafeirws wedi arwain at leihad sylweddol yn nifer y trafodion eiddo ac amseroldeb y data trafodion prisiau oedd ar gael i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU yn 2020.
Cafodd datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU ei atal dros dro rhwng 20 Mai 2020 ac 19 Awst 2020. Yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau interim, ailddechreuodd amserlen rhyddhau arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 21 Hydref 2020.
Effeithiwyd ar y broses cofrestru data trafodion yn y cyfnod hwn, gyda phrosesu adeiladau newydd yn cael ei effeithio mwy na phrosesu eiddo sy’n bodoli.
Er mwyn rhoi cyfrif am y lleihad yn nifer y trafodion adeiladau newydd yn y cyfnodau diweddar sydd ar gael ar gyfer cyfrifiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, cyflwynwyd dull “cronni adeiladau newydd” dros dro ar gyfer trafodion Cymru a Lloegr o ddatganiad 19 Awst 2020.
Roedd y dull “cronni adeiladau newydd” yn cyfuno trafodion adeiladau newydd (Cymru a Lloegr yn unig) o’r mis blaenorol â phob trafodiad ym Mhrydain Fawr (trafodion eiddo newydd ac sy’n bodoli) ar gyfer y mis cyfredol. Cafodd y “cronni” hwn ei gymhwyso ar gyfer amcangyfrifon penodol ym mhob datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU (yr 2il i’r 7fed amcangyfrif ar gyfer pob datganiad fel arfer). Adroddodd Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau a phob datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU misol er 19 Awst 2020 ar gyfer pa fisoedd y cymhwyswyd “cronni adeiladau newydd” yn y datganiad diweddaraf.
Mae’r dull cronni adeiladau newydd dros dro wedi cael ei adolygu’n rheolaidd a chaiff ei derfynu o ddatganiad 22 Hydref 2025 (data hyd at Awst 2025). Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr is-adran Gwelliannau yn 2025.
Gwelliannau yn 2023
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol, a elwir Acorn (wedi ei gynhyrchu a’i drwyddedu gan CACI Ltd), yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn cyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi cael eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond rhoddir llai o bwysiad iddynt yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir yn adran 3.2 o’n dogfen Ansawdd a methodoleg.
Mae’r gwelliant methodoleg hwn yn alinio sut mae trafodion â dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniad ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Gwelliannau yn 2024
Yn dilyn pandemig y coronafeirws a newidiadau treth dir y dreth stamp yn 2020 a 2021, gwelwyd newidiadau byrdymor yn ymddygiad y farchnad ac amrywiad mawr yn nifer y trafodion misol. Arweiniodd hyn, ynghyd â lleihad yng nghyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr (adroddodd CThEF leihad o 22% yn 2023) a lleihad yng nghyfran y trafodion a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF mewn pryd ar gyfer amcangyfrifon cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU, at gyfanswm nifer y trafodion is oedd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau diweddar. Effeithiwyd yn arbennig ar argaeledd data adeiladau newydd.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF wedi cydweithio i wella nifer y trafodion sydd ar gael i’w defnyddio ym Mynegai Prisiau Tai y DU a lleihau maint y diwygiadau.
Roedd Cofrestrfa Tir EF wedi lleihau’n sylweddol yr amser a gymerir i brosesu 95% o ddata trafodion, gan ei leihau o 17.5 mis i 11.9 mis yn ystod y flwyddyn 2024/25, fel yr adroddir yn Adroddiad perfformiad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer 2024/25.
Roedd Gweithgor Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cytuno ar y cyd i gynnal cyfnodau diwygio estynedig yn 2024 i ymgorffori’r data trafodion prisiau ychwanegol a oedd bellach ar gael ar gyfer cyfnodau blaenorol yng nghyfrifiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, er mwyn gwella cywirdeb amcangyfrifon hanesyddol Mynegai Prisiau Tai y DU yn y cyfnodau a effeithiwyd.
Ar 20 Mawrth 2024 ac 17 Ebrill 2024, diwygiwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2021 i heddiw, er mwyn defnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn natganiad 20 Mawrth 2024, roedd cyfrifiadau trafodion arian parod a morgeisi yn anghywir ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022. Cywirwyd y rhain yn natganiad 17 Ebrill 2024.
Ar 18 Medi 2024, diwygiwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 i heddiw er mwyn gwneud defnydd o’r data prisiau pellach a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio arferol 12 mis Mynegai Prisiau Tai y DU.
Erbyn diwedd 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf). Mae cyflymder gwasanaeth Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwybodaeth fanwl am amseroedd cwblhau cyfartalog ar gyfer ceisiadau newydd a cheisiadau sy’n bodoli. Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac adeiladau newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella.
