Collection

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau

Adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ar ffurf CSV.

Mae’r casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ystadegyn Cenedlaethol yw Mynegai Prisiau Tai y DU. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon bob chwarter.

Mae ailgyhoeddi data yn egluro’r amodau defnyddio. Trwy lawrlwytho’r data rydych yn cytuno i’r amodau hynny.

Cyhoeddi’r Mynegai Prisiau Tai nesaf

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2025 am 9.30am ddydd Mercher 18 Chwefror 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon

Rydym wedi newid y ffordd y cyhoeddir nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon ac wedi cywiro’r ffordd rydym yn eu cynnwys yn ffigurau’r DU. Rydym wedi cynhyrchu amcangyfrif misol trwy rannu cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y chwarter yng Ngogledd Iwerddon â 3.

Yn flaenorol, roedd data chwarterol Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn nata nifer gwerthiannau misol y DU, a oedd yn arwain at ffigurau gwerthiant uwch na’r disgwyl.

Diwygiadau data

Yn dilyn adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o fis Ionawr 2021 ymlaen i 20 Mawrth 2024, i wneud defnydd o ddata prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis, rydym wedi nodi gwall yng nghyfrifon trafodion arian parod a morgais ar gyfer data’n rhychwantu Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi effeithio ar fynegeion a lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Cywirwyd cyfrif trafodion arian parod a morgais ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022 yn nata Mynegai Prisiau Tai y DU a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024 ac yn dilyn datganiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Newid methodoleg ar gyfer eiddo newydd

Mae’n cymryd amser i drafodion eiddo gael eu prosesu a bod ar gael mewn data prisiau a data nodweddion eiddo i’w cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae’r broses hon yn cymryd yn hwy ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd nag ar gyfer eiddo sy’n bodoli, sy’n arwain at gyfran is o werthiannau eiddo a adeiledir o’r newydd sydd ar gael i gyfrifo’r amcangyfrif pris a mynegai cychwynnol nag ar gyfer gwerthiannau eiddo sy’n bodoli. Felly, rydym yn dileu nifer y gwerthiannau a gadarnhawyd ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf (neu’r ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon). Fodd bynnag, mae digon o werthiannau gennym i sicrhau bod prif ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU yn gadarn ac yn gywir.

Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer a chyflenwad y trafodion tai a broseswyd, gwnaethpwyd rhai newidiadau methodoleg dros dro rhwng 2020 a 2025 oherwydd yr effaith fwy ar brosesu eiddo “a adeiledir o’r newydd” na phrosesu “hen” eiddo. Er mwyn helpu i roi sylw i hyn, rydym wedi cyfuno trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd ar gyfer rhai misoedd yng Nghymru a Lloegr er 2020. Fel arfer, defnyddiwyd “cyfuno eiddo a adeiledir o’r newydd” ar gyfer chwe mis o amcangyfrifon: yr 2il i’r 7fed amcangyfrif.

Ar 20 Awst 2025 cyflwynwyd gwelliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, wedi ei gymhwyso o Ionawr 2025, gan gynyddu cywirdeb amcangyfrifon cychwynnol Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae dadansoddiad yn dangos bod y gwelliant hwn yn fwy effeithiol na chyfuno, felly cafodd cyfuno ei ddileu’n raddol, ac yn gymwys ar gyfer yr 2il i’r 7fed amcangyfrif yn unig ar gyfer cyfnodau oedd heb eu cyfrifo trwy ddefnyddio’r dull cyfrifo wedi ei wella. Roedd hyn yn golygu bod cyfuno eiddo a adeiledir o’r newydd wedi cael ei ddileu’n raddol, ac nid yw’n cael ei gymhwyso mwyach ar gyfer unrhyw amcangyfrifon misol o ddatganiad 22 Hydref 2025. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eiddo a adeiledir o’r newydd i’w gweld yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.

Mae’r gwelliant cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU a gyflwynwyd ar 20 Awst 2025 yn lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF wedi bod yn cydweithio i wella nifer y trafodion sydd ar gael i’w defnyddio ym Mynegai Prisiau Tai y DU a lleihau maint y diwygiadau. Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella.

Cynghorir defnyddwyr y gall amcangyfrifon ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd fod yn llai cynrychioliadol a gall diwygiadau i amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol. Dylai defnyddwyr nodi’r ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd oherwydd argaeledd isel data eiddo a adeiledir o’r newydd ar gyfer y misoedd diweddaraf.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.

Awst 2025

Am Fynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae’r cyfarwyddyd canlynol yn cynnwys:

Adroddiadau a data wedi eu harchifo

Updates to this page

Published 27 January 2021
Last updated 26 September 2025 show all updates
  1. Added the July 2025 index.

  2. Added the April 2025 index.

  3. Added the March 2025 index.

  4. Added the September 2024 index.

  5. Added the July 2024 index.

  6. Added the March 2024 index.

  7. Added the February 2024 index.

  8. Added the January 2024 index.

  9. Added the December 2023 index.

  10. Added the November 2023 index.

  11. Added the October 2023 index.

  12. Added the September 2023 index.

  13. Added the August 2023 index.

  14. Added the July 2023 index.

  15. Added the May 2023 index.

  16. Added the April 2023 index.

  17. Added the March 2023 index.

  18. Added the February 2023 index.

  19. Added the January 2023 index.

  20. Added the December 2022 index.

  21. Added the November 2022 index.

  22. Added the October 2022 index.

  23. Added the September 2022 index.

  24. Added the August 2022 index.

  25. Added the July 2022 index.

  26. Added the June 2022 index.

  27. Added May 2022 index.

  28. Added the April 2022 index.

  29. Added the March 2022 index.

  30. Added February 2022 index.

  31. Added January 2022 index.

  32. Added December 2021 index.

  33. Added November 2021 index.

  34. Added October 2021 index.

  35. Added September 2021 index.

  36. Added August 2021 index.

  37. Added July 2021 index.

  38. Added June 2021 index.

  39. Added May 2021 index.

  40. Added April 2021 index.

  41. Added March 2021 index.

  42. Added February 2021 index.

  43. Added January 2021 index.

  44. Added December 2020 index.

  45. First published.