Skip to main content

Ein llywodraethiant


Bwrdd CMA

Bydd bwrdd y CMA yn:

  • sicrhau bod y CMA yn cyflawni ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau statudol a bod egwyddorion llywodraethu corfforaethol da yn cael eu dilyn
  • sefydlu cyfeiriad strategol cyffredinol y CMA sy’n cyd-fynd â’r fframwaith polisi a nodir o dan Ddeddf ERR 2013
  • ystyried unrhyw farn ac adroddiadau gan Swyddog Cyfrifyddu’r CMA a sicrhau bod y CMA yn gwneud defnydd priodol o arian cyhoeddus

Mae’r bwrdd hefyd yn gyfrifol am:

  • benderfynu a ddylid cyhoeddi hysbysiad astudiaeth o’r farchnad ac a ddylid cyfeirio marchnad at ymchwiliad cam 2
  • ystyried cynigion y cynllun blynyddol
  • yr adroddiadau perfformiad a chydredol blynyddol
  • gwneud rheolau gweithdrefn ar gyfer grwpiau cyfeirio uno busnesau, grwpiau cyfeirio marchnad, a grwpiau cyfeirio arbennig.

Mae rheolau gweithdrefnau bwrdd y CMA (in English) yn nodi pa mor aml y bydd y bwrdd yn cyfarfod, cworwm, gweithdrefn mewn cyfarfodydd, a gwybodaeth ffurfiol arall.

Mae’r bwrdd wedi awdurdodi’r Cadeirydd, staff y CMA, a Chadeirydd y Panel i gyflawni swyddogaethau penodol ar ei ran. Gweler dogfen awdurdodi’r bwrdd (in English) am fanylion.

Mae’r bwrdd wedi cytuno ar bolisi gwrthdaro buddiannau (in English) ar gyfer y CMA, sy’n berthnasol i aelodau’r bwrdd, aelodau’r panel, ac aelodau staff. Fel rhan o hyn, mae cofrestr o fuddiannau ar gyfer aelodau’r bwrdd (in English) wedi’i datblygu a’i chyhoeddi ar wefan y CMA.

Aelodau’r bwrdd

Cynghorwyr y bwrdd

Panel CMA

Rhaid i rai o swyddogaethau’r CMA gael eu cyflawni gan y panel CMA. Mae gan aelodau’r panel gyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir ac maent yn gweithredu fel gwneuthurwyr penderfyniadau newydd mewn ymchwiliadau marchnad cam 2, ymholiadau uno busnesau a chyfeiriadau ac apeliadau rheoleiddiol. Gellir penodi aelodau’r panel hefyd i grwpiau penderfynu achosion gwrth-ymddiriedaeth (Deddf Cystadleuaeth 1998).

Penodir aelodau i’r panel CMA gan yr Adran Busnes a Masnach am hyd at 8 mlynedd. Fe’u penodir drwy gystadleuaeth agored am eu profiad, eu gallu a’u hamrywiaeth o sgiliau mewn economeg cystadleuaeth, cyfraith, cyllid a busnes.

Mae’r panel â 25 aelod ac mae’n cynnwys grŵp bach o Gadeiryddion Ymchwilio. Mae Cadeirydd y CMA, gyda chydsyniad y bwrdd, yn penodi Cadeirydd Panel CMA sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am arwain y panel, ac sy’n dyrannu Cadeiryddion Ymchwilio ac aelodau panel i bob achos. Penodir o leiaf un aelod o’r panel (fel arfer Cadeirydd y Panel ac un Cadeirydd Ymchwilio arall) i fwrdd y CMA hefyd.

Nid yw rôl goruchwylio’r bwrdd yn ymestyn i sylwedd penderfyniadau gan grwpiau ar waith cam 2. Mae’r grwpiau’n gwneud eu penderfyniadau’n annibynnol ar y bwrdd. Caiff y bwrdd ei hysbysu am bennu adnoddau, effeithlonrwydd, gweithredu polisi CMA a’r prosesau staff sy’n cefnogi gwaith y panel.

Cadeirydd y Panel a Chadeirydd Ymchwilio

Cadeiryddion Ymchwilio

Aelodau’r panel

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r aelodau ar gael ym mywgraffiadau aelodau’r panel a datgeliadau buddiant. Mae gan y CMA god ymddygiad ar gyfer aelodau’r panel hefyd sy’n nodi eu rhwymedigaethau cyffredinol.

Am unrhyw ymholiadau ynghylch aelodau’r panel, anfonwch e-bost at panel.members@cma.gov.uk.

Pwyllgorau a phaneli cynghori CMA

Pwyllgorau’r bwrdd

Panel Cwnsleriaid Sefydlog

Er mwyn parhau i wneud penderfyniadau cadarn a chyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y llys, mae angen i’r CMA allu galw ar banel o gwnsleriaid arbenigol iawn a all:

  • roi blaenoriaeth i achosion y CMA
  • cynrychioli’r CMA yn y llys
  • helpu i ddarparu hyfforddiant pwrpasol i staff CMA

Sefydlodd y CMA ei Chwnsleriaid Sefydlog cyntaf yn 2015 ac ers hynny mae wedi ehangu i ddiwallu gofynion cynyddol y CMA. Mae’r panel bellach yn cynnwys 20 aelod profiadol, gyda phob un ohonynt yn dod â chyfoeth o arbenigedd ar draws gweithgareddau’r CMA.

Mae’r panel yn cynnwys 7 sidanwr:

  • Catherine Addy CB o Siambrau Maitland (penodwyd yn 2021)
  • Alexander Cook CB o 4 Stone Buildings (penodwyd yn 2021)
  • Josh Holmes CB o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2021)
  • Tristan Jones CB o Siambrau Blackstone (penodwyd yn 2021)
  • Ben Lask CB o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2017)
  • Toby Riley-Smith CB o Siambrau Henderson (penodwyd yn 2021)
  • Rob Williams CB o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2015)

Mae’r panel hefyd yn cynnwys 13 o gwnsleriaid ieuaf:

  • Arnold Ayoo o Siambrau Maitland (penodwyd yn 2025)
  • Michael Armitage o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2021)
  • Yr Athro David Bailey o Siambrau Brick Court (penodwyd yn 2015)
  • James Bourke o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2025)
  • Tom Coates o Siambrau Blackstone (penodwyd yn 2025)
  • Julian Gregory o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2025)
  • Narinder Jhittay o Siambrau Maitland (penodwyd yn 2025)
  • Julianne Kerr Morrison o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2021)
  • Anna Lintner o Siambrau Maitland (penodwyd yn 2025)
  • Daisy Mackersie o Siambrau Monckton (penodwyd yn 2021)
  • Jennifer MacLeod o Siambrau Brick Court (penodwyd yn 2025)
  • Anna Medvinskaia o Siambrau Henderson (penodwyd yn 2025)
  • Thomas Sebastian o Siambrau Essex Court (penodwyd yn 2025)

Panel OIM

Mae Office for the Internal Market (in English) (OIM) yn rhan o’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Mae’r Panel OIM yn cynorthwyo’r OIM i gyflawni ei swyddogaethau, fel y nodir yn Neddf Marchnad Fewnol y DU. Mae Cadeirydd y Panel OIM, Murdoch MacLennan, yn eistedd ar Fwrdd y CMA.

Cadeirydd y Panel OIM

Aelodau’r Panel OIM