Gwelliannau yn 2025
Roedd gwelliannau yn 2017 (gweler is-adran Gwelliannau yn 2017) wedi lliniaru goramcangyfrif amcangyfrifon cynnar o adeiladau newydd wedi ei ysgogi gan y nifer isel o drafodion adeiladau newydd yn y misoedd diweddaraf. Er bod y gwelliannau hyn yn 2017 wedi lleihau maint y diwygiadau ar i lawr ychydig bach, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Mynegai Prisiau Tai y DU wedi parhau i weld diwygiadau ar i lawr rhwng yr amcangyfrif dros dro (1af) ar gyfer mis penodol a’r amcangyfrif diwygiedig terfynol (13eg) ar gyfer yr un mis.
Nododd papur Ionawr 2025 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyflwynwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i’r Panel Cynghori Technegol ar Brisiau Defnyddwyr (APCP-T), ysgogydd ychwanegol y tu ôl i’r goramcangyfrif o amcangyfrifon cynnar ar gyfer adeiladau newydd: yr amser cynyddol i adeiladau newydd fod ar gael mewn data nodweddion eiddo ar gyfer Cymru a Lloegr. Er mwyn targedu a dileu’r ffynhonnell hon o oramcangyfrif amcangyfrifon dros dro o adeiladau newydd, cynigiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i gyfrifiad misol Mynegai Prisiau Tai Prydain Fawr.
Cyflwynodd papur Ebrill 2025 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddadansoddiad rhagarweiniol o sawl opsiwn ar gyfer gwella’r cyfrifiadau misol ym model Mynegai Prisiau Tai Prydain Fawr. Cynigiodd y papur weithredu (cyfrifiad K cymydog agosaf) i newidynnau nifer yr ystafelloedd (ar gyfer Prydain Fawr) ac arwynebedd llawr (Cymru a Lloegr). Mae Tabl 2 yn crynhoi’r gwelliant i’r dulliau.
Tabl 2: Gwelliant dulliau cyfrif ar gyfer Prydain Fawr
| Newidyn | Dull blaenorol | Dull wedi ei wella |
|---|---|---|
| Arwynebedd llawr | Cymru a Lloegr: wedi ei osod i sero | Cymru a Lloegr: wedi ei gyfrif trwy ddefnyddio’r cyfrifiad 10 cymydog agosaf |
| Arwynebedd llawr | Yr Alban: wedi ei osod i sero | Yr Alban: wedi ei osod i sero |
| Nifer yr ystafelloedd | Prydain Fawr: dangosydd ar goll | Prydain Fawr: wedi ei gyfrif trwy ddefnyddio’r cyfrifiad 10 cymydog agosaf |
Dangosodd y dadansoddiad y byddai’r gwelliant methodolegol hwn yn lleihau’r goramcangyfrif mewn amcangyfrifon dros dro cynnar o brisiau adeiladau newydd ym Mhrydain Fawr, a thrwy hynny gwella maint y diwygiadau ar i lawr yn y dadansoddiad o adeiladau newydd a phrif amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU.
Rhoddodd APCP-T gefnogaeth i weithredu gwelliant cyfrif arfaethedig y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’i chynlluniau ar gyfer adolygiad ehangach o ddulliau Mynegai Prisiau Tai y DU yn y dyfodol. Ar 28 Mai 2025, cytunodd Gweithgor Mynegai Prisiau Tai y DU yn unfrydol i weithredu gwelliant cyfrif arfaethedig y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae Ffigur 3 yn dangos yr effaith y byddai’r gwelliant cyfrif hwn wedi ei chael ar gyfradd chwyddiant flynyddol y DU ar gyfer adeiladau newydd pe bai’r gwelliant hwn wedi cael ei weithredu ar 18 Mehefin 2025 (data hyd at Ebrill 2025).
Ffigur 3: Cyfradd chwyddiant blynyddol adeiladau newydd yn y DU ar gyfer yr hen ddull yn erbyn y dull wedi ei wella

Ar 16 Gorffennaf 2025, adroddwyd mai 29.9% oedd chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU ar gyfer Mawrth 2025 (3ydd amcangyfrif diwygiedig) a 26.5% ar gyfer Chwefror 2025 (4ydd amcangyfrif diwygiedig). Mae’r amcangyfrifon hyn o chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU yn fwy na dwbl y lefel uchaf erioed yn hanesyddol (data y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis Mynegai Prisiau Tai y DU) sef 13.1% yn y 12 mis hyd at Fai 2016.
Gan fod dadansoddiad o amcangyfrifon hanesyddol o chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU yn dangos bod amcangyfrifon bob amser wedi cael eu diwygio ar i lawr rhwng yr amcangyfrif 1af a’r 13eg amcangyfrif (terfynol), disgwylir y byddai’r amcangyfrifon dros dro cynnar hyn o chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU wedi cael eu diwygio ar i lawr mewn datganiadau misol dilynol o dan yr hen fethodoleg.
