Mynediad i'r swyddfa ac amseroedd agor

Amseroedd a diwrnodau rydym ar agor ar gyfer busnes. Gwybodaeth am fynediad i'r cyhoedd ac anfon post i Dŷ'r Cwmnïau.


Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. Mae gennym swyddfeydd hefyd ym Melfast a Chaeredin.

Gallwch gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30yb i 6yp.

Ymholiadau cyffredinol (DU)  
enquiries@companieshouse.gov.uk 
Ffôn: 0303 1234 500

Mae ein llinellau cyswllt ffôn a’n swyddfeydd ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus.

Tŷ’r Cwmnïau Caerdydd

Mae’n rhaid i chi gael apwyntiad i ymweld â’n swyddfa yng Nghaerdydd, neu ni fyddwch yn cael caniatâd ar y safle. Gallwch gyflwyno dogfennau papur i’n blwch post allanol, ond ni allwn ddarparu derbynneb na phrawf danfon.

Tŷ'r Cwmnïau

Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Cyflwyno dogfennau drwy’r post

Rhaid i gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban anfon pob dogfen i’n prif swyddfa yng Nghaerdydd.

Rhaid i gwmnïau sydd wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon anfon pob dogfen i’n swyddfa ym Melfast.

Os na fyddwch yn anfon eich dogfennau i’r cyfeiriad cywir, bydd eich post yn cael ei ailgyfeirio a bydd yn cymryd mwy o amser i’n cyrraedd.

Gallwn gydnabod derbyn dogfennau os ydych yn darparu amlen wedi’i stampio a chopi o’ch llythyr eglurhaol. Mae hyn ond yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich dogfen - nid yw’n golygu ei bod wedi’i chofrestru.

Ffyrdd eraill o ffeilio

Mae’n gyflymach i ffeilio gwybodaeth eich cwmni ar-lein.

Gallwch hefyd uwchlwytho rhai ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau yn hytrach na’u hanfon drwy’r post.

Os oes angen i chi gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau, byddwch fel arfer yn cael ymateb cyflymach trwy e-bost.

Pa wybodaeth i’w chynnwys

Rhaid i chi gynnwys enw a rhif eich cwmni llawn ar bob dogfen, heb unrhyw dalfyriadau. Er enghraifft, ni all ‘A Demo Company Limited’ fyrhau’r enw i ‘A Demo Co Ltd’.

Rhaid danfon pob dogfen i Dŷ’r Cwmnïau yn y fformat cywir, neu byddant yn cael eu dychwelyd i’r cwmni (neu’r cyflwynydd).

Darllenwch reolau a phwerau’r cofrestrydd am fwy o wybodaeth.

Cyflwyno cyfrifon

Rhaid i chi gyflwyno’ch cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau erbyn y dyddiad cau, neu bydd eich cwmni’n cael cosb ffeilio hwyr.

Gallwch chwilio am gofnod eich cwmni  i weld eich dyddiadau cau ffeilio a gwirio bod manylion eich cwmni yn gyfredol.

Darllenwch ein cyfarwyddyd ar ffeilio eich cyfrifon Tŷ’r Cwmnïau.

Oedi drwy’r post

Dylai unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau yn Nŷ’r Cwmnïau ddeall eu cyfrifoldebau cyfreithiol a’u dyletswyddau o fod yn gyfarwyddwr cwmni.

Dylech:

  • fod yn ymwybodol y gallai gwasanaethau post a gwasanaethau dosbarthu eraill fod yn destun colled neu oedi
  • nodi unrhyw anghydfodau diwydiannol neu ffactorau eraill a allai ei gwneud hi’n anodd i gludwr gyflawni ar amser
  • defnyddio gwasanaeth dosbarthu gwarantedig wrth bostio’n agos at ddyddiad cau

Ni allwn dderbyn oedi wrth deithio fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.