Mae Ffigur 3 yn dangos, o dan y fethodoleg wedi ei gwella, ar 16 Gorffennaf 2025, byddai chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU wedi cael ei adrodd yn 12.1% ar gyfer Mawrth 2025 (3ydd amcangyfrif diwygiedig) a 9.1% ar gyfer Chwefror 2025 (4ydd amcangyfrif diwygiedig). Byddai’r amcangyfrifon hyn wedi bod o dan y lefel uchaf erioed yn hanesyddol sef 13.1% ym Mai 2016, ac yn cynrychioli amcangyfrifon mwy realistig o chwyddiant blynyddol adeiladau newydd y DU na’r amcangyfrifon dros dro a gyhoeddwyd o dan yr hen fethodoleg ar 16 Gorffennaf 2025.
Bydd y gwelliant hwn i’r cyfrifiad misol ar gyfer Prydain Fawr yn cael ei weithredu o ddatganiad 20 Awst 2025 (data hyd at Fehefin 2025). Bydd y gwelliant cyfrif yn cael ei gymhwyso o amcangyfrif Ionawr 2025 ymlaen i atal newid sylweddol canol blwyddyn mewn methodoleg. Nod y gwelliant hwn yw lleihau maint yr adolygiad cyffredinol ym mhrif amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU trwy leihau goramcangyfrif prisiau adeiladau newydd mewn amcangyfrifon dros dro ar gyfer y misoedd diweddaraf.
Ar ôl cael ei gyflwyno i liniaru effaith cofrestriad llai amserol ar gyfer trafodion eiddo, lleihaodd yr angen am y dull ‘cronni adeiladau newydd’ dros dro (gweler is-adran Gwelliannau yn 2020) yn 2024 ar ôl i Gofrestrfa Tir EF ddychwelyd i brosesu dros 40% o werthiannau ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dangosodd papur Ebrill 2025 y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y gwelliant cyfrif yn fwy effeithiol wrth leihau goramcangyfrif amcangyfrifon dros dro o adeiladau newydd na’r dull ‘cronni adeiladau newydd’ dros dro a gyflwynwyd yn 2020.
Oherwydd gwell amseroldeb data trafodion a chyflwyno’r gwelliant cyfrif hwn, bydd y dull ‘cronni adeiladau newydd’ dros dro yn cael ei derfynu o ddatganiad 22 Hydref 2025 (data hyd at Awst 2025).
Byddwn yn parhau i fonitro diwygiadau i Fynegai Prisiau Tai y DU bob mis er mwyn sicrhau bod ein hamcangyfrifon cyntaf yn parhau i fod yn gywir ac yn ddibynadwy. Cyhoeddir tablau diwygiadau ochr yn ochr â lawrlwythiadau data Mynegai Prisiau Tai y DU bob mis er mwyn darparu mwy o dryloywder i ddefnyddwyr.
5. Adfeddiannau
Mae manylion am werthiannau adfeddiannu ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig.
Yn Awst 2016, dechreuwyd adrodd ar ddata adfeddiannu ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer mis Ebrill 2016.
Ar gyfer Lloegr, nifer yr adfeddiannau a gofnodir yn ôl Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth a ddangosir ar ffurf tabl ac mewn map gwres yw hwn. Mae’r data ar gael i’w lwytho i lawr fel ffeil .csv hefyd.
Ar gyfer Cymru, ceir prif ffigur ar gyfer nifer yr adfeddiannau a gofnodir yng Nghymru. Mae’r data hwn wedi ei gynnwys yn y ffeil .csv hefyd.
6. Y gwahaniaeth rhwng Mynegai Prisiau Tai y DU a mynegeion eraill
Ar hyn o bryd cyhoeddir nifer o ffynonellau gwahanol o ystadegau prisiau tai yn ogystal â Mynegai Prisiau Tai y DU. Bydd gwahaniaeth yn y data a gyhoeddir gan bob ffynhonnell oherwydd mae gwahaniaeth yn y data a’r fethodoleg a ddefnyddir. Er enghraifft, mae Rightmove yn defnyddio prisiau gofyn, mae ffynonellau fel Nationwide a Halifax yn defnyddio eu data cymeradwyo morgais eu hunain, tra bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data ar ddiwedd y broses drawsgludo, wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd. Darllenwch am y gwahaniaeth rhwng y mesurau mynegai prisiau tai gwahanol, eu cryfderau a’u cyfyngiadau yn ein cyhoeddiad Cymharu mynegeion prisiau tai yn y DU.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir fel rhan o Fynegai Prisiau Tai y DU oherwydd gwahaniaethau yn y cwmpas a chofrestru amserol, er bod y tueddiadau yn debyg.
Crynodeb lefel uchel
Cyfrifir Mynegai Prisiau Tai y DU ar sail gwerthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo. Mae hyn yn golygu er nad yw Mynegai Prisiau Tai y DU mor amserol o ran cyhoeddi â mesurau eraill, yn y pen draw mae’n fwy cyflawn ac yn cynnwys trafodion arian parod a thrafodion gyda morgais ar gyfer y DU gyfan. Mae’r ffynhonnell data mawr a ddefnyddir, cofrestriadau tir (megis y rhai a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF), yn golygu y gall data gael ei gyhoeddi i lawr i lefel awdurdod lleol ac mae dadansoddiadau pellach ar gael yn ôl y math o eiddo, statws y prynwr, statws ariannu a statws yr eiddo.
Mynegai prisiau tai Halifax a mynegai prisiau tai Nationwide
Mae Halifax a Nationwide yn cynhyrchu mynegeion prisiau tai yn seiliedig ar eu cymeradwyaethau morgais eu hunain ac felly ni fyddant yn cynnwys unrhyw drafodion arian parod. Mae’r ddau yn cwmpasu’r DU gyfan, a chan fod Halifax a Nationwide yn defnyddio eu data mewnol eu hunain yn unig, gallant brosesu’r data ar unwaith ac nid oes yn rhaid iddynt aros i gael data gan roddwyr benthyg eraill. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyhoeddi’r data yn fwy amserol na Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mynegai prisiau tai LSL Acadata
Yn debyg i ffynhonnell ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, mae Mynegai Prisiau Tai LSL Acadata (LSL Property Services/Acadametrics gynt) yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo gan ddefnyddio data o Gofrestrfa Tir EF ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn darparu canlyniadau cymysgedd ac wedi eu haddasu’n dymhorol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sirol neu awdurdod unedol neu fwrdeistref Llundain.
Gellir gweld y mynegai yn Acadata.
Mynegai prisiau tai Rightmove
Mae mynegai Rightmove yn cynnwys yr holl fathau o eiddo a hysbysebir ar ei wefan. Fodd bynnag, mae’n cynnwys tai nad ydynt yn gwerthu wedi hynny ac yn adrodd ar y prisiau gofyn yn unig. Os yw symudiadau mewn prisiau tai yn wahanol rhwng y tai sy’n gwerthu a’r tai nad ydynt yn gwerthu bydd hyn yn effeithio ar gywirdeb yr amcangyfrifon o brisiau tai a’r newidiadau ynddynt.
Ystadegau marchnad dai chwarterol swyddogol Cofrestri’r Alban
Bydd Cofrestri’r Alban yn parhau i gynhyrchu prisiau tai cyfartalog yn seiliedig ar ddulliau rhifyddol y trafodion hyn a gyhoeddir fel ystadegau marchnad dai chwarterol yn yr ail fis ar ôl y mis y cyfeiria’r ffigurau ato.
Ystadegau Prisiau Tai ar gyfer Ardaloedd Bach
Cyhoeddir Ystadegau Prisiau Tai ar gyfer Ardaloedd Bach (HPSSAau) yn chwarterol yn seiliedig ar ddata Pris a Dalwyd Cofrestrfa Tir EF. Nid mynegai prisiau tai yw HPSSAau gan nad ydynt yn rhoi cyfrif am newidiadau yn y cymysgedd o dai dros gyfnod o amser (addasiad cymysgedd), felly maent yn darparu ffigurau gwahanol i Fynegai Prisiau Tai y DU. Maent yn cofnodi gwerthoedd trafodion ar gyfartaledd heb eu haddasu hyd at ardal cynnyrch ehangach canolig.
Ystadegau Trafodion Eiddo Cyllid a Thollau EF
Mae data Cyllid a Thollau EF (HMRC) yn seiliedig ar ffurflenni Treth Tir Toll Stamp. Mae gan brynwyr 30 diwrnod o’r dyddiad cwblhau i anfon eu ffurflen trafodiad tir cyn i gosb gael ei chodi. Golyga hyn fod nifer trafodion Cyllid a Thollau EF yn fwy cyflawn na’r rhai a gyhoeddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU am y misoedd diwethaf. Mae nifer y trafodion a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF hefyd yn wahanol o ran cwmpas i’r rhai a gyhoeddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU.
Credwn mai’r prif reswm dros y gwahaniaeth hwn yw bod eiddo preswyl lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes wedi ei eithrio o ddata Cofrestrfa Tir EF ym Mynegai Prisiau Tai y DU ond wedi ei gynnwys yn ystadegau trafodion eiddo Cyllid a Thollau EF. Mae eithriadau data Mynegai Prisiau Tai y DU i’w gweld yn adran 2.
7. Ailgyhoeddi data
Cyhoeddir data Mynegai Prisiau Tai y DU o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Pan fyddwch yn defnyddio neu’n cyhoeddi data o adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, tablau cefndir yn y set ddata ystadegol: Mynegai Prisiau Tai y DU: lawrlwythiadau data neu declyn chwilio, bydd yn rhaid ichi ychwanegu’r datganiad priodoli canlynol:
Yn cynnwys data Cofrestrfa Tir EF © Hawlfraint y goron a hawl cronfa ddata 2020. Mae’r data hwn wedi ei drwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn 3.0.
Pan fyddwch yn cyhoeddi’r data, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys gwybodaeth am natur y data ac unrhyw ddyddiadau perthnasol ar gyfer y cyfnod dan sylw.
Ni fydd Cofrestrfa Tir EF nac unrhyw drydydd parti yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny’n uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu’n ganlyniadol, sy’n deillio o:
- unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn ym Mynegai Prisiau Tai y DU
- unrhyw benderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd trwy ddibynnu ar y data
Ni fydd Cofrestrfa Tir EF nac unrhyw drydydd parti yn gyfrifol ychwaith am golli adnoddau busnes, colli elw neu unrhyw iawndal cosbedigol anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu debyg, boed hynny mewn contract neu mewn camwedd neu fel arall, hyd yn oed os cafodd ei hysbysu am y posibilrwydd o iawndal o’r fath.
8. Tablau data
Pan gyhoeddir tablau data Mynegai Prisiau Tai y DU bob mis, maent yn cynrychioli ein barn orau ar y symudiadau hanesyddol mewn prisiau tai y pryd hynny. Wrth i wybodaeth newydd gael ei chyhoeddi, caiff y tablau eu diwygio i adlewyrchu unrhyw ddata newydd. Bob mis caiff data newydd ei ychwanegol a chaiff data’r deuddeg mis blaenorol ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw werthiannau a ychwanegwyd ar gyfer y misoedd hynny.
Gan fod Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae data gwerthiannau yn ffurfio’r sail ar gyfer ailbrisiadau domestig yn y dyfodol, caiff cyfres data prisiau Gogledd Iwerddon ei diwygio fel a phryd y bo angen er mwyn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir am werthiannau, felly dylai’r gyfres data a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o Ionawr 2005 gael ei defnyddio, sef Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon o Chwarter 1 2005.
8.1 Sut mae’r data hwn yn wahanol i’r data sydd ar gael o’r teclyn ‘Chwilio’r Mynegai Prisiau Tai’
Mae’r teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd i gwsmeriaid gynhyrchu adroddiadau printiadwy sy’n seiliedig ar ddata’r Mynegai Prisiau Tai. Gall yr adroddiadau gael eu llwytho i lawr hefyd ar ffurf CSV (comma-separated values) neu Turtle (Terse RDF Triple Language), a gellir gweld yr ymholiad SPARQL a gynhyrchir yn y cefndir. Mae’r rhagolwg amser real yn golygu ei bod yn rhwydd newid opsiynau chwilio ar gyfer prisiau cyfartalog, mynegeion, nifer y gwerthiannau a mathau o eiddo yn amrywio o Ionawr 1995 i’r data diweddaraf sydd ar gael.
Mae tablau data Mynegai Prisiau Tai ar gyfer cwsmeriaid a hoffai lwytho’r set ddata gyfan i lawr ar ffurf haws ei defnyddio sy’n cynnwys y data sy’n sail i Fynegai Prisiau Tai y DU. Mae’r tablau’n cynnwys y canlynol:
- ffeil llawn Mynegai Prisiau Tai y DU
- pris cyfartalog
- pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
- gwerthiannau
- gwerthiannau morgais arian parod
- prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
- adeilad newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd
- mynegai
- mynegai a addaswyd yn dymhorol
- pris cyfartalog a addaswyd yn dymhorol
- adfeddiannau
Mae’r ffeiliau canlynol hefyd ar gael gyda manylion am ddiwygiadau i’r data a gyhoeddwyd yn y 12 mis blaenorol:
- Diwygiadau’r DU
- Diwygiadau Lloegr
- Diwygiadau Cymru
- Diwygiadau’r Alban
- Diwygiadau Gogledd Iwerddon
Os hoffech ddeall mwy am y tablau data a’r gwahaniaeth rhwng y ffigurau, darllenwch y wybodaeth dechnegol ganlynol.
8.2 Ffurf y data
Mae’r data ar gael ar ffurf CSV a data cysylltiedig.
Cyhoeddir y data mewn colofnau yn y drefn a nodir yn y tabl. Nid ydym yn darparu penawdau i’r colofnau yn y ffeiliau. Mae manylion yr acronymau fel a ganlyn:
- FTB: prynwr am y tro cyntaf
- FOO: cyn berchen-feddiannydd
| Pennawd y golofn | Eglurhad |
|---|---|
| Date | Y flwyddyn a’r mis y mae’r ystadegau misol yn berthnasol iddynt |
| RegionName | Enw’r ddaearyddiaeth (Gwlad, Rhanbarthol, Awdurdod Sirol/Unedol/Dosbarth a bwrdeistrefi Llundain) |
| AreaCode | Cod y ddaearyddiaeth (Gwlad, Rhanbarthol, Awdurdod Sirol/Unedol/Dosbarth a bwrdeistrefi Llundain) |
| Average Price | Prisiau tai cyfartalog ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| Index | Mynegai prisiau tai ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
| IndexSA | Prisiau tai wedi eu haddasu’n dymhorol ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
| 1m%change | Y newid canrannol yn y Pris Cyfartalog o’i gymharu â’r mis blaenorol |
| 12m%change | Y newid canrannol yn y Pris Cyfartalog o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
| AveragePricesSA | Pris cyfartalog wedi ei addasu’n dymhorol ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| [Property Type]Price | Prisiau tai cyfartalog ar gyfer math penodol o eiddo (megis tai sengl), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| [Property Type]Index | Mynegai prisiau tai ar gyfer math penodol o eiddo (megis tai sengl), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
| [Property Type]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Property Type] (megis tai sengl), o’i gymharu â’r mis blaenorol |
| [Property Type]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Property Type] (megis tai sengl), o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
| [Cash/Mortgage]Price | Pris tai cyfartalog yn ôl statws ariannu (megis arian parod), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| [Cash/Mortgage]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws ariannu (megis arian parod), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
| [Cash/Mortgage]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Cash/Mortgage] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
| [Cash/Mortgage]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Cash/Mortgage] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
| [Cash/Mortgage] Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig [Cash/Mortgage] ar gyfer ardal ddaearyddol mewn cyfnod arbennig |
| [FTB/FOO]Price | Pris tai cyfartalog yn ôl statws y prynwr (megis prynwr am y tro cyntaf/cyn berchen-feddiannydd, ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| [FTB/FOO]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws y prynwr (megis prynwr am y tro cyntaf/cyn berchen-feddiannydd), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol. (Ionawr 2015=100) |
| [FTB/FOO]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [FTB/FOO] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
| [FTB/FOO]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [FTB/FOO] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
| [New/Old]Price | Pris cyfartalog tai yn ôl statws eiddo (megis eiddo newydd neu eiddo presennol), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
| [New/Old]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws eiddo (megis eiddo newydd neu eiddo presennol), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100). |
| [New/Old]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [New/Old] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
| [New/Old]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [New/Old] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
| [New/Old] Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig [New/Old] ar gyfer ardal ddaearyddol mewn cyfnod arbennig |
8.3 Sut i gyrchu’r data
Cyhoeddir data Mynegai Prisiau Tai y DU yn fisol ar ffurf CSV a data cysylltiedig ar data.gov.
8.4 Addasiadau tymhorol
Y gwahaniaeth rhwng y tablau a elwir Mynegai a Mynegai (Wed ei Addasu’n Dymhorol):
- mae’r tabl Mynegai yn cynnwys mynegai prisiau eiddo preswyl misol ar lefel ranbarthol, sirol/awdurdod unedol a bwrdeistref Llundain.
- mae’r tabl Mynegai (Wedi ei Addasu’n Dymhorol) yn cynnwys mynegeion prisiau eiddo preswyl misol wedi eu haddasu’n dymhorol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
8.5 Newid misol a newid blynyddol
Data a gyflwynir yn y tablau Newid Misol a Newid Blynyddol:
- mae’r tabl Newid Misol yn cynnwys ffigurau newid misol sy’n cynrychioli’r newid canrannol yn y mynegai o fis i fis.
- mae’r tabl Newid Blynyddol yn cynnwys ffigurau newid blynyddol. Mae’r rhain yn cynrychioli’r newid canrannol yn y mynegai dros y deuddeg mis diwethaf.
8.6 Tabl nifer y gwerthiannau
Mae’r tabl hwn yn cynnwys cyfrifiadau o’r holl werthiannau sydd wedi eu cynnwys yn y gofrestr electronig adeg tynnu’r data. Mae’r oedi wrth gasglu data yn effeithio ar y misoedd diweddaraf yn bennaf. Felly mae’r ddau fis mwyaf diweddar heb eu cynnwys yn y data hwn er mwyn osgoi cyhoeddi niferoedd camarweiniol.
Mae data nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws yr eiddo (adeilad newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws ariannu (arian parod a morgais) yn ein tablau data lawrlwythadwy. Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU i gael rhagor o wybodaeth.
Oherwydd na allwn nodi statws ariannu pob trafodiad eiddo efallai na fydd nifer y gwerthiannau am arian parod/gyda morgais fod yn hafal i’r cyfanswm.
8.7 Lefelau cyflwyno’r data
Mae’r data wedi ei gyflwyno fel a ganlyn:
- ‘Newid Misol’
- ‘Mynegai’
- ‘Newid Blynyddol’
- ‘Prisiau Cyfartalog’
- Mae ‘Nifer y Gwerthiannau’ wedi eu nodi ar lefel genedlaethol, ranbarthol, sirol/awdurdod unedol, awdurdod lleol a bwrdeistref Llundain
Cyflwynir data mewn tablau ‘Prisiau Cyfartalog (Wedi eu Haddasu’n Dymhorol)’ a ‘Mynegai (Wedi ei Addasu’n Dymhorol)’ ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
9. Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU
9.1 Am y teclyn chwilio
Mae teclyn chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd ichi deilwra chwiliadau o’r data Prisiau Tai trwy ddefnyddio ardaloedd, dyddiadau, mathau o dai a dangosyddion penodol.
9.2 Porwyr a gefnogir
Er Ebrill 2014, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn profi meddalwedd cymwysiadau newydd a ryddheir yn erbyn Microsoft Windows XP a Microsoft Internet Explorer 8.
Cefnogir Microsoft Internet Explorer 9 ymlaen, Safari 7 ymlaen a fersiwn diweddaraf porwyr sy’n diweddaru’n awtomatig, megis Mozilla Firefox a Google Chrome.
9.3 Eitemau data a ddangosir
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF trwy ddefnyddio data gwerthiannau a gesglir ar drafodion tai preswyl.
Mae’r data ar gael trwy:
- Math o eiddo – er enghraifft Tŷ sengl, Tŷ pâr, Tŷ teras, Fflat neu Holl
- Statws y prynwr – er enghraifft Prynwr am y Tro Cyntaf neu Gyn-berchen Feddiannydd
- Statws ariannu – er enghraifft Arian Parod a Morgais
- Statws yr eiddo – er enghraifft Adeiladau newydd ac Adeiladau sy’n bodoli
| Eitem data | Disgrifiad |
|---|---|
| Mynegeion Prisiau Tai | Cofnodi newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl o sylfaen o 100 a osodwyd yn Ionawr 2015. |
| Newid Misol | Y newid canrannol yn y mynegai o fis i fis. |
| Newid Blynyddol | Y newid canrannol yn y mynegai dros y 12 mis diwethaf. |
| Nifer y Gwerthiannau | Nifer y gwerthiannau y seilir y dadansoddiad arnynt. Mae’r ffigurau’n cynnwys yr holl werthiannau a gofnodir yn ein Set Ddata Pris a Dalwyd pan dynnir y data. Mae’n bosib na fydd gwerthiannau yn y misoedd mwyaf diweddar yn adlewyrchu’r nifer gwirioneddol o werthiannau oherwydd yr oedi wrth gofrestru, a chânt eu diwygio dros 12 mis. Nid yw data gwerthiannau ar gael ar gyfer statws y prynwr. |
| Pris Cyfartalog | Prisiau cyfartalog safonedig. Gellir cael pris ar gyfer pob eiddo neu wahanu’r prisiau yn ôl math o eiddo. |
9.4 Sut i weld eich canlyniadau
Cyflwynir ein data Mynegai Prisiau Tai y DU ar lefel genedlaethol, ranbarthol, sirol a bwrdeistref neu ddosbarth metropolitan. Pan ddechreuwch deipio enw ardal fe welwch gwymplen gyda rhestr o’r lleoliadau sydd ar gael. Dewiswch y lleoliad dewisol o’r rhestr i ddechrau chwilio.
Os nad ydych yn siwr pa ardaloedd y gellir adrodd arnynt, defnyddiwch yr eicon map i weld yr ardaloedd gwahanol sydd ar gael.
Gallwch gymharu hyd at 5 lleoliad gan ddefnyddio ein teclyn cymharu.
9.5 Gweld canlyniadau
I gychwyn mae’r teclyn chwilio yn cyflwyno canlyniadau ar gyfer y DU ar gyfer y 12 mis blaenorol gan ddangos y Mynegai, y pris cyfartalog, niferoedd, y newid canrannol misol a blynyddol ar ffurf tabl a graff. Gallwch newid yr opsiynau (dyddiad, lleoliad, dangosyddion a mathau o eiddo).
9.6 Y data sydd ar gael
Mae’r holl ddata sydd ar gael bellach wedi ei gynnwys yn y teclyn chwilio, ond nid yw’r holl ddata ar gael ar gyfer pob sir:
- Ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon nid yw data ar gael ar lefel ranbarthol neu sirol
- Mae data hanesyddol (rhwng 1968 a 1995) ar gael ar lefel gwlad a rhanbarth yn chwarterol yn unig
- Nid yw data statws eiddo yn cynnwys y ddau fis diweddaraf gan fod yr amcangyfrifon cyntaf ar gyfer adeiladau newydd yn seiliedig ar sampl fechan a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrifon cychwynnol
- Nid yw data cyfaint yn cynnwys y ddau fis diweddaraf gan nad yw’r data wedi ei gwblhau. Ein nod yw adrodd ar wybodaeth gywir a dibynadwy ac felly nid ydym am ryddhau data cyfaint gwerthiannau sydd â’r potensial i fod yn gamarweiniol os caiff ei ddyfynnu allan o’i gyd-destun
- Nid yw data cyfaint ar gyfer statws y prynwr ar gael.
9.7 Y gwahaniaeth rhwng teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU a’r tablau data
Mae teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd i gwsmeriaid gynhyrchu adroddiadau y gellir eu llwytho i lawr sy’n seiliedig ar ddata’r Mynegai Prisiau Tai. Gall yr adroddiadau gael eu llwytho i lawr ar ffurf CSV neu Turtle, a gellir gweld yr ymholiad SPARQL a gynhyrchir yn y cefndir. Mae’r rhagolwg amser real yn cynnig opsiynau chwilio ar gyfer prisiau cyfartalog, mynegeion, nifer y gwerthiannau a mathau o eiddo yn amrywio o 1968 i’r data diweddaraf sydd ar gael.
9.8 Arwyddocâd y statws Beta
Mae’r statws beta yn golygu y gallwn adolygu’r gwasanaeth a gwneud newidiadau i’r ffurf bresennol. Byddwn yn casglu adborth yn ystod y cyfnod BETA a lle bo hynny’n briodol yn gwneud newidiadau i’r teclyn chwilio.
10. Calendr dyddiadau rhyddhau
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU ar yr ail neu’r trydydd dydd Mercher ymhob mis, gyda ffigurau Gogledd Iwerddon yn cael eu diweddaru bob chwarter. Ceir adegau, fel misoedd sy’n cynnwys gwyliau cyhoeddus a diwedd y flwyddyn ariannol, lle cyhoeddir y data ar y pedwerydd dydd Mercher neu ar ddiwrnod arall.
10.1 Dyddiadau cyhoeddi ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU
| Mis a blwyddyn y data | Amser a dyddiad cyhoeddi |
|---|---|
| Awst 2025 | 22 Hydref 2025 (9:30am) |
| Medi 2025 | 19 Tachwedd 2025 (9:30am) |
| Hydref 2025 | 17 Rhagfyr 2025 (9:30am) |
| Tachwedd 2025 | 21 Ionawr 2026 (9:30am) |
| Rhagfyr 2025 | 18 Chwefror 2026 (9:30am) |
| Ionawr 2026 | 25 Mawrth 2026 (9:30am) |
| Chwefror 2026 | 22 Ebrill 2026 (9:30am) |
| Mawrth 2026 | 20 Mai 2026 (9:30am) |
| Ebrill 2026 | 17 Mehefin 2026 (9:30am) |
| Mai 2026 | 22 Gorffennaf 2026 (9:30am) |
| Mehefin 2026 | 19 Awst 2026 (9:30am) |
| Gorffennaf 2026 | 16 Medi 2026 (9:30am) |
| Awst 2026 | 21 Hydref 2026 (9:30am) |
| Medi 2026 | 18 Tachwedd 2026 (9:30am) |
| Hydref 2026 | 16 Rhagfyr 2026 (9:30am) |
11. Mynediad cyn rhyddhau
Ar 15 Mehefin 2017, cyhoeddodd yr Ystadegydd Gwladol y byddai’r gallu i weld ystadegau Swyddfa’r Ystadegau Gwladol cyn eu rhyddhau yn dod i ben o 1 Gorffennaf 2017.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn gyhoeddiad ar y cyd gan Gofrestrfa Tir EF, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestri’r Alban. Bydd yr adrannau hyn yn parhau i weithio gyda’i gilydd i’w gynhyrchu ond ni fydd gweinidogion a’r swyddogion hynny nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chynhyrchu a rhyddhau ystadegau yn eu gweld cyn iddynt gael eu cyhoeddi.
12. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost
eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 006 5288
Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn
028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk
Ffôn
07919 570915
Erthyglau cysylltiedig
Darllenwch am y newidiadau a wnaed i Fynegai Prisiau Tai y DU ynghyd ag erthyglau cysylltiedig:
- Comparing house price indices in the UK
- Quality assurance of administrative data in the UK House Price Index
- Improving the UK HPI: Summary of responses
- The UK House Price Index marks one year of publishing – 13 Mehefin 2017
- UK House Price Index: new data reveals number of cash buyers – 17 Hydref 2017
- Our UK HPI changes: greater accuracy, fewer revisions – 15 Tachwedd 2017
- New features for the UK House Price Index search tool and reports – 16 Ionawr 2018